Sefydlodd Geoff Tomlinson FSEW (Freight Systems Express Wales) yn 2002 ar ôl cael ei wneud yn ddi-waith gan gwmni cludo Ewropeaidd. Ar ôl sylwi ar fwlch yn y farchnad am wasanaeth anfon llwythi mwy ymatebol a oedd yn canolbwyntio’n fwy ar gwsmeriaid, lansiodd Geoff FSEW gyda dyrnaid o gysylltiadau a gweledigaeth feiddgar.
O neidio ymlaen ddau ddegawd, bellach mae FSEW yn gweithredu o’i brif swyddfa yng Nghwynllŵg, Caerdydd. Mae dros 100 o bobl yn gweithio i’r cwmni ac £19 miliwn yw ei drosiant blynyddol. Mae’n darparu gwasanaethau cludo drwy nifer o ffyrdd integredig ar draws y DU, Ewrop ac yn rhyngwladol. Mae FSEW fwyaf adnabyddus heddiw am ei waith arloesol sydd wedi ennill gwobrau i ddatgarboneiddio o’r dechrau i’r diwedd ym maes cludo.
Cawsom ni air â'r sylfaenydd a'r Rheolwr Gyfarwyddwr Geoff Tomlinson i ddysgu sut yr helpodd cymorth gan Raglen Cyflymu Twf (RCT) Busnes Cymru FSEW i gynyddu gweithrediadau, cofleidio arloesedd, a dod yn arweinydd cenedlaethol ym maes logisteg carbon isel.
Pa broblem y mae FSEW yn ei datrys?
Rydyn ni’n symleiddio’r gwaith o gludo llwythi i frandiau mawr ar y ffyrdd, rheilffyrdd, y môr a’r awyr wrth eu helpu nhw i leihau eu hôl-droes carbon. Mae’r diwydiant logisteg yn un gwael am lygru, a sylweddolais i’n fuan iawn fod modd i ni wneud pethau’n wahanol. Ein gweledigaeth ni yw gwneud cludo’n lanach, yn fwy cynaliadwy, ac eto’n fasnachol hyfyw.
Rydyn ni wedi dileu cerbydau disel o’n fflyd, ac wedi rhoi rhai trydan a rhai biomethan llwyr yn eu lle. Dyna osgoi dros 2.4 miliwn o gilometrau disel, sy’n gyfwerth ag arbed 2,400 o dunelli o CO₂.
Beth oedd y prif heriau wrth dyfu’r busnes?
Un o’r cyfnodau anoddaf oedd yn ystod dirwasgiad 2008 pan oedd rhaid i ni frwydro’n galed i barhau’n broffidiol. Ond un o’r prif heriau hirdymor fu datgarboneiddio sector sy’n ddrwgenwog am fod yn anodd iawn i’w drydaneiddio. Rydyn ni’n cludo cynwysyddion a llwythi ôl-gerbydau llawn ledled y DU, a hynny yn aml o fewn amserlenni tynn. Nid ar chwarae bach mae trydaneiddio gweithrediadau o’r fath.
Yn hytrach na bod dim ond yn weithredwr cludo, bellach dyma chi’n dod yn rheolwr ynni. Mae’n rhaid i chi newid yn llwyr eich ffordd o feddwl, eich seilwaith, a’ch gwaith cynllunio llwybrau.
Sut helpodd RCT chi i oresgyn yr heriau hyn?
Rhoddodd RCT ni mewn cysylltiad â’r arbenigwyr cywir ar yr adeg gywir. Bu eu cyngor arbenigol nhw’n anhepgor, boed pan oedd angen mewnbwn strategol arnom ni neu gymorth i wirio ein syniadau ni.
Fe’n helpodd ni i ganolbwyntio ar y darlun mawr a darparu arweiniad sydd wedi cyflymu ein strategaeth carbon isel.
Fe helpon nhw ni i ystyried ein proses o ddatgarboneiddio nid yn unig yn nod moesol, ond hefyd yn fantais fasnachol. Roedd newid ein ffordd o feddwl yn y modd hwn yn help i ni ennill contractau newydd a gosod ein hunain yn arbenigwyr ym maes datgarboneiddio cludiant llwythi.
Soniwch am eich strategaeth lleihau carbon a rhan RCT ynddi.
Mae datgarboneiddio wedi bod yn flaenoriaeth i ni er 2017. Darllenais i erthygl a oedd yn dweud mai Caerdydd oedd un o ddinasoedd gwaethaf y DU am lygredd, yn enwedig ar ffordd rydyn ni’n ei defnyddio yn aml, sydd ger pedair ysgol. Ar y pryd, roedd fy mhlant i’n fach iawn. Ces i dipyn o ysgytwad.
Fe bennon ni darged o fod yn ddi-ddisel erbyn 2025 a chyrraedd y nod flwyddyn yn gynt. Cawsom ni gymorth RCT drwy gydol y broses, yn cynnig arweiniad, ein rhoi ni mewn cysylltiad ag arbenigwyr, a helpu i lunio ein cynnyrch Greenflow.
Datrysiad lleihau carbon yw Greenflow sy’n galluogi ein cwsmeriaid i fesur a lleihau allyriadau ar y ffordd, rheilffyrdd, yn yr awyr, a’r môr. Rydyn ni’n gweithio gyda chleientiaid pwysig sy’n gwerthfawrogi cynaliadwyedd, megis Tesco, Rockwool, a WEPA. Ni hefyd oedd y cyntaf yn y DU i lansio HGV trydan gyda Tesco yn 2022. Rydyn ni wedi profi nad dim ond rhywbeth sy’n dda i’r blaned yw datgarboneiddio, mae hefyd yn dda i fusnes.
Pa gerrig milltir rydych chi fwyaf balch ohonyn nhw?
Roedd mynd yn hollol ddi-ddisel yn gam enfawr. Dyna fu’r nod i ni ers blynyddoedd. Roedd lansio ein HGV trydan cyntaf gyda Tesco hefyd yn ddigwyddiad yr oeddem ni’n falch ohono fe. Ac roedd cael ein rhoi yn safle #1 yn rhestr Motor Transport Decarbonisation Power Players eleni yn gydnabyddiaeth anhygoel o bopeth rydyn ni wedi’i wneud. Roedd y beirniaid yn llygad eu lle: hwn yw un o’r sectorau anoddaf i’w ddatgarboneiddio, ac rydyn ni wedi profi bod modd gwneud.
Beth sydd nesaf i FSEW?
Ar hyn o bryd rydyn ni’n gweithredu fflyd o 45 o dryciau a’r cynllun yw cynyddu hynny’n 100 ymhen dwy flynedd. Rydyn ni newydd dderbyn ein cerbydau Mercedes-Benz eActros 600 cyntaf, ac rydyn ni wedi archebu pedwar o dryciau eraill sy’n golygu bod gennym ni bellach gyfanswm o 10 HGV trydan.
Rydyn ni wedi prynu safle 2.5 erw yng Nghaerdydd i greu un o Hybiau Cludiant Llwythi Carbon Isel cyntaf y DU, wedi’i bweru’n llwyr gan ynni adnewyddadwy. Bydd yn cynnwys ein prif swyddfa newydd a rhwng pedwar ac wyth o wefryddion tryciau. Bydd yn rhoi Cymru ar y map am arwain ym maes logisteg werdd, gan ein helpu ni i dyfu mewn modd cynaliadwy a chreu swyddi newydd.
Dysgwch ragor am y Rhaglen Cyflymu Twf yma.
Dysgwch ragor am FSEW yma.