Mae'r Temporary Kitchen Company, sy'n cynhyrchu ceginau ac ystafelloedd ymolchi dros dro, wedi ennill Gwobr y Frenhines am Fenter: Arloesi, sy'n hwb aruthrol i'r cwmni. Mae'r cwmni o Lannau Dyfrdwy yn darparu gwasanaeth gwych drwy gyflenwi llu o geginau ac ystafelloedd ymolchi dros dro unigryw ac arloesol sy'n caniatáu i bobl aros yn eu cartrefi eu hunain ar ôl llifogydd neu dân. Mae'r cwmni hefyd yn gwneud gwaith adnewyddu ac ailwampio.
Yn ogystal â darparu ceginau ac ystafelloedd ymolchi dros dro ar ffurf podiau, mae'r cwmni hefyd yn cynnig ystafell ymolchi arbenigol ar gyfer pobl anabl, sy’n un hawdd ei gosod y tu allan i gartrefi. Mae'r cwmni hefyd wedi cyflwyno Cegin Gapsiwl yn ddiweddar, sy'n un y gellir ei chodi'n gyflym a'i gosod y tu mewn i'r cartref.
Yswirwyr yn bennaf yw prif gleientiaid y cwmni, ond mae'r Temporary Kitchen Company hefyd yn cydweithio â chwmnïau sy'n darparu llety ar gyfer myfyrwyr ac â chymdeithasau tai ym mhob cwr o'r DU.
Mae perchenogion y cwmni, Stephen ac Emma Trollope, sy’n ŵr a gwraig, yn byw yng Nghaer ac maen nhw wedi cael gwahoddiad i dderbyniad ym Mhalas Buckingham yn yr haf.
Mae'r wobr yn un fawr iawn ei bri, oherwydd mai dyma'r wobr swyddogol uchaf y gellir ei dyfarnu i fusnes o Brydain. Wrth siarad am y wobr, dywedodd Stephen: “Mae'n anrhydedd mawr cael cydnabyddiaeth drwy ennill y wobr hon, sy'n un mor fawr ei bri. Mae'r Temporary Kitchen Company yn tarfu ar y farchnad llety amgen, a'r hyn sydd i gyfrif am ein llwyddiant yw'n buddsoddiad parhaus yn ein pobl yn ogystal â'r ffaith ein bod yn mynd ati'n gyson i ddatblygu mwy ar ein cynnyrch.” Dywedodd Emma: “Rydyn ni mor falch o'r hyn y mae pawb sy'n gysylltiedig â'r Temporary Kitchen Company wedi'i gyflawni. Mae mwy a mwy o yswirwyr yn cydnabod y manteision sy'n gysylltiedig â galluogi pobl i aros yn eu cartrefi eu hunain yn hytrach na gorfod symud i westy neu lety rhent.
“Yn ogystal â bod yn ffordd o osgoi effaith anferth ar fywydau pobl, mae hefyd yn fodd i arbed costau. Rydyn ni wedi creu marchnad nad oedd yn bodoli o'r blaen. Mae'n cynhyrchion yn arloesol a hefyd yn rhai sy'n cael eu gwneud i safon uchel, gan helpu i sicrhau bod lefel y boddhad ymhlith ein cwsmeriaid yn uwch na 99%. “Credwn fod yr arbedion posibl i ddiwydiant yswiriant y DU yn unig yn filiynau o bunnoedd.”
Dyfernir Gwobrau'r Frenhines am Fenter i fusnesau yn y DU sydd wedi gwneud yn eithriadol o dda. Mae yna amryfal gategorïau: datblygu cynaliadwy, masnach ryngwladol, arloesi, a hyrwyddo cyfleoedd drwy symudedd cymdeithasol. Dair blynedd yn ôl, aeth y Temporary Kitchen Company i mewn i'r farchnad yswiriant, ac mae wedi llwyddo i sicrhau twf tri ffigur y naill flwyddyn ar ôl y llall ers iddo gael ei ffurfio.
Dysgu mwy am Temporary Kitchen Company
Dysgwch ragor am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru (AGP).