Mae’r cwmni Mallows Bottling, sydd wedi’i leoli yn Ne Cymru, wedi arallgyfeirio i dir newydd drwy lansio cynnyrch diod ffrwythau 5 litr – symudiad sydd eisoes wedi dod â £700,000 yn ychwanegol, fe amcangyfrifir, mewn refeniw blynyddol.
Mae’r busnes o Lantrisant, a gyd-sefydlwyd gan y tad a’r mab Andy a Rhys Mallows ac a gefnogwyd gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru, wedi sicrhau cytundebau newydd sylweddol ar gyfer y cynnyrch, sy’n cynnwys ystod o flasau diod ffrwythau cryfder sengl a dwbl. Mae’r ehangiad wedi creu tair swydd newydd, wedi ychwanegu capasiti newydd, ac wedi cryfhau cadernid y busnes o fewn marchnad diodydd cystadleuol sy’n newid yn gyflym.
Mae’r cynnig diod ffrwythau’n adlewyrchu ymrwymiad Mallows i arloesi ymarferol ac effeithlonrwydd adnoddau ar gyfer y fasnach lletygarwch. Mae’r fformat 5 litr yn gostwng gwastraff defnydd pecynnu trwy alluogi i gwsmeriaid brynu cyfeintiau mwy, gan gefnogi ymdrechion i dorri ar ddefnydd plastig untro a gostwng yr effaith ar yr amgylchedd. Mae’r fformat mwy yn cynnig datrysiad cost-effeithiol hefyd pan fydd meintiau’r elw o dan bwysau.
Mae cytundebau cyflenwi newydd wedi’u sicrhau gyda’r grŵp prynu mawr Caterforce, sy’n cynnwys 11 aelod, gan gynnwys Castell Howell a Forest Fresh Foods. Mae Mallows hefyd yn gweithio gyda Bwyd a Diod i Gymru i ehangu i’r Warysau Talu a Chario a’r sector gwasanaeth bwyd, gyda galw cynyddol gan brynwyr lletygarwch sydd eisiau opsiynau gwerth am arian wrth iddynt ymateb i bwysau ariannol.
Mae’r ystod o ddiodydd ffrwythau yn cynnwys Oren, Cyrens Duon, Afal a Chyrens Duon, Leim, Lemwn, Afal, a Ffrwythau’r Haf. Cynyddu mae’r diddordeb ar draws manwerthu a lletygarwch, gan gynnwys yn y categori diodydd bach (shooters)—sy’n cyfeirio at y diodydd bach, dwys sydd fel arfer yn cael eu gweini mewn bariau, lle mae gwerth a maint elw yn arbennig o bwysig.
Cefnogwyd yr arallgyfeirio gan y Rhaglen Cyflymu Twf, sydd wedi gweithio gyda Mallows Bottling i feithrin gallu strategol ac ehangu ar weithrediadau mewn ffordd gynaliadwy.
Dywedodd Rhys Mallows, Rheolwr Gyfarwyddwr Mallows Bottling:
“Gwelsom gyfle clir i gynnig cynnyrch diod ffrwythau fformat mawr a chost effeithiol sy’n bodloni anghenion cwsmeriaid ac yn cefnogi’r sector lletygarwch yn ystod cyfnod heriol yn fasnachol."
“Mae’r ymateb wedi bod yn gadarnhaol iawn, ac mae eisoes yn cynhyrchu gwerth sylweddol i’r busnes. Mae hefyd wedi ein helpu ni i ehangu’r tîm ac agor llwybrau newydd i’r farchnad.”
Dywedodd Richard Morris, Cyfarwyddwr Rhaglen, y Rhaglen Cyflymu Twf:
“Mae Mallows Bottling yn enghraifft wych o fusnes sy’n esblygu’n gyson ac yn ceisio cyfleoedd twf newydd. Mae gan Rhys ac Andy synnwyr cryf o anghenion y farchnad a does ganddyn nhw ddim ofn symud yn gyflym. Mae’r ehangiad hwn i ddiodydd ffrwythau yn dangos pŵer cyfuno dealltwriaeth, hyblygrwydd, ac uchelgais – ac mae’n bleser gennym eu cefnogi trwy’r Rhaglen Cyflymu Twf.”
Daw’r symudiad yn dilyn cyfnod o dwf cynaliadwy i Mallows Bottling, a ddathlodd wythnos â gwerthiannau o £1 miliwn yn ddiweddar ac sydd wedi buddsoddi’n sylweddol mewn cynaliadwyedd a thechnoleg newydd, gyda chefnogaeth buddsoddiad saith ffigur gan Fanc Datblygu Cymru.
Bellach mae’r cwmni, sef cwmni potelu ar gontract mwyaf Cymru am botelu gwirodydd, yn cynnig dros 200 o gynhyrchion ar draws y dewisiadau alcohol a di-alcohol. Mae’n cyflogi 35 o bobl yn ei gyfleuster potelu 30,000 troedfedd sgwâr, a adeiladwyd i’r diben, yn Rhondda Cynon Taf.
Am ragor o wybodaeth, ewch i: www.mallowsbottling.com
Mae’r Rhaglen Cyflymu Twf yn wasanaeth gan Fusnes Cymru. Os nad yw’ch busnes yn barod ar gyfer y lefel dwf hon, mae Busnes Cymru’n cynnig ystod eang o gyngor ac arweiniad ar sefydlu busnesau a thwf busnesau. I ddysgu mwy ac i siarad â chynghorydd arbenigol, ffoniwch 03000 6 03000 neu ewch i https://busnescymru.llyw.cymru/cysylltwch-a-ni.