Mae gan y cwmni o’r Hendy SMR UK genhadaeth i newid sut mae cwmnïau adeiladu a chyfleustodau yn meddwl am wastraff.
O'i safle cynhyrchu yng Nghil-y-coed, mae SMR UK yn cynhyrchu ac yn cyflenwi cynhyrchion rhwymwr patent sy'n trawsnewid deunyddiau sbwriel a gwastraff cloddiedig yn ddeunyddiau adeiladu cryf, y gellir eu hailddefnyddio. Mae eu cynhyrchion yn cynnig dewisiadau amgen cynaliadwy i ddulliau traddodiadol sy'n dibynnu ar agregau a safleoedd tirlenwi, gan dorri costau, lleihau allyriadau, a helpu cleientiaid i fodloni safonau amgylcheddol llym.
Mae cleientiaid megis Redrow, y Grid Cenedlaethol, ac Anglian Water eisoes yn dibynnu ar dechnoleg SMR UK, sy'n cynnwys SMR ReBind a lansiwyd yn ddiweddar, sef datrysiad adfer pridd ar y safle sy'n helpu i ddatgloi safleoedd tai tir llwyd ledled y DU.
Gyda chymorth y Rhaglen Twf Cyflym (RCT), gwasanaeth cymorth twf uchel Busnes Cymru, mae SMR UK wedi mireinio ei farchnata, gwella systemau mewnol, a chryfhau ei dîm, gan osod y sylfaen ar gyfer rhagor o arloesi a thwf.
Cawsom ni air â’r Rheolwr Gyfarwyddwr Clare Thomas i ddysgu rhagor.
Sut helpodd RCT SMR UK i gyflawni ei nodau
Rhoddodd RCT yr offer i ni foderneiddio sut rydyn ni’n gweithio, siarad â chwsmeriaid, a thyfu. Helpodd eu cymorth i drawsnewid ein gweithrediadau a datgloi cyfleoedd newydd.
Yn gyntaf, cawsom ddadansoddiad gwefan a marchnata llawn. Dangosodd i ni yn union beth oedd angen ei ddatrys o’n SEO i sut oedden ni’n adrodd ein hanes ni ar-lein. Fe aethom ni ati i ailadeiladu’r safle gyda negeseuon cliriach a gwell amlygrwydd, ac rydyn ni eisoes yn gweld mwy o gysylltiadau yn cyrraedd o ganlyniad.
Wedyn, helpodd RCT ni i adolygu a mireinio ein proses gwerthu. Ni wnaethon nhw awgrymu unrhyw newidiadau costus yn ein meddalwedd. Yn hytrach, fe ganolbwyntion nhw ar gynyddu beth oedd gennym ni eisoes, gan ein helpu ni i wella ein system CRM a’i hintegreiddio i’w defnyddio bob dydd. Bu’n drawsnewidiol. Erbyn hyn mae ein piblinell, ein harchebion ffatri, a’n sgyrsiau â chleientiaid yn fwy gweladwy, a’r cyfan mewn un lle.
Cynorthwyodd RCT hefyd gyda’n strategaeth Adnoddau Dynol, gan feincnodi rolau, diwygio contractau, a’n cynorthwyo ni gyda recriwtio ar gyfer swyddi allweddol. Mae hynny wedi caniatáu i ni dyfu’r tîm yn hyderus.
Pa heriau mae SMR UK wedi eu hwynebu, a sut mae RCT wedi helpu i’w goresgyn nhw?
Fel llawer o fusnesau bach sy’n tyfu’n gyflym, roedden ni’n jyglo llawer o bethau ar yr un pryd: arloesi, cyflawni prosiectau, a thyfu’n fewnol. Ond doedd ein systemau mewnol na’n strwythur tîm ddim wedi llwyddo i ddal i fyny â’n huchelgais a’n potensial ni.
Roedd angen i ni gael eglurder ar sut i gyfathrebu’n effeithiol am ein gwasanaethau ni, gwella ein perthnasoedd â chwsmeriaid, a recriwtio’r doniau cywir i’r tîm. Rhoddodd cymorth arbenigol, strwythuredig RCT yr eglurder hwnnw i ni.
