Mae Bond Digital Health, sy'n datblygu meddalwedd a thechnoleg arall i gefnogi darparwyr iechyd, ymarferwyr a chleifion, wedi derbyn buddsoddiad ecwiti preifat o £200,000 yn ogystal â grant o £68,583 gan Innovate UK. Mae'r buddsoddiad ecwiti o £200,000, o dan gyngor Severn Seed Finance, rhan o gylch cyllido a gynlluniwyd o £1miliwn a caiff ei ddefnyddio i gefnogi twf y busnes, gan gynnwys creu swyddi newydd. Bydd y grant, a ddyfarnwyd fel rhan o gystadleuaeth Meddygaeth Fanwl Innovate UK, yn caniatáu i'r cwmni ddatblygu cynnyrch technolegol chwyldroadol newydd y mae modd ei wisgo i gleifion sydd â chlefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD).
 

Bydd y ddyfais yn helpu cleifion i fonitro eu cyflwr ac yn rhoi data iechyd mwy cywir a chynhwysfawr i'w meddyg. Wedi'i ddisgrifio fel 'stethosgop digidol', bydd y ddyfais yn cael ei gosod ar y claf i gofnodi synau yr ysgyfaint a'r galon. Bydd y rhain yn cael eu hanfon i ffôn clyfar cyn cael eu lanlwytho i system ddadansoddi ganolog ac yna eu storio mewn cronfa ddata gwmwl ddiogel y gall clinigwyr ei chyrraedd 24 awr y dydd.


 

 

Meddai Ian Bond, sylfaenydd Bond Digital Health, sy'n dioddef o glefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint, y gallai'r ddyfais "drawsnewid" y berthynas rhwng y meddyg a'r claf. "Gyda chyflwr cronig fel COPD, mae yn aml ddiffyg gwybodaeth am ddyddiau neu fisoedd rhwng apwyntiadau, sy'n cael ei alw yn 'ofod gwyn', pan fo'n rhaid i'r meddyg ddibynnu ar dystiolaeth anecdotaidd neu, ar y gorau, ddyddiaduron papur nad ydynt yn gywir yn rhoi manylion cyflwr y claf", meddai. "Gan ddysgu drwy beiriannau, gallwn rymuso cleifion COPD i reoli eu cyflwr eu hunain, gwella eu lles a lleihau ymgynghoriadau a derbyniadau."
 

Disgrifiodd aseswyr Innovate Uk y cynnig fel "cysyniad diddorol ac arloesol", a dywedodd bod ganddo "y potensial i wella'r diagnosis i gleifion gyda COPD a chaniatáu inni fonitro eu cyflwr yn well". Mae'r cyllid yn goron ar fisoedd llwyddiannus iawn i Bond Digital Health, a gafodd eu dewis fel un o'r busnesau o Gymru y rhagwelir fydd yn llwyddiannus iawn yn 2018, yn ôl WalesOnline.

 

Ym mis Mai, cafodd y cwmni ei wahodd i arddangos ei blatfform meddalwedd a'i ddatblygiadau ap mewn digwyddiad biotechnoleg rhyngwladol yn Zaragoza, Sbaen. Mae Bond hefyd wedi derbyn £7,500 gan Gomisiwn Bevan, cronfa syniadau annibynnol sy'n cynghori Llywodraeth Cymru ar faterion iechyd, i helpu i ddatblygu ap dyddiadur electronig fydd yn helpu cleifion COPD i reoli eu cyflwr eu hunain.

O dan yr enw myCOPDnurse, bydd y prosiect, cydweithrediad rhwng Bond a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, yn caniatáu i gleifion gofnodi ffactorau megis y defnydd o feddyginiaeth a symptomau tra'n monitro ffactorau amgylcheddol megis ansawdd yr aer, paill a'r tywydd. Bydd hefyd yn cael ei integreiddio gyda dyfais dechnolegol y mae modd ei gwisgo er mwyn gallu monitro cleifion clefyd yr ysgyfaint 24 awr y dydd wedi iddynt adael yr ysbyty.

 

Yn ogystal â'r llwyddiannau diweddar hyn, bu'r cwmni yn creu refeniw drwy gefnogi nifer o gleientiaid mawr yn ystod treialon clinigol i ddatblygu meddalwedd ac ap pwrpasol. Mae'r cwmni yn cael eu mentora a'u cefnogi gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru yn y meysydd canlynol: Grantiau/ Parodrwydd i Fuddsoddi, parodrwydd i recriwtio/cynllunio datblygu arweinyddiaeth, rhagolygon a marchnata ariannol.
 

Dywedodd Mr bond: "Rydym yn hyderus y bydd llwyddiant Iechyd Digidol Bond yn parhau i dyfu dros y misoedd nesaf ac y bydd 2018 yn flwyddyn o ddarganfyddiadau i'r cwmni."

 

 

 

Dysgu mwy am Bond Digital Health

Dysgwch ragor am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru (AGP).

Share this page

Print this page