Roedd hi’n garreg filltir nodedig i entrepreneuriaeth Cymru pan gafodd chwe entrepreneur o bob cwr o Gymru eu cydnabod am eu creadigrwydd, eu heffaith a'u cynnydd ar ôl cwblhau Rhaglen Cyflymu Dechrau Busnes – sef rhaglen ddwys a luniwyd i helpu busnesau newydd sydd â photensial cryf i dyfu’n gyflym.
Mae’r Rhaglen Cyflymu Dechrau Busnes, sy’n cael ei darparu dan Raglen Cyflymu Twf (RCT) Busnes Cymru, yn rhoi i sylfaenwyr sy’n dechrau arni yr offer hanfodol, y cymorth arbenigol a’r rhwydweithiau gwerthfawr sydd eu hangen i dyfu ac ehangu eu busnesau. Hyd yn hyn, mae RCT wedi bod yn allweddol wrth yrru llwyddiant entrepreneuriaid yng Nghymru, gan helpu i sicrhau cynnydd o £486 miliwn mewn buddsoddiad, £550 miliwn mewn gwerthiant allforio a chreu 13,440 o swyddi.
Yn y garfan ddiweddaraf hon daeth 20 o sylfaenwyr at ei gilydd ar gyfer rhaglen 10 wythnos a oedd yn canolbwyntio ar fireinio modelau busnes, creu gwerthiant, a pharatoi ar gyfer buddsoddi. I gloi’r rhaglen, cynhaliwyd digwyddiad arddangos, lle cyflwynwyd gwobrau i chwe chyfranogwr amlwg i gydnabod eu hymrwymiad a'u cynnydd eithriadol.
Enillwyr gwobrau’r garfan hon yw:
- Gwobr Cynnig Flex: Natasha Page, sylfaenydd VitalAir
Mae VitalAir yn datblygu profion alergedd cyflym, addas i blant i fynd i’r afael â rhwystredigaeth rhieni pan na rhoddir esboniad neu y diystyrir y ffaith fod eu plentyn yn anadlu’n bennaf trwy’r geg. - Gwobr y Rhaglen Cyflymu Gwerthiant: Michele Sims, sylfaenydd Clearlypods
Mae Clearlypods yn darparu podiau lles modylaidd sydd â’r posibilrwydd o gynnig dihangfa rhag y grid i westai bwtîc a lleoliadau moethus, gan eu helpu nhw i ehangu eu cynigion yn gyflym gydag unedau hunangynhwysol o ansawdd uchel, a’u galluogi i wella eu statws a'u gwasanaethau sba - Enillydd Gwobr y Rhaglen Gyflymu: Sarah Alex Carter, sylfaenydd Yuple
Mae Yuple yn datblygu offer greddfol sy’n troi lleferydd yn destun ac sy’n chwarae’n ôl i fynd i'r afael â'r ynysu a’r rhwystrau chyfathrebu a ddaw i ran oedolion sydd wedi colli eu clyw. - Gwobr Gwerthiant Cyflymaf: Vlad Tanasescu, sylfaenydd safeIncent
Mae safeIncent yn darparu ap newid arferion wedi’i hunan-ariannu i unigolion sy'n ceisio twf personol, gan eu helpu nhw i barhau’n atebol trwy roi eu harian eu hunain yn y fantol. - Gwobr Hyrwyddwr y Rhaglen Gyflymu: Pam Jones, sylfaenydd Easy Care Products Ltd
Mae Easy Care yn darparu system gwella cysur cludadwy i ddefnyddwyr cadair olwyn, gan eu helpu nhw i wneud addasiadau bach, annibynnol i leddfu pwysau a gwella cysur hirdymor. - Gwobr y Cyfranogwr Mwyaf Cydweithredol: Tessa Polniaszek, sylfaenydd Thinking Diversity
Mae Tessa yn cynnig rhaglenni hyfforddi, offer a gwasanaethau sy'n seiliedig ar bersonoliaeth, gan helpu darparwyr gwasanaethau i ddeall sut mae niwroamrywiaeth yn llunio cyfathrebu, arweinyddiaeth, dyluniad gwasanaethau ac ymarfer.
Meddai Richard Morris, Cyfarwyddwr y Rhaglen Cyflymu Twf:
"Rydyn ni’n gweithio'n agos gyda sylfaenwyr busnesau newydd sy’n dechrau arni i'w helpu i fagu momentwm, lleihau risg a throi eu syniadau yn fentrau masnachol hyfyw. Roedd y garfan hon yn fwrlwm o egni a thalent, ac roedd y chwech a enillodd y gwobrau hyn yn disgleirio am eu gwaith caled eithriadol, eu cydweithredu ag eraill, a'u defnydd effeithiol o'r cymorth oedd ar gael.
Meddai Sarah Alex Carter enillydd Gwobr y Rhaglen Gyflymu:
“Bu cymryd rhan yn y Rhaglen Gyflymu’n brofiad trawsnewidiol. Helpodd fi i weld yn gliriach ble roeddwn i am fynd â’r busnes a rhoddodd hyder i mi fynd ati i wireddu’r weledigaeth honno. Dyna wahaniaeth oedd cael mynediad at fentoriaid, arweiniad arbenigol, a grŵp cefnogol o gymheiriaid. Roedd ennill gwobr yn goron ar y cyfan, ond y budd pennaf oedd teimlo’n barod am y cam nesaf.”
Bellach mae’r Rhaglen Cyflymu Twf nesaf yn derbyn ceisiadau, a chynhelir y rhaglen hon rhwng 30 Medi 2025 a 12 Rhagfyr 2025. Mae'r rhaglen yn agored i sylfaenwyr sy’n dechrau arni yng Nghymru ac sy'n barod i fynd â'u syniad busnes i'r farchnad a thyfu’n gyflym. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 25 Awst 2025.
I ddysgu rhagor a gwneud cais, ewch i:
https://events.newable.co.uk/events/13/start-up-accelerator-september-2025?lang=cy