Roedd eu cyngor yn strategol ac yn ymarferol. Mae’r gwaith a wnaethon ni ar ein CRM a’n marchnata wedi ein helpu ni’n uniongyrchol i greu rhagor o gysylltiadau a sicrhau rhagor o fusnes. Rhoddodd y cymorth AD hyder i ni gyflogi’n dda a pharhau i gydymffurfio â’r gyfraith. Maen nhw wedi ein helpu ni i adeiladu seiliau cadarn, gan ein galluogi ni i dyfu’n gynt ac yn ddoethach.
Beth sy’n gosod SMR UK ar wahân ymhlith y diwydiannau adeiladu a chyfleustodau?
Rydyn ni’n cynnig atebion ymarferol go iawn i un o broblemau mwyaf y diwydiant adeiladu a chyfleustodau: gwastraff.
Yr arloesiad craidd sydd gennym yw ystod o rwymwyr perchnogol sy'n caniatáu i gwmnïau ailddefnyddio hyd at 100% o'r pridd a gloddiwyd y maen nhw'n ei gynhyrchu ar y safle. Mae hynny’n golygu bod llai o wastraff yn mynd i safleoedd tirlenwi, llai o lorïau’n symud, ac arbedion sylweddol o ran cost a charbon.
Mae ein cynnyrch wedi'i gynllunio i ddisodli'n uniongyrchol agregau a sefydlogyddion traddodiadol megis Math 1 neu galch. Mae’r rhain yn llai cynaliadwy ac yn aml yn ddrytach.
Mae ein cynnyrch ni’n arbed arian, yn lleihau risg, ac yn symleiddio logisteg safleoedd. Boed yn beirianneg sifil, yn adfer ffyrdd, neu’n dai tir llwyd, rydyn ni’n darparu dewisiadau amgen gwell i'r dull 'turio a thaflu' sydd wedi bod y mwyaf poblogaidd ers degawdau.
Enghraifft wych o hyn yw ReBind, sef ein harloesiad diweddaraf. Mae’n galluogi datblygwyr i drin pridd sydd wedi’i heintio ar y safle, lleihau costau adfer hyd at 50% a lleihau amserlenni prosiectau. Rydyn ni eisoes wedi ei ddefnyddio ar brosiect seilwaith pwysig i arbed dros £2 miliwn ac atal 1,300 o symudiadau tryciau. Dyna’r math o effaith sy’n ein cymell ni i gyd.
Beth yw eich cynlluniau chi ar gyfer dyfodol SMR UK?
Rydyn ni am arwain y symudiad i arferion adeiladu doethach, mwy cynaliadwy.
Gyda chymorth RCT, rydyn ni wedi adeiladu’r strwythur mewnol i dyfu. Bellach rydyn ni’n canolbwyntio ar dyfu ein sylfaen gwsmeriaid, ehangu ein rhwydwaith dosbarthwyr, a gwthio ReBind i mewn i’r sector tai. Mae miloedd o safleoedd tir llwyd yn disgwyl i’w hagor. Gall ein technoleg wneud hynny’n bosib.
Rydyn ni hefyd yn parhau i fuddsoddi mewn pobl a systemau i sicrhau ein bod ni’n parhau’n ystwyth ac yn gallu ymateb wrth i’r galw gynyddu.
Pa gyngor y byddech chi’n ei roi i ddarpar entrepreneuriaid neu arloeswyr?
Gofynnwch am help yn gynnar. Does dim rhaid i chi wneud popeth drosoch chi eich hun. Mae RCT wedi bod yn ardderchog wrth ein helpu ni i nodi beth oedd ei angen arnom ni a rhoi’r cymorth gorau yn ei le. O ganlyniad, rwy’n rhydd i ganolbwyntio ar y darlun mawr a symud y busnes ymlaen. Cymorth a chyngor strategol gan reolwyr perthnasoedd profiadol sy’n gallu deall eich busnes yn gyflym ac yn aml gall nodi’r bylchau a’r cyfleoedd fod yn fwy gwerthfawr o lawer na chymorth ariannol.
Dysgwch ragor am y Rhaglen Cyflymu Twf yma.
Dysgwch ragor am SMR UK yma.