Mae cwmni peirianneg Cymreig yn chwarae rhan hollbwysig yn yr ymdrechion i ailadeiladu Wcráin ar ôl ennill contract gwerth £1.1 miliwn i gynhyrchu hytrawstiau dur ar gyfer pont newydd ger Kyiv a ddistrywiwyd yn ystod y rhyfel â Rwsia.

Sicrhaodd Pro Steel Engineering o Bont-y-pŵl y contract gan Grŵp ONUR yn dilyn proses dendro gystadleuol dros 2.5 mlynedd, gan drechu cystadleuaeth o bob cwr o’r DU i ddarparu 200 tunnell o hytrawstiau dur sydd i’w gosod yn y flwyddyn newydd.

Pro Steel Engineering

Mae’r cytundeb yn garreg filltir arwyddocaol i’r cwmni, gan mai hwn yw ei brosiect cyntaf i gael cymorth gan UK Export Finance ac am ei fod yn dangos cystadleurwydd byd-eang gweithgynhyrchu yng Nghymru. Bydd y contract yn creu dwy swydd newydd yn y cwmni, sy’n cyflogi 35 o bobl ar hyn o bryd ac sydd â throsiant blynyddol o £17 miliwn.

Roedd rhaid i Pro Steel fodloni safonau weldio llym Wcráin i sicrhau’r contract, gan arddangos y rhagoriaeth dechnegol a’r gallu i addasu sydd wedi nodweddu’r busnes ers ei sefydlu yn 2012.

Mae Pro Steel wedi cael cymorth Rhaglen Cyflymu Twf (RCT) Busnes Cymru, sy’n darparu cymorth wedi’i dargedu i gwmnïau uchelgeisiol sy’n tyfu.

Meddai Rheolwr Gyfarwyddwr Pro Steel Engineering, Richard Selby:

“Mae ennill y contract hwn yn achos balchder enfawr i’r tîm cyfan. Mae gwybod y bydd ein gwaith ni’n cyfrannu i ailadeiladu seilwaith allweddol yn Wcráin ac yn helpu cymunedau i ailgysylltu yn golygu llawer i bawb yma.

“Roedd y broses dendro’n hir ac yn heriol o safbwynt technegol, yn enwedig o ystyried gofynion weldio llym Wcráin yr oedd yn rhaid i ni eu bodloni, ond mae wedi dangos y gall peirianneg Cymru gystadlu ac ennill ar lwyfan y byd.

“Mae’r cymorth rydyn ni wedi’i gael gan y Rhaglen Cyflymu Twf, ac yn enwedig gan Carmel, ein rheolwr perthnasoedd, wedi bod yn amhrisiadwy drwy gydol ein taith i dyfu. Mae cael yr arweiniad a’r rhwydwaith arbenigol hynny wedi ein helpu ni i fagu’r gallu a’r hyder i ddilyn ac ennill contractau ar y raddfa hon ac o’r pwysigrwydd hwn.”

Meddai Rheolwr Gweithrediadau’r Rhaglen Cyflymu Twf, Lucy Jones:

“Rydyn ni’n anhygoel o falch o weld Pro Steel yn ennill y contract pwysig hwn. Mae llwyddiant Pro Steel yn dangos cryfder ac arloesedd gweithgynhyrchu Cymru. Mae eu gallu i fodloni gofynion rhyngwladol heriol a sicrhau’r contract hwn trwy UK Export Finance yn dangos safon y busnesau sydd gennym ni yma yng Nghymru. Dyma’r union fath o dwf ac effaith fyd-eang y mae’r Rhaglen Cyflymu Twf yn anelu at eu cefnogi.”

Caiff yr hytrawstiau dur eu cynhyrchu yn safle Pro Steel ym Mhont-y-pŵl cyn cael eu cludo i Wcráin i’w gosod yn y flwyddyn newydd, gan helpu i adfer cyswllt trafnidiaeth hanfodol ar gyfer cymunedau lleol.

I gael rhagor o wybodaeth gweler: www.prosteelengineering.co.uk 

Share this page

Print this page