Hanes llwyddiant

Powlenni i’r enaid: sut helpodd y Rhaglen Cyflymu Twf Kiwis Bowls i sicrhau buddsoddiad a thyfu o stondin marchnad i flaen siop yng Nghaerdydd

Kiwis Bowls founder

Sefydlodd Dan Eedy Kiwis Bowls wrth astudio ym Mhrifysgol Abertawe, gan arbrofi gyda ryseitiau powlenni acai a’u rhannu nhw â ffrindiau. Tyfodd yr angerdd cynnar hwnnw i fod yn drelar bwyd symudol, stondin farchnad ac yn y pen draw dwy siop yn rhai o’r lleoliadau gorau yng Nghaerdydd. Gan arbenigo mewn powlenni acai, smwddis a diodydd, gydag opsiynau figan a heb glwten bob amser ar y fwydlen, mae'r brand wedi'i adeiladu o amgylch argyhoeddiad syml: y dylai bwyd iach fod yn rhywbeth rydych chi'n edrych ymlaen ato, nid dim ond rhywbeth rydych chi'n teimlo'n dda amdano wedyn. Gyda chymorth Rhaglen Cyflymu Twf (RCT) Busnes Cymru, agorodd Dan siop flaenllaw yn ddiweddar yn y Sgwâr Canolog yng nghanol dinas Caerdydd, a gyflawnodd ffigurau masnachu misol gorau erioed y busnes yn ei fis cyntaf. Cawsom ni air â Dan Eedy, sylfaenydd Kiwis Bowls, i ddarganfod sut mae cymorth RCT wedi ei helpu i adeiladu brand, sicrhau buddsoddiad ac agor siop flaenllaw yng Nghaerdydd gyda chanlyniadau sy'n torri record.

Allwch chi sôn wrthym ni am Kiwis Bowls a’r bwlch a weloch chi?

Man lle gall pobl ddod o hyd i ‘bowlenni i’r enaid’ yw Kiwis Bowls. Powlenni acai o ansawdd uchel yw ein cynnyrch craidd, ond yn ddiweddar rydyn ni wedi cyflwyno smwddis cwmwl a diodydd, gyda syniadau newydd ar y gweill o hyd. Mae'r cysyniad yn mynd i'r afael â bwlch yn y farchnad bwyd cyflym-achlysurol, lle yn anaml y mae iechyd, ansawdd a chyfleustra yn cydfodoli. Rydyn ni’n credu'n gryf y gall bwyta'n iach ddod yn rhywbeth rydych chi'n dyheu amdano, yn enwedig pan fyddwch chi'n darganfod y bwydydd cywir.

Sut aethoch chi o’r cysyniad i’r safle cyntaf?

Dechreuodd y syniad yn y brifysgol, lle arbrofes i gyda ryseitiau a’u rhannu â ffrindiau. Unwaith yr oedd gennym ni frand, dyma ni’n dechrau masnachu ar ffurf symudol mewn digwyddiadau lleol, ac wedyn symud i flwch ceffylau wedi’i droi’n drelar bwyd mewn gwyliau mwy o faint. Wedyn daeth ein siop ffisegol gyntaf yng nghanol dinas Caerdydd a bellach mae gennym ni ddau safle mewn lleoliadau blaenllaw, gydag uchelgais pendant i barhau i dyfu.

Sut mae RCT wedi’ch cynorthwyo chi?

Ces i fy nghyflwyno i RCT trwy fentor, ac fe wnaeth eu cymorth cynhwysfawr fy sicrhau a fy ngwneud yn hyderus y gallwn i lywio heriau ar ddechrau cyfnod yn llwyddiannus.

