Cafodd y Diwrnod Mentora Cenedlaethol ei sefydlu er mwyn cydnabod manteision sylweddol mentora ar draws y DU ac mae’n cael ei gynnal ar 27 Hydref bob blwyddyn.
Mae mentora yn golygu bod un person yn rhoi cymorth i’r llall, a gall wneud gwahaniaeth sylweddol i wybodaeth, gwaith, a ffordd o feddwl y sawl sy’n cael ei fentora.
Mae pawb - unigolion, cwmnïau, ysgolion, cymunedau, prifysgolion a llywodraethau, yn cael eu hannog i rannu eu straeon am lwyddiant ac astudiaethau achos wrth fentora.
Mae pawb hefyd yn cael eu hannog i ddefnyddio’r diwrnod hwn i godi ymwybyddiaeth am fentora, am y cynlluniau mentora sydd ar gael, ac i hyrwyddo manteision mentora.
Mae rhagor o wybodaeth am sut i gymryd rhan ar wefan Diwrnod Mentora Cenedlaethol.
Mae mentora i bawb - Mae Rhaglen Fentora Busnes Cymru yn wasanaeth rhad ac am ddim sy'n cysylltu unigolion â mentoriaid profiadol a all gynnig arweiniad, persbectif newydd, a helpu eich busnes i ddatgloi cyfleoedd newydd.