Mae'r Rhaglen Cyflymu Twf yn creu 2,300+ o swyddi yng Nghymru ers 2015
Mae mwy na 2000 o swyddi wedi'u creu ym mhob rhan o Gymru, diolch i Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru o dan nawdd Llywodraeth Cymru, cyhoeddodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates. Cafodd rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru ei lansio yn 2015 gyda chymorth ariannol Llywodraeth Cymru a'r ERDF, i helpu busnesau uchelgeisiol yng Nghymru i wireddu'u potensial i dyfu. Mae'n cynnig pecyn arbenigol o gymorth i helpu busnesau i dyfu'n gynt a chryfhau ac i...