Newyddion

Wythnos Entrepreneuriaeth Y Byd 2026

People looking at a laptop

Mae Wythnos Entrepreneuriaeth y Byd yn dathlu ac yn grymuso entrepreneuriaid ym mhob gwlad a chymuned ledled y byd – yn enwedig y rhai sy'n wynebu rhwystrau strwythurol neu efallai nad ydynt erioed wedi ystyried y syniad o lansio busnes newydd.

Bob mis Tachwedd mae 10 miliwn o bobl yn cymryd rhan mewn degau o filoedd o weithgareddau, cystadlaethau a digwyddiadau sy'n eu hysbrydoli i weithredu ac yn rhoi'r wybodaeth, y profiad a'r cysylltiadau sydd eu hangen arnynt i lwyddo. Eleni mae'r wythnos yn cael ei chynnal rhwng 16 Tachwedd a 22 Tachwedd.

Am ragor o wybodaeth dilynwch y dolenni canlynol:

P'un a ydych yn cynllunio ar gyfer twf neu'n edrych am gyfleoedd newydd, mae Busnes Cymru yma i helpu gydag amrywiaeth ymarferol o ganllawiau a chymorth i fusnesau.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.