Mae ymddygiad chwiliadau’n symud. Dyma sut y gall busnesau â’u bryd ar dwf barhau’n gystadleuol mewn byd digidol wedi eu pweru gan offer AI a chwiliadau sgyrsiol. Bellach nid yw chwilotwyr yn dangos dolenni yn unig mewn ymateb i ymholiadau gan ddefnyddwyr. Mae AI Overviews Google, Copilot Bing, a ChatGPT gyda phori amser go iawn wedi eu dylunio i roi atebion sgyrsiol ar unwaith i ddefnyddwyr. O’r herwydd, yn aml caiff defnyddwyr beth y mae...
Newid y Stori: Y busnes newydd yng Nghymru sy’n rhoi calon ddiwylliannol, greadigol i ofal dementia
Ar ôl gweithio ers 17 flynedd i’r GIG a gwasanaethau cymunedol, gwelodd Donna Chappell fwlch ym maes gofal dementia, yn enwedig yng nghefn gwlad Cymru. Teimlai’n rhwystredig fod pobl, yn aml, yn cael eu trin yn wrthrychau gofal goddefol, yn hytrach nag unigolion sydd â hunaniaethau, sgiliau a straeon cyfoethog. Dyna a arweiniodd Donna i greu Ty Dol, sef clwb gweithgareddau wedi’i ysbrydoli gan Montessori ar gyfer pobl sydd â dementia a chyflyrau iechyd hirdymor...
Cydnabod chwe sylfaenydd arloesol yng Ngwobrau Rhaglen Cyflymu Dechrau Busnes
Roedd hi’n garreg filltir nodedig i entrepreneuriaeth Cymru pan gafodd chwe entrepreneur o bob cwr o Gymru eu cydnabod am eu creadigrwydd, eu heffaith a'u cynnydd ar ôl cwblhau Rhaglen Cyflymu Dechrau Busnes – sef rhaglen ddwys a luniwyd i helpu busnesau newydd sydd â photensial cryf i dyfu’n gyflym. Mae’r Rhaglen Cyflymu Dechrau Busnes, sy’n cael ei darparu dan Raglen Cyflymu Twf (RCT) Busnes Cymru, yn rhoi i sylfaenwyr sy’n dechrau arni yr offer...
Câr-y-Môr: Adfywio arfordir Cymru drwy arloesedd cymunedol
Câr-y-Môr yw fferm wymon a physgod cregyn adfywiol gymunedol gyntaf Cymru. Mae’r fferm wedi'i lleoli yn Nhyddewi, Sir Benfro, a’i gweledigaeth feiddgar yw adfywio’r arfordir, adfer ecosystemau morol a chreu bywoliaeth gynaliadwy i bobl. Gweithreda Câr-y-Môr yn Gymdeithas Budd Cymunedol, ac mae’n fudiad sy’n cynnwys nifer o genedlaethau ac sy’n ceisio adfer cysylltiad pobl â'r môr, â’r tir, ac â'i gilydd. Ailfuddsoddir pob punt a wneir yn y gymuned, ac mae gan bob aelod yr...
O ennill ychydig o arian ychwanegol i fusnes harddwch rhyfeddol gwerth £6.5 miliwn: Sut oedd y Rhaglen Cyflymu Twf yn gefn i gynnydd anhygoel Hair Syrup
Mae Hair Syrup, a sefydlwyd gan Lucie Macleod o Sir Benfro a hithau’n dal yn y brifysgol yn 2020, wedi datblygu'n gyflym o brosiect myfyrwraig frwd i fod yn un o brif fusnesau newydd Cymru. Ar ôl dechrau’n frand olew gwallt cartref, yn dilyn profiadau Lucie hithau a llwyddiant ar TikTok, yn fuan trodd hwn yn ffenomen harddwch gwerth miliynau o bunnoedd. Er iddi adael Dragons' Den y BBC heb fuddsoddiad, daeth ei hymddangosiad â...
