Pan adawodd Nick Clement ddysgu, doedd ei fryd e ddim ar sefydlu busnes. Ond ar ôl gweld yr heriau iechyd meddwl a chorfforol cynyddol sy'n wynebu plant a theuluoedd drosto'i hun - a thrawsnewid ei iechyd ei hun trwy symud - roedd e’n gwybod ei fod am wneud rhywbeth i helpu. 

Ysbrydolodd hynny Confident Healthy Active Me CIC (CHAM), sef menter gymdeithasol sydd ar genhadaeth i wneud symud yn hwyl, yn hygyrch ac yn drawsnewidiol. Mae CHAM yn ailgysylltu pobl â nhw eu hunain, eu hiechyd, ac â'i gilydd trwy raglenni llesiant cynhwysol, yng nghanol y gymuned.

Gyda chymorth gan y Rhaglen Cyflymu Dechrau Busnes, sy'n rhan o'r Rhaglen Cyflymu Twf (AGP), prif wasanaeth cymorth busnesau twf uchel Cymru, trodd Nick weledigaeth bersonol bwerus yn fusnes effeithiol. Siaradon ni â Nick am sut y bu cymryd rhan yn y rhaglen gyflymu yn help iddo.
CHAM

Sut yr helpodd y Rhaglen Cyflymu Dechrau Busnes i lywio datblygiad CHAM?

Cyn y Rhaglen Cyflymu Dechrau Busnes, roedd gen i’r awch a’r nod ond nid y strwythur. Roedd popeth sy'n dod gyda rhedeg menter newydd yn dechrau mynd yn drech na mi: cynllunio ariannol, brandio, a rheoli amser.

Rhoddodd y rhaglen gyflymu’r lle, y mentora a’r offer i mi droi CHAM yn fusnes. Dechreuais i feddwl yn fwy strategol, creu systemau i leihau pwysau, a dysgu sut i adeiladu cynaliadwyedd yn y model, gan gynnwys datblygu ein ffrwd refeniw gyntaf.

Roedd bod o gwmpas sylfaenwyr eraill ar y rhaglen hefyd yn help i mi sylweddoli nad oeddwn i ar fy mhen fy hun. Rhoddodd y cymorth hwnnw gan gymheiriaid, ynghyd ag arweiniad gan fentoriaid a oedd wir yn credu ynom ni, yr hyder yr oedd ei angen arnaf i arwain gydag eglurder a phwrpas. 

Beth oedd yr ysbrydoliaeth i ti ddechrau Confident Healthy Active Me?

Dechreuodd y cyfan gyda fy iachâd fy hun. Ar ôl gadael yr ystafell ddosbarth, es i drwy amser caled yn feddyliol ac yn gorfforol. Bu CBT o gymorth, ond symud, natur a chysylltu ag eraill a ddaeth â mi yn ôl yn fyw.

Fel athro, roeddwn i wedi gweld y newidiadau yn llesiant plant: rhagor o orbryder, llai o symud, datgysylltiad cynyddol. Ychwanegwch yr argyfwng costau byw, a gall byw’n iach fod yn foethusrwydd i lawer o deuluoedd.

Ganed CHAM o’m dymuniad i wneud llesiant yn sbort, yn gynhwysol, ac yn hygyrch. Rydw i am i bobl weld symud yn ffordd o iacháu, cysylltu, a ffynnu.

Beth oedd yr heriau mwyaf yr oeddet ti’n eu hwynebu cyn y rhaglen?

Un o’r rhannau anoddaf oedd troi rhywbeth personol yn fusnes cynaliadwy. Doeddwn i ddim yn dod o gefndir masnachol, felly roeddwn i'n teimlo ar goll pan oedd angen strwythuro'r sefydliad, rheoli cyllid, neu wneud penderfyniadau am dwf.

Roedd fy meddylfryd hefyd yn sialens – roedd gen i’r teimlad  bron bod rhaid i mi wneud y cyfan, drwy’r amser. Roeddwn i’n ceisio’i dal hi ym mhob man a phethau’n dechrau mynd yn ormod i fi.

Helpodd y rhaglen gyflymu i mi symleiddio, blaenoriaethu a gweithio mewn modd sy’n gweddu i mi. Rhoddodd amser i mi adfyfyrio, mireinio fy nghenhadaeth, a dod o hyd i rythm sy’n caniatáu i mi arwain gyda rhagor o ffocws.

Pa offer ymarferol neu ganfyddiadau o’r rhaglen a wnaeth y gwahaniaeth mwyaf?

Roedd dysgu cynllunio yn gynaliadwy yn gam enfawr, yn enwedig wrth ddeall ffrydiau refeniw a pheidio â dibynnu ar gyllid grantiau yn unig. Bellach mae gennym ni ddwy ffrwd incwm, sy’n gwneud popeth yn fwy sefydlog.

Rhywbeth trawsnewidiol arall oedd rheoli amser. Ac wedyn dyna’r newid meddylfryd: dysgu ei bod hi’n iawn camu nôl, pwyso a mesur, a pheidio â cheisio perffeithrwydd. Bu hynny’n werthfawr dros ben.

Beth sy’n gwneud CHAM yn unigryw?

Rydyn ni’n cwrdd â phobl lle maen nhw. Does dim pwysau na beirniadaeth; lle hwyliog, croesawgar yw hwn lle mae symud yn dod yn offeryn ar gyfer hyder, cysylltiad a llesiant.

Dydyn ni ddim yn cynnal rhaglenni ffitrwydd brawychus. Rydyn ni’n creu profiadau cymunedol sy’n helpu pobl i ailddarganfod llawenydd wrth symud.

Beth sydd nesaf i CHAM?

Mae ein ffocws ni ar ehangu ledled Cymru. Mae hynny'n golygu adeiladu perthnasoedd â rhagor o ysgolion, teuluoedd a grwpiau cymunedol a mireinio ein model cyflawni i gael rhagor o effaith. Rydw i am i CHAM fod y lle i fynd ar gyfer rhaglenni symud cynhwysol, sy’n adeiladu hyder mewn ysgolion, canolfannau cymunedol, a thu hwnt.

Pa gyngor y byddet ti’n ei roi i entrepreneuriaid?

Peidiwch â mentro ar eich pen eich hun. Dewch o hyd i gymorth, ymunwch â rhaglen fel y Rhaglen Cyflymu Dechrau Busnes, ac adeiladu rhwydwaith sy'n eich herio chi a'ch codi chi. A chofiwch, does dim rhaid i chi fod yn berffaith. Dechreuwch yn syth. Symudwch ymlaen, gam wrth gam.

I gael rhagor o wybodaeth am sut y gall y Rhaglen Cyflymu Twf helpu eich taith chi, cliciwch yma.

Share this page

Print this page