Dechreuodd y contractwr gwaith tir EvaBuild, a sefydlwyd yn 2011, gyda syniad syml ond herfeiddiol: newid sut mae prosiectau adeiladu’n gweithio. Ar ôl blynyddoedd yn y diwydiant, gwelodd y tîm broblem yn codi dro ar ôl tro o gleientiaid yn buddsoddi’n drwm mewn dyluniadau cyn deall yr amgylchiadau gwaelodol ar safleoedd arfaethedig. Trwy droi’r broses ar ei phen ac annog cleientiaid i asesu dichonoldeb a chostau gwaith tir yn gyntaf, mae EvaBuild yn arbed amser, arian, ac adnoddau amgylcheddol.
Dros 14 mlynedd, mae’r dull hwnnw wedi gyrru EvaBuild o fod yn weithrediad dau berson mewn ystafell fwyta i fod yn gontractwr pwysig, sy’n arbenigo mewn dulliau adeiladu modern (MMC). Mae’r cwmni’n gweithio gydag arbenigwyr adeiladu modiwlaidd ym maes gofal iechyd, addysg, ac amddiffyn, yn ogystal â chynghorau lleol ac adrannau’r llywodraeth. Erbyn hyn mae’r cwmni’n cyflogi dros 100 o bobl ac mae ganddo drosiant blynyddol o dros £29.5 miliwn y flwyddyn.
Mae’r cyfarwyddwr cyllid Lauren Evans yn rhannu sut y mae cymorth gan y Rhaglen Cyflymu Twf (RCT) wedi llywio eu taith.
Pa heriau a wynebodd EvaBuild yn gynnar, a sut helpodd RCT i oresgyn y rhain?
Ein her fwyaf oedd perswadio cleientiaid i gofleidio ein dull ni. Roedd cynnwys contractwr gwaith tir o’r cychwyn yn anarferol. Roedd angen dyfalbarhad a hanes profedig cyn i gleientiaid weld y gwerth. Roedd recriwtio hefyd yn anodd ar y dechrau. Fel cwmni llai o faint, roedd hi’n anodd sicrhau gwaith cyson, gan ei gwneud hi’n anodd denu talent.
Bu cymorth RCT yn gaffaeliad enfawr. Helpon nhw ni i ddiffinio ein hunaniaeth brand a marchnadoedd targed, a rhoddodd cymorth cynllunio ariannol cynnar sefydlogrwydd a hyder i ni.
Daeth trobwynt yn 2018, pan gynorthwyodd RCT ni i ddatblygu hunaniaeth brand ystyrlon, broffesiynol y gallai ein tîm cyfan ei chefnogi. Mae wedi cadarnhau ein safle yn bartner dibynadwy yn ein sector ni.
Pa effaith y mae’r cymorth hwn wedi’i chael ar eich twf chi?
Mae’r canlyniadau yn siarad drostyn nhw eu hunain. Ers ymuno â RCT, rydyn ni wedi creu tua 50 o swyddi ac wedi tyfu o fod yn fusnes bach lleol i fod yn gwmni cenedlaethol. Yn ogystal â gwella ein hygrededd marchnad, gwnaeth y cymorth brandio hefyd hi’n haws recriwtio.
Yn 2025, dyma ni’n lansio EvaBuild Surfacing, sy’n arbenigo mewn tarmacio ffyrdd, meysydd parcio, a llwybrau. O’r herwydd, gallwn ni gynnig gwasanaeth cyflawn i gwsmeriaid o’r naill ben i’r llall o waith tir i’r arwyneb terfynol. Bu’r syniad yn cyniwair ers blynyddoedd, ond rhoddodd arweiniad parhaus a chymorth cynnar RCT yr hyder a’r adnoddau i ni ei wireddu.
Y tu hwnt i frandio, cynorthwyodd RCT ni gydag archwiliad llawn o’n gwefan, gan ddarparu canfyddiadau gwerthfawr ar ymddygiad Optimeiddio Chwilotwyr a chynulleidfaoedd. Ar hyn o bryd mae’r gwaith hwn yn helpu i lunio ein gwefan newydd i gynyddu ein heffaith fasnachol. Bu ein hymgynghorydd, Idris Price, yn ardderchog am nodi’r cymorth cywir ar gyfer ein hanghenion. Wrth i ni ymgysylltu’n fwy, mae’r arweiniad yntau wedi mynd yn fwy penodol ac effeithiol.
Pa gerrig milltir sy’n sefyll allan?
Roedd ennill Gwobr Busnes Powys am Fusnes Newydd y Flwyddyn yn 2013, cwta dwy flynedd ers sefydlu’r busnes, yn dipyn o achlysur. Yn 2015, cipion ni’r wobr Twf Cyflym 50 am fod y busnes a oedd yn tyfu gyflymaf yng Nghymru. Yn 2024, roedd cyrraedd 100 o weithwyr yn teimlo’n garreg filltir go iawn i ni.
Pa gyngor y gallech chi ei roi i entrepreneuriaid eraill?
Adeiladwch dîm gwych. Amgylchynwch eich hun â phobl sy’n rhannu eich gweledigaeth, oherwydd ni allwch chi wneud y cyfan ar eich pen eich hun. Ystyriwch y siomedigaethau’n rhan o’r broses. Mae pob her rydyn ni wedi’i hwynebu, yn y pen draw, wedi ein gwneud ni’n gryfach.
Hefyd, defnyddiwch gymorth busnes yn ddoeth. Yn ein profiad ni, roedd bod yn onest am ein heriau ac ymgysylltu’n llawn yn allweddol i elwa i’r eithaf o RCT. Rydyn ni wedi defnyddio’r cymorth i lenwi bylchau yn ein gwybodaeth a’n sgiliau, ac mae wedi talu ar ei ganfed.
Beth sy’n dod nesaf i EvaBuild?
Rydyn ni’n parhau i dyfu, i gyflogi staff safle a swyddfa’n rheolaidd. Rydyn ni wedi ymrwymo i greu cyfleoedd i bobl ifanc ym maes adeiladu, eu helpu nhw i ddatblygu o fod yn weithwyr tir i fod yn rheolwyr safle.
Gyda brand cryf, arlwy gwasanaeth sy’n ehangu, ac arweiniad parhaus RCT, yr argoel yw y bydd y degawd nesaf mor drawsnewidiol â’r un diwethaf.
Dysgwch ragor am y Rhaglen Cyflymu Twf yma.
Dysgwch ragor am EvaBuild yma.