Dechreuodd AIMAITES, sef platfform technoleg addysg sy'n gwneud addysg yn fwy hygyrch, gyda thrawsnewidiad personol. Roedd disgwyl i’r sylfaenydd Sion Brown gael gradd D mewn TGAU a Mathemateg Lefel A, ond gyda chymorth ychwanegol drwy diwtora preifat, cyflawnodd A* yn y ddau. Y profiad hwnnw oedd y wreichionen a daniodd genhadaeth: defnyddio AI i roi mynediad i bob myfyriwr at gymorth wedi’i deilwra wrth leihau ar yr un pryd lwyth gwaith addysgwyr.
Heddiw, mae'r busnes sydd wedi'i leoli yng Nghwmbrân yn gweithredu tri phlatfform: Dysgu wedi’i deilwra wedi'i bweru gan AI i fyfyrwyr, offer llif gwaith i diwtoriaid ac adnoddau i helpu ysgolion i leihau llwythi gwaith marcio.
Mae cymorth gan Raglen Cyflymu Twf (RCT) Busnes Cymru wedi helpu Sion i fireinio’i strategaeth, cryfhau gweithrediadau a pharatoi'r busnes ar gyfer twf. Yma, mae'n rhannu ei brofiad o adeiladu busnes technoleg sydd wedi’i yrru gan bwrpas.
Beth a’ch ysbrydolodd chi i ddechrau AIMAITES?
Dangosodd fy mhrofiad fy hun o arholiadau i mi ba mor bwerus oedd cymorth wedi’i deilwra. Mae myfyrwyr yn ei chael hi'n anodd oherwydd nad yw ganddyn nhw, ac mae athrawon yn ei chael hi'n anodd oherwydd nad oes ganddyn nhw'r capasiti. Mae AIMAITES yn harneisio AI i helpu athrawon i leihau eu llwyth gwaith a rhoi mynediad i bob myfyriwr i’r cymorth sydd wedi'i deilwra sy'n datgloi eu potensial llawn.
Pa broblem rydych chi'n ei datrys?
Mae ein platfformau'n defnyddio AI i leihau llwythi gwaith athrawon a hynny wrth ddarparu dysgu wedi’i deilwra, rhyngweithiol yn uniongyrchol i fyfyrwyr. Rydyn ni’n gwneud addysg yn fwy cynhwysol, effeithlon a diddorol. Rydyn ni am weld byd lle mae gan bob myfyriwr, ni waeth beth fo'u cefndir ariannol neu gefndir arall, fynediad at addysg o ansawdd uchel, sydd wedi'i theilwra. Rydyn ni’n credu mai dysgu wedi’i deilwra sydd wedi’i ddarparu mewn ffordd hwyliog a rhyngweithiol yw'r allwedd i gyflawni hynny.
Sut y’ch cynorthwyodd RCT chi?
Gyda chymorth RCT, rydyn ni wedi gallu llywio'n hyderus yr heriau o dyfu busnes aml-gynnyrch, a yrrir gan AI. Cryfhaodd canllawiau strwythuredig gan ein Rheolwr Perthnasoedd a’n cynghorwyr arbenigol, ein gwaith cynllunio strategol, mireiniodd ein map trywydd twf a’n helpu ni i ddatblygu systemau gweithredol cliriach. Cysylltodd RCT ni ag arbenigedd mewn cynaliadwyedd, adnoddau dynol a’r agweddau cyfreithiol, sef meysydd y gall fod yn anodd i gwmnïau technoleg ifanc ddarparu adnoddau ar eu cyfer yn fewnol. Ehangodd gweithdai a chyfleoedd datblygu arweinyddiaeth y rhaglen, ein ffordd o feddwl ynghylch ehangu ac adeiladu tîm cryf.
Pa gymorth gan RCT sydd wedi gwneud y gwahaniaeth mwyaf?
