Yn y gyfres hon, rydyn ni’n eich cyflwyno chi i’n Rheolwyr Perthnasoedd arbenigol. Y mis hwn, dewch i gwrdd â Carmel Gahan, cynghorydd profiadol iawn sy'n cyfuno hanes cryf o gynorthwyo busnesau ag angerdd dros helpu busnesau Cymru i dyfu a llwyddo. Mae Carmel wedi cysegru ei gyrfa i gefnogi entrepreneuriaid, o'i dyddiau cynnar fel aelod o Fwrdd Antur Teifi yng Nghastellnewydd Emlyn i'w rôl bresennol ar y Rhaglen Cyflymu Twf (RCT). Enillodd wobr bwysig...
Datgloi potensial: Pam y dylai Twf Swyddi Cymru+ fod yn rhan o’ch strategaeth recriwtio
Yn y farchnad swyddi gystadleuol sydd ohoni, gall hi fod yn heriol dod o hyd i weithwyr sydd â’r sgiliau cywir wrth reoli costau. Dyna ble mae rhaglen Twf Swyddi Cymru+ (TSC+) yn ychwanegu gwerth trwy bartneriaeth strategol i’ch helpu chi i dyfu eich tîm. Beth mae TSC+ yn ei gynnig i gyflogwyr Mae TSC+ yn darparu pecyn atyniadol i gyflogwyr sy’n barod i fuddsoddi yn noniau’r dyfodol. Gyda chymhorthdal cyflog o hyd at 50%...
Ble i ddechrau wrth leihau carbon: Cyngor ymarferol i fusnesau uchelgeisiol
Nid dim ond mater o amddiffyn y blaned yw mesur a lleihau eich ôl-troed carbon. Mae’n golygu diogelu eich busnes rhag y dyfodol gan sicrhau na chewch chi eich gadael ar ei hôl hi. Mae cwsmeriaid a buddsoddwyr, yn fwy ac yn fwy, yn disgwyl gweithredu ar gynaliadwyedd. Mae’r rheoleiddio’n tynhau. Mae pwysau cynyddol ar fusnesau bach a chanolig i ddatgarboneiddio wrth i gwsmeriaid mwy o faint edrych ymhellach i fyny eu cadwyni cyflenwi i...
5 ffordd o blygio AI i mewn i’ch prosesau busnes
Mae haen rymus o integreiddio AI y mae llawer o fusnesau yn ei hanwybyddu o hyd. Er bod offer megis ChatGPT, Gemini a Claude yn cael eu defnyddio'n helaeth ar gyfer ysgrifennu, ymchwil a thanio syniadau, mae cyfleoedd mwy i fanteisio arnyn nhw wrth ymgorffori AI yn uniongyrchol yn eich gweithrediadau o ddydd i ddydd. Trwy blygio AI i mewn i'ch prosesau busnes, gallwch chi wella cywirdeb, lleihau gwaith llaw, a gweld problemau cyn iddyn...
Cwrdd â’n Partneriaid Aur: Cymorth Arbenigol i Gyflymu Eich Twf
Rydyn ni’n adeiladu rhwydwaith o bartneriaid arbenigol sy’n datblygu i’ch helpu chi i dyfu’n gynt ac yn glyfrach. Mae ein cynllun Partneriaid Aur yn dod â phrif fusnesau Cymru sy'n darparu cymorth arbenigol mewn gwasanaethau, at ei gilydd yn unig i gwmnïau ar y Rhaglen Cyflymu Twf (RCT). Mae'r partneriaid arbenigol hyn yn deall heriau twf uchel ac maen nhw wedi ymrwymo i helpu busnesau Cymru i lwyddo. Rydyn ni wrthi’n chwilio am bartneriaid newydd...
