Câr-y-Môr yw fferm wymon a physgod cregyn adfywiol gymunedol gyntaf Cymru. Mae’r fferm wedi'i lleoli yn Nhyddewi, Sir Benfro, a’i gweledigaeth feiddgar yw adfywio’r arfordir, adfer ecosystemau morol a chreu bywoliaeth gynaliadwy i bobl.
Gweithreda Câr-y-Môr yn Gymdeithas Budd Cymunedol, ac mae’n fudiad sy’n cynnwys nifer o genedlaethau ac sy’n ceisio adfer cysylltiad pobl â'r môr, â’r tir, ac â'i gilydd. Ailfuddsoddir pob punt a wneir yn y gymuned, ac mae gan bob aelod yr un llais wrth lunio ei ddyfodol. Gyda chymorth Rhaglen Cyflymu Twf (RCT) Busnes Cymru, mae'r sefydliad wedi llwyddo i lywio ei ffordd trwy amgylchedd rheoleiddiadau cymhleth, lansio cynhyrchion arloesol, ac erbyn hyn mae’n tyfu i sbarduno diwydiant newydd sbon yng Nghymru.
Yma, mae'r Rheolwr Gyfarwyddwr Owen Haines yn adrodd hanes y cwmni a rôl hanfodol RCT wrth helpu Câr-y-Môr i dyfu.
Beth oedd yr ysbrydoliaeth a wnaeth i chi greu Câr-y-Môr?
Ein treftadaeth ni oedd yr ysbrydoliaeth fawr – cenedlaethau o bysgota arfordirol, dyframaethu a ffermio – a'r cysylltiad dwfn rhwng pobl a lle. Gwelsom y brwydrau yn ein cymunedau: dirywiad amgylcheddol, swyddi yn diflannu, a phobl ifanc yn symud i ffwrdd. Felly dyma ni’n gofyn, "Beth pe baem ni’n gallu creu diwydiant a fyddai’n helpu'r môr a'r bobl sy'n byw yn agos ato i ffynnu eto?"
Fe sefydlon ni Câr-y-Môr yn Gymdeithas Budd Cymdeithasol, a’r nod o'r cychwyn cyntaf fu adfer cydbwysedd, adeiladu dyfodol sy'n parchu’n gorffennol, a chreu swyddi o ansawdd i wahanol genedlaethau.
Sut bu RCT o gymorth i chi?
Bu cymorth RCT yn drawsnewidiol. Rydyn ni’n ceisio creu diwydiant newydd sbon yng Nghymru, a does dim glasbrint ar gyfer hynny. Helpodd RCT ni i lunio strategaeth hyfyw i dyfu, egluro ein gwaith modelu ariannol, ac agor drysau i rwydweithiau a chyfleoedd na fyddem ni wedi gallu manteisio arnyn nhw fel arall.
Yn ogystal â darparu arbenigedd gwerthfawr, rhoddon nhw help i ni sylweddoli y gallen ni ac y dylen ni anelu’n uwch y ac y gallai Câr-y-Môr sbarduno sector morol adfywiol newydd yng Nghymru. O sgyrsiau am strategaeth ar y dechrau i wneud ceisiadau am arian a chysylltu â rhanddeiliaid, maen nhw wedi ein helpu ni i dyfu'n gyfrifol wrth barhau’n driw i'n gwerthoedd.
Beth oedd rhai o’r heriau mwyaf a gawsoch chi?
Roedd trwyddedu a rheoliadau yn achos rhwystrau enfawr. Doedd dim fframwaith wedi’i sefydlu ar gyfer ffermio gwymon a physgod cregyn yng Nghymru, felly rydyn ni wedi gorfod cydweithio'n agos ag asiantaethau i lunio'r broses wrth fynd ymlaen. Bu’r broses yn un araf a chymhleth, ond rydyn ni’n falch o fod wedi ennill apêl am drwydded forol, sy’n garreg filltir i ni ac yn gynsail i'r sector.
Her arall oedd codi ymwybyddiaeth. Dyw llawer o bobl yng Nghymru ddim y sylweddoli gwerth gwymon fel bwyd, gwrtaith, neu ddull o helpu’r amgylchedd. Felly, roedd addysg yn rhan bwysig o’n gwaith ni – hynny yw, adfer cysylltiad pobl â bwyd môr, arferion adfywio, a’n hunaniaeth arfordirol.
Roedd dod o hyd i gyllid hefyd yn heriol. Mae angen llawer o gyfalaf i dyfu seilwaith morol, ac fel Cymdeithas Budd Cymdeithasol, rydyn ni’n dibynnu ar fuddsoddiad cymdeithasol ac amgylcheddol. Bu cyngor strategol RCT a’r cymorth gyda cheisiadau am gyllid yn hollbwysig.
Pa lwyddiannau sydd wedi rhoi’r balchder mwyaf i chi hyd yma?
Dod yn fferm wymon a physgod cregyn fasnachol gyntaf Cymru a chreu 20 o swyddi ar gyfer blwyddyn gron mewn ardal arfordirol wledig. Rydyn ni hefyd wedi lansio ein biosymbylyddion cyntaf ar gyfer amaethyddiaeth, sy'n seiliedig ar wymon. Cynhyrchion yw’r rhain sy'n gwella iechyd y pridd yn naturiol – a bu arweiniad RCT yn help i gyflwyno’r rhain i'r farchnad.
Ond yn anad dim, rydyn ni’n falch o weld canfyddiadau pobl yn newid. Mae pobl leol yn ymfalchïo mewn busnes sydd wedi'i wreiddio mewn traddodiad sy'n adlewyrchu gwerthoedd ein cymunedau arfordirol gwerthfawr.
Beth sydd nesaf i Câr-y-Môr?
Rydyn ni’n cynyddu ein gweithredoedd ffermio ac yn ehangu ein gallu prosesu. Hoffen ni gynnig prentisiaethau, cryfhau ein cadwyni cyflenwi, a helpu i sefydlu diwydiant dyframaethu adfywiol ffyniannus yng Nghymru a fydd yn creu swyddi, yn adfer natur, ac a fydd o fudd cymunedol hirdymor.
Rydyn ni wrthi’n creu gweithlu sy’n pontio cenedlaethau, ond mae’n golygu mwy na swyddi. Mae’n fater o berthyn.
Bellach mae dros 500 o aelodau yn rhan o’r fenter, felly gyda chymorth parhaus RCT, rydyn ni’n ffyddiog y gall Cymru arwain y ffordd yn y sector hwn.
Pa gyngor y byddech chi’n ei roi i entrepreneuriaid eraill?
- Gwnewch yn siŵr bod gennych chi bobl o’ch cwmpas chi sy’n eich herio chi ond sydd hefyd yn credu yn y weledigaeth.
- Gwrandewch ar eich cymuned chi a daliwch ati i gysylltu â nhw
- Manteisiwch ar raglenni cymorth megis RCT – maen nhw yno i helpu busnesau tebyg i’ch un chi i lwyddo
Cliciwch yma i ddysgu rhagor am y Rhaglen Cyflymu Twf.
Cliciwch yma i ddysgu rhagor am Câr-y-Môr.