TB Davies o Gaerdydd yw un o enwau mwyaf dibynadwy’r DU ym maes offer i weithio’n ddiogel ar uchder. Sefydlwyd y busnes teuluol yn 1945, ac mae’n darparu ysgolion, grisiau, a thyrau i weithwyr proffesiynol ac aelwydydd ers bron 80 mlynedd. Heddiw, mae’n gwasanaethu manwerthwyr pwysig megis Screwfix ac Amazon, gan greu refeniw blynyddol o £8 miliwn.

Ond mae TB Davies hefyd yn profi y gall busnesau treftadaeth fod yn arweinwyr ym maes twf gwyrdd. Gyda chymorth Rhaglen Cyflymu Twf (RCT) Busnes Cymru, mae’r cwmni wedi datblygu cynllun lleihau carbon arobryn ac wedi cyflawni ardystiad ISO 14001, sef meincnod a gydnabyddir yn rhyngwladol ar gyfer rheolaeth amgylcheddol.

O newid i bŵer solar a cherbydau hybrid i ddylanwadu ar ei gadwyn gyflenwi, mae TB Davies yn ymgorffori cynaliadwyedd ar draws pob agwedd ar ei weithrediadau. Mae’r Cyfarwyddwr Diogelwch, Iechyd, Amgylchedd ac Ansawdd, Mat Gray, yn rhannu sut helpodd RCT y cwmni i gyflymu’i daith i leihau carbon a phennu safon newydd i’r diwydiant.

TB Davies

Sut helpodd RCT TB Davies i symud ymlaen at Sero Net?

Bu cymorth RCT yn gaffaeliad mawr. Roedden ni eisoes wedi cymryd rhai camau, megis gosod paneli solar a lleihau pecynnau plastig, ond doedd gennym ddim y ddealltwriaeth i greu cynllun datgarboneiddio manwl oedd yn seiliedig ar ddata.

Cysylltodd RCT ni ag interniad cynaliadwyedd arbenigol a rhoi mynediad i ni at offer ymarferol a gweminarau dan arweiniad arbenigwyr. O’r herwydd, roedd modd i ni symud yn gyflym o fwriadau da i gamau mesuradwy. Erbyn hyn mae gennym ni fap clir ar gyfer cyrraedd Sero Net erbyn 2050 ac rydyn ni wedi cael cydnabyddiaeth genedlaethol i’n hymdrechion, gan gynnwys gwobr am y Cynllun Lleihau Carbon Gorau gan Fusnes Bach.

Rhywbeth llawn cyn bwysiced oedd i RCT ein cyflwyno ni i arbenigwr ISO 14001 a’n helpodd ni drwy’r broses ardystio, sef rhywbeth na fydden ni wedi’i gyflawni ar ein pennau ein hunain.

Beth oedd yr heriau mwyaf wrth ddatblygu eich cynllun lleihau carbon.

I ddechrau dyma ni’n mapio’r data oedd gennym ni eisoes-megis defnydd ar ynni’r haul ac allyriadau’r fflyd- ond roedd allyriadau Cwmpas 3 yn fwy heriol, am eu bod nhw y tu allan i’n rheolaeth uniongyrchol ni. Roedd cysylltu â chyflenwyr a phartneriaid logisteg i rannu eu data yn gam allweddol, ac roedd gan ein prif gludydd gynllun carbon eisoes, a fu o gymorth.

Yr her fwyaf oedd gweithio gyda rhannau o’r gadwyn gyflenwi a oedd yn anghyfarwydd ag adroddiadau cynaliadwyedd. Helpodd RCT ni i strwythuro ein dull, dehongli metrigau anghyfarwydd, a llunio sgyrsiau mewn ffordd a oedd yn tynnu sylw at werth hirdymor. Roedd y cymorth hwnnw’n hanfodol wrth adeiladu cynllun realistig ac ymarferol.

Beth mae ardystiad ISO 14001 yn ei olygu i’r busnes?

Mae’n garreg filltir enfawr. Mae ISO 14001 wedi’i gydnabod yn fyd-eang, felly o’i sicrhau rydyn ni’n dangos i gwsmeriaid a rhanddeiliaid ein bod ni o ddifri am gynaliadwyedd. Mae’n ategu ein gwerthoedd ac yn darparu fframwaith ar gyfer gwelliannau parhaus.

Mae hefyd yn ein helpu ni i sefyll allan yn y farchnad. Wrth i gleientiaid ddewis rhwng cwsmeriaid, mae ein hardystiad ni’n arwydd bod gweithio gyda TB Davies yn ategu eu nodau amgylcheddol hwythau hefyd.

Beth yw’ch blaenoriaethau chi ar gyfer camau nesaf eich taith at gynaliadwyedd?

Y cam nesaf yw gwella dyfnder a chywirdeb ein data carbon. Mae hyn yn cynnwys gofyn rhagor gan ein cadwyn gyflenwi a chynnal diwylliant mewnol cryf o ran atebolrwydd.

Rydyn ni hefyd wedi canolbwyntio ar ddefnyddio ein stori ni i ddylanwadu ar eraill. Rydyn ni am addysgu ein cwsmeriaid, codi disgwyliadau ar draws ein diwydiant, a helpu i gyflymu trosglwyddiad ehangach i arferion cynaliadwy. Po fwyaf y mae busnesau’n ymrwymo i hyn, mwyaf i gyd fydd yr effaith gyffredinol.

Pa gyngor yr hoffech chi ei roi i BBaChau eraill sy’n meddwl am leihau carbon?

Dechreuwch nawr, hyd yn oed os yw’n teimlo’n anniben. Does dim angen i chi gael yr atebion i gyd cyn dechrau. Y peth allweddol yw cymryd y cam cyntaf ac adeiladu oddi yno.

A pheidiwch â cheisio gwneud hynny ar eich pen eich hun. Mae gan RCT gronfa anhygoel o arbenigwyr cynaliadwyedd sy’n deall yr heriau y mae busnesau’n eu hwynebu ac maen nhw’n gwybod sut i fynd i’r afael â nhw. Trwy eu hoffer, eu hadnoddau, a’u cymorth arbenigol, dyma nhw’n ein galluogi ni i symud yn gynt gyda llawer rhagor o hyder nag y byddem byth wedi gallu ei gael ar ein pennau ein hunain.

Pa effaith gafodd RCT ar dwf gwyrdd eich busnes chi?

Bu’n drawsnewidiol. Cyn ymuno â’r rhaglen, roedd gennym ni’r cymhelliant i wneud newid go iawn ond heb yr offer i fwrw ymlaen. Rhoddodd RCT yr eglurder, yr arbenigedd, a’r hyder i yrru newid go iawn, ac maen nhw wedi’n helpu ni i ymgorffori cynaliadwyedd yn flaenoriaeth strategol.

Erbyn hyn, rydyn ni’n fusnes gwyrddach, ond ar ben hynny hefyd yn un cryfach. Mae ein prosesau ni’n fwy effeithiol, mae ein brand ni’n fwy cystadleuol, ac mae ein tîm ni’n fwy brwd. Rydyn ni’n falch o ba mor bell rydyn ni wedi dod ac yn gyffrous am ble byddwn ni’n mynd nesaf.

Dysgwch ragor am ein Rhaglen Cyflymu Twf yma.

Dysgwch ragor am TB Davies: www.tbdavies.co.uk

Share this page

Print this page