Cynorthwyodd RCT ni gyda chynllunio busnes, modelu strategol a strategaeth twf, datblygu modelau ariannol sy'n barod i fenthyciadau banc a darparu hyfforddiant ar elw, prisio a phroffidioldeb. Fe wnaethom hefyd gwblhau rhaglenni Gwaith Teg a Lleihau Carbon RCT yn rhan o'n hymrwymiad i dwf cyfrifol. Gwnaeth eu canllawiau ymarferol a'u hadnoddau wedi'u teilwra wahaniaeth go iawn wrth ein paratoi ni ar gyfer buddsoddiad ac ehangu.

Sut y gwnaeth cymorth RCT gyda pharodrwydd ar gyfer buddsoddiad eich helpu chi i sicrhau cyllid?

Helpodd RCT fi i ddeall fod parodrwydd ar gyfer buddsoddiad yn newid gyda phob cyfnod twf. Roedd y cymorth yn cynnwys adeiladu ein naratif buddsoddi, datblygu strategaethau ar gyfer cloi rowndiau ariannu a gwella cyrhaeddiad buddsoddwyr. Roedd y paratoi’n hanfodol ar gyfer sicrhau buddsoddiad angel, a’n galluogodd ni’n uniongyrchol i agor ein safle ar y Sgwâr Canolog.

Beth mae’r siop ar y Sgwár Canolog yn ei olygu i’r brand?

Y Sgwâr Canolog yw'r union fan rydyn ni eisiau bod: lleoliad lle mae pobl yn chwilio’n weithredol am fwyd cyfleus, iach, boed yn weithwyr swyddfa, myfyrwyr, mynychwyr cyngherddau neu dwristiaid. Yn y perfformiad ar y dechrau gwelwyd ein gwerthiant misol gorau erioed. Mae’n dod yn ôl o hyd i’r un flaenoriaeth: cynnig y cynnyrch gorau posibl a sicrhau bod cwsmeriaid yn dymuno dychwelyd.

Enillodd Kiwis Bowls wobr Busnes Newydd Bwyd a Diod y Flwyddyn Cymru yng Ngwobrau Busnesau Newydd y DU 2025. Beth oedd hynny’n ei olygu?

Roedd ennill gwobr Busnes Newydd Bwyd a Diod y Flwyddyn Cymru yng Ngwobrau Busnesau Newydd y DU 2025 yn destun balchder i ni. Roedd yn sêl bendith ar ein hymdrechion, yn hwb i’n hyder ni a’n hygrededd gyda phartneriaid a chwsmeriaid posibl.

Sut mae’r tîm yn newid wrth i’r busnes dyfu?

Wrth i ni dyfu, rydyn ni hefyd yn newid nifer o rolau gweithwyr yn gontractau amser llawn. Rydyn ni’n cyflogi nifer o fyfyrwyr ac yn falch dros ben o gynnig rolau a chyfrifoldebau newydd iddyn nhw wrth iddyn nhw drosi o’r brifysgol. Mae RCT yn ein cynorthwyo ni gyda chynllunio’r gweithlu am fod rhoi diogelwch swydd go iawn i bobl o bwys i ni. Y tu hwnt i’n tîm yn y siop, rydyn ni’n datblygu rolau eraill a fydd yn helpu i fynd â Kiwis Bowls i ble rydyn ni am iddo fe fod.

Beth byddech chi’n ei ddweud wrth fusnes bwyd dechrau cyfnod arall sy’n meddwl am RCT?

Ewch amdani. Os oes gennych chi uchelgeisiau i dyfu’n sylweddol yn ystod y tair blynedd nesaf, mae’r mynediad i bobl brofiadol yn amhrisiadwy, a byddwch chi’n cwrdd â mentoriaid rydych chi’n eu cario nhw gyda chi am flynyddoedd. Mae bod yn sylfaenydd ar ddechrau cyfnod yn anodd, ond mae’r holl atebion rydych chi’n chwilio amdanyn nhw allan yno. Gall RCT eich helpu chi i ddod o hyd iddyn nhw.

Dysgwch ragor am sut y gall y Rhaglen Cyflymu Twf gefnogi eich busnes chi.

Dysgwch ragor am Kiwis bowls.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.