O anhawster i arloesi: mae Dot On yn ailddiffinio manwerthu byd-eang gyda help y Rhaglen Cyflymu Twf
Mae Dot On yn system rheoli gwerthiant a chadwyni cyflenwi arloesol wedi ei hadeiladu gan fanwerthwyr ar gyfer manwerthwyr. Fe’i cynlluniwyd i ddatrys rhwystredigaethau systemau datgysylltiedig, hen ffasiwn. Mae'n helpu busnesau manwerthu twf uchel i symleiddio gweithrediadau a chynnal eu data yn gywir. Trwy chwyldroi sut mae cadwyni gwerthu a chyflenwi yn gweithredu, mae'n caniatáu i fanwerthwyr ddarparu profiadau llyfn i gwsmeriaid. Gyda chymorth Rhaglen Cyflymu Twf (RCT) Busnes Cymru, mae'r cwmni'n ailddiffinio technoleg fanwerthu...
Symud i wella: Busnes newydd ym Mhen-y-bont ar Ogwr sy’n ailgysylltu cymunedau trwy weithgarwch corfforol
Pan adawodd Nick Clement ddysgu, doedd ei fryd e ddim ar sefydlu busnes. Ond ar ôl gweld yr heriau iechyd meddwl a chorfforol cynyddol sy'n wynebu plant a theuluoedd drosto'i hun - a thrawsnewid ei iechyd ei hun trwy symud - roedd e’n gwybod ei fod am wneud rhywbeth i helpu. Ysbrydolodd hynny Confident Healthy Active Me CIC (CHAM), sef menter gymdeithasol sydd ar genhadaeth i wneud symud yn hwyl, yn hygyrch ac yn drawsnewidiol...
Meddyginiaeth “Môr” fawr: Y busnes newydd Cymreig sy’n ailfeddwl ADHD i fenywod
Mae pobl wedi camddeall ADHD ers degawdau - yn enwedig yn achos menywod. Mae'r rhan fwyaf o driniaethau wedi'u cynllunio o amgylch bioleg wrywaidd, gyda meddyginiaethau sy'n seiliedig ar symbylydd sy'n cuddio symptomau yn hytrach na mynd i'r afael ag achosion sylfaenol. Ond i lawer o fenywod, mae gan ADHD gysylltiad dwfn â hormonau, iechyd y perfedd, a rhythm yr ymennydd ar draws gwahanol gyfnodau bywyd. Dyna’r broblem yr aeth Lucy McCarthy-Christofides ati i’w datrys...
Arweiniwch yn glyfrach, tyfwch yn gryfach: Adnoddau hanfodol i roi min ar eich busnes a thyfu gyda phwrpas.
Bob mis, mae ein Rheolwyr Perthnasoedd RCT - arbenigwyr profiadol sy'n gweithio gyda busnesau twf uchel ledled Cymru - yn rhannu eu prif argymhellion. Mae'r adnoddau hyn wedi'u dewis yn ofalus i'ch helpu chi i arwain gyda hyder, tyfu gyda phwrpas, a manteisio ar gyfleoedd newydd wrth lywio'r heriau sy'n unigryw i'ch busnes. Y mis hwn, mae Geraint Hughes, Rheolwr Perthnasoedd RCT ar gyfer gogledd-orllewin Cymru, yn rhannu ei brif ddewisiadau. Gyda ffocws cryf ar...
Pum ffordd y gall AI danio eich gwerthiant e-fasnach
Nid rhywbeth i’r cewri technegol yn unig yw AI erbyn hyn. Mae'n offeryn pwerus, ymarferol ar gyfer busnesau e-fasnach bach a chanolig os ydych chi'n barod amdano. Gyda'r sylfaen gywir, gall AI eich helpu i weithio'n fwy clyfar, syfrdanu'ch cwsmeriaid, a gyrru tyfiant gwerthiant difrifol. Dyma bum ffordd brofedig o ddechrau defnyddio AI heddiw a diogelu eich busnes e-fasnach ar gyfer y dyfodol. 1. Gwnewch eich data’n barod ar gyfer offer AI mwy clyfar Bydd...