Newyddion

Dydd Sadwrn y Busnesau Bach – Cyfres o Weminarau

Small business owner

Mae rhaglen weminar ddyddiol rhad ac am ddim Dydd Sadwrn y Busnesau Bach yn ôl.

Fe’u cynhelir rhwng 2 Tachwedd a 2 Rhagfyr 2026, o ddydd Llun i ddydd Gwener am 11am, ac mae gweminarau eleni wedi'u cynllunio i helpu eich busnes i ffynnu.

Gan ymdrin â phynciau hanfodol, gan gynnwys marchnata ar gyllideb gyfyngedig, rheoli amser, cyllid a deallusrwydd artiffisial, bydd yn llawn awgrymiadau ymarferol gan arbenigwyr.

Mae pob gweminar yn rhad ac am ddim ac yn cael ei chynnal ar Zoom.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol am fwy o wybodaeth ac i gofrestru: Dydd Sadwrn Busnesau Bach y DU | Cyfres o Weminarau.

Defnyddiwch Ddigwyddiadur Busnes Cymru i chwilio am hyfforddiant sy’n gysylltiedig â busnes, gweithdai, cyfleoedd rhwydweithio, seminarau a mwy gan amrywiaeth o sefydliadau. 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.