Roedd gwaith cynllunio strategol yn help i ni egluro ein trywydd twf a blaenoriaethu’r systemau roedd eu hangen i dyfu'n hyderus. Galluogodd asesiad ôl troed carbon arbenigol ni i optimeiddio ein platfform, gan gyflawni gostyngiad o ryw 75% o ran yr amser cyfrifiadura a gostyngiad amcangyfrifedig o 70-80% mewn allyriadau cysylltiedig. Eglurodd canllawiau AD gynlluniau recriwtio ar gyfer y dyfodol, a helpodd arbenigedd cyfreithiol ni i lywio contractau, diogelu ac ystyriaethau IP. Gyda'i gilydd, rhoddodd y mesurau hyn lawer mwy o eglurder inni.
Ydych chi wedi gwneud unrhyw newidiadau strategol sylweddol wrth weithio gyda RCT?
Y newid mwyaf ei effaith fu symud i ffwrdd o lansio gormod o nodweddion mawr ar unwaith. Cyn ymuno â RCT, roedden ni'n gwthio nifer o fentrau mawr ar yr un pryd, a oedd yn gwanhau ffocws ac yn arafu cynnydd. Gyda chymorth RCT, dyma ni’n blaenoriaethu elfennau llai, effaith uchel a gyflwynwyd mewn cyfnodau, gan ein galluogi ni i ail-wneud yn gyflym, dilysu gyda defnyddwyr ac adeiladu sylfeini cryfach. Mae wedi gwneud ein cynllun trywydd yn fwy realistig ac yn llawer haws i'w weithredu.
Pa gerrig milltir rydych chi’n fwyaf balch ohonyn nhw?
Mae dod yn gyflenwr i Adnodd, sef corff hyd braich Llywodraeth Cymru ar gyfer adnoddau addysgol dwyieithog, yn dilyn proses dendro gystadleuol lwyddiannus, yn garreg filltir bwysig, gan adeiladu ar waith cynharach gydag Adnodd ar AIRepresent.me, sy'n dysgu myfyrwyr am ragfarn algorithmig a thegwch.
Ers hynny rydyn ni wedi cael comisiwn i ddatblygu adnoddau gwrth-fwlio ar gyfer 2027. Eleni, fe gyrhaeddon ni hefyd y pedwar olaf yng Ngwobr Arloeswyr AI Agentic UKRI ac Innovate UK, sy'n agored i gwmnïau a phrifysgolion o unrhyw faint sy'n cystadlu am hyd at £500k, ac roedden ni yn rownd derfynol Rhaglen Arloeswyr Offer Tiwtora Adran Addysg Lloegr. Ochr yn ochr ag arddangos yn Wythnos Dechnoleg Cymru ac ennill Canmoliaeth Uchel am Arloesedd a Thechnoleg yng Ngwobrau Busnes Torfaen, Sir Fynwy a Blaenau Gwent, rydym yn falch o fod wedi lansio systemau sy'n lleihau llwyth gwaith wrth wella canlyniadau.
Beth sydd nesaf i AIMAITES?
Rydyn ni’n cyflwyno fersiwn newydd o AITutoring gydag amrywiaeth o nodweddion arloesol, a byddwn ni’n cynnal cynlluniau peilot gydag ymddiriedolaethau aml-academi yn Lloegr ac ysgolion yng Nghymru i wneud addysg wedi’i theilwra yn fwy hygyrch a chynhwysol. Mae cyrraedd dwy rownd derfynol genedlaethol wedi rhoi cadarnhad newydd inni wrth i ni ehangu ein hôl troed ledled y DU.
Pa gyngor y byddech chi’n ei roi i entrepreneuriaid eraill?
Dechreuwch yn llai, rhyddhewch yn gynharach a gadewch i’r adborth eich tywys chi. Nid talent yw’r prif ffactor sy’n penderfynu llwyddiant, ond dygnwch: y gallu i ddyfalbarhau trwy siomedigaethau. Byddwch yn rhagweithiol gyda chymorth RCT; ewch ati i ymgysylltu, byddwch yn benodol am eich heriau a thrin y cyfan yn bartneriaeth. Os mynegwch chi’ch nodau’n glir, bydd y cymorth a gewch chi’n fwy gwerthfawr.
Dysgwch ragor am sut y gall y Rhaglen Cyflymu Twf helpu’ch busnes chi.
Dysgwch ragor am AIMAITES.