Sefydlwyd Quatro Gymnastics bron 15 mlynedd yn ôl yn Abertawe, ac mae wedi dod yn arweinydd byd-eang ym maes dillad gymnasteg. Fe'i sefydlwyd gan Joanna Vazquez, cyn-gymnastwraig ryngwladol dros Gymru a Phrydain Fawr, a daeth y cwmni i fod yn sgil y galw am leotardau chwaethus a pherfformiad uchel, bwlch yn y farchnad a nododd Joanna yn uniongyrchol yn ystod ei blynyddoedd o gystadlu.

Mae Quatro yn darparu leotardau wedi eu dylunio’n bersonol i dros 100,000 o gwsmeriaid mewn dros 100 o wledydd. Mae ganddo swyddfeydd ym Mharis, Pennsylvania, a’i brif swyddfa yn Fforest-fach, Abertawe.

Wrth i'r cwmni gychwyn ar gam newydd o ehangu rhyngwladol, mae RCT wedi darparu hyfforddiant arbenigol ac arweiniad ymarferol i gefnogi'r twf hwn. Esbonia'r Rheolwr Gyfarwyddwr Joanna Vazquez sut mae cymorth amserol y rhaglen yn helpu Quatro i lywio heriau masnach ryngwladol, optimeiddio ei bresenoldeb digidol, a pharatoi ar gyfer buddsoddiad yn y dyfodol.

Beth oedd rôl y Rhaglen Cyflymu Twf yn nhaith Quatro?

Bu ymuno ag RCT yn 2024 yn gam trawsnewidiol i Quatro Gymnastics. Wrth i ni ganolbwyntio ar ehangu ein presenoldeb rhyngwladol, mae Rheolwyr Perthnasoedd a hyfforddwyr arbenigol y rhaglen wedi rhoi arweiniad strategol i sicrhau ein bod ni’n gwneud y penderfyniadau cywir yn y cyfnod hanfodol hwn.

Mae eu cymorth wedi bod yn hollbwysig mewn meysydd allweddol, megis mireinio ein strategaeth e-fasnach ar gyfer masnachu mewn llawer o fathau o arian cyfred ac optimeiddio ein siop ar-lein, sy'n hanfodol wrth i ni gyrraedd marchnadoedd newydd.

Mae arbenigedd RCT hefyd wedi bod yn amhrisiadwy wrth ein helpu ni i lywio’r cymhlethdodau ar ôl Brexit, yn enwedig cydymffurfio â gofynion TAW a logisteg gwerthu rhyngwladol. Gallai'r heriau hyn fod wedi arafu ein gwaith ehangu, ond gydag arweiniad, rydyn ni wedi mynd i'r afael â nhw'n effeithlon wrth gryfhau ein rheolaeth llif arian.

Yn ogystal, mae eu mewnbwn ar strategaeth brand wedi ein helpu ni i osod y sylfaen ar gyfer twf hirdymor, gan sicrhau ein bod ni mewn sefyllfa dda wrth i ni ehangu i farchnadoedd cynnyrch newydd. Mae arbenigedd ein rheolwr perthnasoedd a'n hyfforddwyr busnes wedi bod yn ased allweddol wrth lunio ein dyfodol.

Pa heriau y mae Quatro wedi eu hwynebu, a sut y bu y Rhaglen o gymorth i’w goresgyn?

Mae ehangu'n gyflym yn creu heriau, yn enwedig o ran cynnal ansawdd wrth ddiwallu anghenion sylfaen cwsmeriaid byd-eang. Gan fod y rhan fwyaf o'n gwerthiant ni ar-lein, rhaid i'n platfform e-fasnach drin trafodion mewn llawer o wahanol fathau o arian cyfred a darparu profiad cwsmer di-dor. Yn sgil gwerthusiad RCT o'n gwefan cawsom ni ganfyddiadau gwerthfawr sy'n ein helpu ni i optimeiddio ein presenoldeb digidol a chynyddu gwerthiant.

Mae datblygu strategaeth brand gref hefyd wedi bod yn hanfodol wrth i ni amrywio ystod ein cynnyrch. Mae'r rhaglen wedi ein cynorthwyo ni i lunio strategaeth glir a fydd yn llywio ein gwaith ehangu dros y pum mlynedd nesaf.

Mae tyfu'n rhyngwladol hefyd wedi creu ystyriaethau cyfreithiol, gan gynnwys adolygiadau contractau a diogelu ein dyluniadau. Hwylusodd RCT adolygiadau cyfreithiol arbenigol i ddiogelu ein heiddo deallusol a sicrhau bod ein brand yn parhau’n ddiogel wrth i ni ehangu.

Beth sy’n gosod Quatro ar wahân ym myd gymnasteg?

Mae ein harloesedd a'n hymrwymiad i ansawdd yn amlwg yn ein cynnyrch, sy'n cyfuno hyblygrwydd, gwytnwch a chysur. Mae'r rhinweddau hyn wedi gwneud ein brand yn ffefryn ymhlith gymnastwyr a ffederasiynau fel ei gilydd.

Rydyn ni’n angerddol am ymestyn ein dylanwad ni y tu hwnt i athletwyr elitaidd, ac rydyn ni’n hyrwyddo datblygiad ar lawr gwlad trwy fentrau megis ein rhaglen “Lights, Camera, Sparkle”. Mae'r digwyddiad byd-eang hwn yn cysylltu gymnastwyr ifanc ag athletwyr a choreograffwyr elitaidd, gan ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf i ddilyn eu hangerdd am gymnasteg. Mae cynaliadwyedd a chynhwysiant hefyd yn rhan ganolog o’n gweledigaeth. Ein nod ni yw gwneud gymnasteg yn hygyrch a chyffrous i bawb, beth bynnag fo eu lefel.

Quatro Gymnastics

Beth yw’ch cynlluniau chi ar gyfer dyfodol Quatro?

Gyda chymorth parhaus RCT, rydyn ni’n canolbwyntio ar gyflymu ein gwaith ehangu a gwneud buddsoddiadau strategol. Mae ein gweledigaeth hirdymor yn cynnwys meithrin rhagor o bartneriaethau â ffederasiynau rhyngwladol, hyrwyddo ein mentrau cynaliadwyedd, ac arloesi ym maes dillad gymnasteg.

Mae hwn yn amser cyffrous i Quatro, a gyda'r cymorth cywir yn ei le, rydyn ni’n hyderus yn ein gallu ni i gyflawni ein cynlluniau twf uchelgeisiol.

Pa gyngor byddech chi’n ei roi i ddarpar entrepeneuriaid?

Anelwch yn uchel – Peidiwch ag ofni pennu nodau uchel.

Cofleidiwch heriau – Mae pob rhwystr yn gyfle i ddysgu.

Ceisiwch gymorth arbenigol – Gall partneriaeth â rhaglenni megis AGP ddarparu arweiniad trawsnewidiol ar gamau twf allweddol.

Dysgwch ragor am y Rhaglen Cyflymu Twf yma.

Dysgwch ragor am Quatro Gymnastics yma.

Share this page

Print this page