Gosod seiliau llwyddiant: Sut helpodd y Rhaglen Cyflymu Twf i yrru ehangiad EvaBuild
Dechreuodd y contractwr gwaith tir EvaBuild, a sefydlwyd yn 2011, gyda syniad syml ond herfeiddiol: newid sut mae prosiectau adeiladu’n gweithio. Ar ôl blynyddoedd yn y diwydiant, gwelodd y tîm broblem yn codi dro ar ôl tro o gleientiaid yn buddsoddi’n drwm mewn dyluniadau cyn deall yr amgylchiadau gwaelodol ar safleoedd arfaethedig. Trwy droi’r broses ar ei phen ac annog cleientiaid i asesu dichonoldeb a chostau gwaith tir yn gyntaf, mae EvaBuild yn arbed amser...
Cwmni dur o Gymru i helpu i ailadeiladu Wcráin gyda chontract £1.1m ar gyfer pont
Mae cwmni peirianneg Cymreig yn chwarae rhan hollbwysig yn yr ymdrechion i ailadeiladu Wcráin ar ôl ennill contract gwerth £1.1 miliwn i gynhyrchu hytrawstiau dur ar gyfer pont newydd ger Kyiv a ddistrywiwyd yn ystod y rhyfel â Rwsia. Sicrhaodd Pro Steel Engineering o Bont-y-pŵl y contract gan Grŵp ONUR yn dilyn proses dendro gystadleuol dros 2.5 mlynedd, gan drechu cystadleuaeth o bob cwr o’r DU i ddarparu 200 tunnell o hytrawstiau dur sydd i’w...
Arbenigwr ysgolion TB Davies yn dringo’n uwch fyth o ran cynaliadwyedd gyda chymorth y Rhaglen Cyflymu Twf
TB Davies o Gaerdydd yw un o enwau mwyaf dibynadwy’r DU ym maes offer i weithio’n ddiogel ar uchder. Sefydlwyd y busnes teuluol yn 1945, ac mae’n darparu ysgolion, grisiau, a thyrau i weithwyr proffesiynol ac aelwydydd ers bron 80 mlynedd. Heddiw, mae’n gwasanaethu manwerthwyr pwysig megis Screwfix ac Amazon, gan greu refeniw blynyddol o £8 miliwn. Ond mae TB Davies hefyd yn profi y gall busnesau treftadaeth fod yn arweinwyr ym maes twf gwyrdd...
Adeiladu’n well: Sut daeth Grŵp Raven Delta yn arweinydd ym maes adeiladau iach gyda chymorth y Rhaglen Cyflymu Twf
Mae Grŵp Raven Delta, sydd wedi ei leoli yn Abertawe, yn chwyldroi’r modd rydyn ni’n meddwl am adeiladau. Yn hytrach na’u gweld nhw’n strwythurau statig, mae’r Grŵp yn eu trin nhw’n amgylcheddau deinamig sy’n cael effaith uniongyrchol ar ein hiechyd, ein llesiant, a’n cynhyrchiant. Sefydlwyd Raven Delta gan Brif Swyddog Gweithredol y Grŵp Dave Kieft, a daw â nifer o gwmnïau arbenigol dan un genhadaeth unedig: gwella ansawdd amgylcheddol dan do (IEQ), sicrhau cydymffurfiaeth, a...
Troi gwastraff yn gyfle: Sut y rhoddodd y Rhaglen Cyflymu Twf yr offer i SMR UK dyfu’n ddoethach, yn gynt, ac yn wyrddach
Mae gan y cwmni o’r Hendy SMR UK genhadaeth i newid sut mae cwmnïau adeiladu a chyfleustodau yn meddwl am wastraff. O'i safle cynhyrchu yng Nghil-y-coed, mae SMR UK yn cynhyrchu ac yn cyflenwi cynhyrchion rhwymwr patent sy'n trawsnewid deunyddiau sbwriel a gwastraff cloddiedig yn ddeunyddiau adeiladu cryf, y gellir eu hailddefnyddio. Mae eu cynhyrchion yn cynnig dewisiadau amgen cynaliadwy i ddulliau traddodiadol sy'n dibynnu ar agregau a safleoedd tirlenwi, gan dorri costau, lleihau allyriadau...