Bydd dau entrepreneur o Brifysgol Metropolitan Caerdydd yn cael cymorth gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru dan nawdd Llywodraeth Cymru, sy’n cael ei hariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop. Mae’r rhaglen yn cael ei darparu gan y Consortia ar gyfer Rhagori (sy’n cynnwys Winning Pitch ac Impact Innovation) i gynnig cymorth arbenigol pwrpasol i fusnesau sy’n awyddus i ehangu’n gyflymach o lawer a gwireddu’u potensial mawr i dyfu.

 

Yn dilyn cyngor gan Ganolfan Entrepreneuriaeth Prifysgol Metropolitan Caerdydd, cafodd Jenny Evans, myfyrwraig tecstilau, a David Barton, sydd â gradd mewn meddyginiaeth bodiatrig, eu derbyn i’r rhaglen.

 

Mae’r Rhaglen Cyflymu Twf yn rhan o wasanaeth Busnes Cymru, sy’n gangen o Lywodraeth Cymru, ac mae’n darparu cymorth ledled Cymru gyfan ar gyfer entrepreneuriaid, busnesau newydd ac i fusnesau micro, bach a chanolig sydd eisoes yn bodoli, gan gynnwys mentrau cymdeithasol. Mae Busnes Cymru yn ymgysylltu â sefydliadau o bob rhan o’r cylch entrepreneuraidd, o ysgolion cynradd i BBaChau sydd wedi hen ennill eu plwyf.

 

David Barton


 

Sefydlodd David Barton KAYDIAR ddechrau’r flwyddyn. Mae’r cwmni meddygol yn arbenigo’n benodol mewn gwneud dyfeisiadau pwrpasol sy’n dargyfeirio pwysau'r corff oddi ar fannau sensitif. Y cynnyrch cyntaf a wnaed gan y cwmni oedd Cell Orthoses: mewnwadnau modiwlaidd pwrpasol sy’n dargyfeirio’r pwysau sy’n achosi namau ym mhlantar y droed megis briwiau a chaledennau diabetig. Caiff y mecanwaith ei osod mewn amryw ddyfeisiadau i helpu pobl y mae eu briwiau pwysau’n effeithio ar rannau eraill o’r corff, gan gynnwys pobl sy’n defnyddio cadeiriau olwyn a phobl sy’n gaeth i’r gwely.

 

Dywedodd David: “Dw i’n hynod ddiolchgar i Brifysgol Metropolitan Caerdydd am fy helpu i ymgeisio am le ar y Rhaglen Cyflymu Twf a chael patent ar gyfer dyluniad y KAYDIAR. Mae’n gynnyrch unigryw sydd â’r potensial i helpu i wella briwiau ar draed pobl ddiabetig,  gan atal cymhlethdodau pellach a’r angen i dorri rhannau o’r corff i ffwrdd. Mae ganddo’r potensial i arbed miliynau o bunnau i’r GIG bob blwyddyn.”

 

Jenny Evans

Daeth Jenny Evans yn ail yng nghystadleuaeth Entrepreneur - Myfyriwr y Flwyddyn yng  Nghymru y llynedd a hi hefyd enillodd Santander Universities Entrepreneurship Award am sefydlu ei busnes dylunio tecstilau, Jenny Evans Designs − Jenny Kate bellach. Mae’r cwmni creadigol yn dathlu’r byd natur gyda dyluniadau llawn dychymyg  o bersbectif unigryw ac mae’n creu cynhyrchion personol i bobl ledled y byd. Dywedodd Jenny, sy’n edrych ymlaen at lansio ei chasgliad o nwyddau cartref ar ôl graddio eleni: “Dw i wrth fy modd gyda fy nghwrs, ac mae Ysgol Celf a Dylunio Caerdydd wedi bod mor gefnogol drwy gynnig llawer o gymorth un i un i helpu fy musnes i dyfu.  Yn ddiweddar, ymwelais â Borneo fel cynorthwyydd ymchwil i Bennaeth Tecstilau Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Dr Keireine Canavan. Roedd yn brofiad bythgofiadwy. Roedden ni’n byw ochr yn ochr â gwehyddwyr mewn llwythau i ddysgu am hen dechnegau gwehyddu a lliwio. Hefyd, aethon ni i gynhadledd ryngwladol ar decstilau  yn Kuching. A bod yn onest, allwn i byth fod wedi cael y llwyddiant hwn heb gefnogaeth Prifysgol Metropolitan Caerdydd.”

 

Y Ganolfan Entrepreneuriaeth yw adran bwrpasol Prifysgol Fetropolitan Caerdydd ar gyfer cefnogi syniadau busnes myfyrwyr a helpu unigolion i ddod yn entrepreneuraidd a dysgu sgiliau newydd.  Mae’r uned yn cynnal amrywiaeth eang o ddigwyddiadau i fyfyrwyr a graddedigion yn holl adrannau’r brifysgol, o weithdai a digwyddiadau rhwydweithio i gystadlaethau, rhaglenni datblygu sgiliau a chyfleoedd ariannu.

 

Dywedodd Steve Aicheler, cynghorydd Prifysgol Metropolitan Caerdydd ar entrepreneuriaeth: “Mae’r ffaith bod dau o’n myfyrwyr yn cael cymorth drwy Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru yn tystio i’r gwaith datblygu a’r gefnogaeth ragorol y mae’r brifysgol yn eu cynnig. Mae’r Ganolfan Entrepreneuriaeth yn darparu cefnogaeth un i un hanfodol i helpu myfyrwyr a graddedigion ar hyd eu taith i ddechrau a chynnal busnes. Rydym yn dymuno pob lwc i David a Jenny, nid yn unig ar y rhaglen ond hefyd ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol. Byddan nhw’n cyflawni pethau anhygoel yn y dyfodol dw i’n siŵr."

 

Dywedodd Steve Young, Pennath Winning Pitch: “Rydyn ni wrth ein bodd yn cael yr entrepreneuriaid uchelgeisiol ifanc hyn ar y rhaglen ac rydyn ni’n edrych ymlaen at eu helpu. Byddwn yn teilwra pecynnau gwaith penodol o gefnogaeth a fydd yn cael eu targedu at yr heriau pwysig  sy’n eu hwynebu o ran twf.  Fel hyn, gallwn ni eu helpu i dyfu’n gyflymach ac yn gryfach am fwy o amser."


Gwybodaeth bellach am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru. 

Share this page

Print this page