Mae tri busnes sy'n cael help Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi ennill Gwobr Fenter y Frenhines.
One Team Logic - Gwobr Fenter y Frenhines: Arloesi 2018
Quick Link - Gwobr Fenter y Frenhines: Arloesi 2018
Laser Wire - Gwobr Fenter y Frenhines: Allforio 2018
Gwobrau Menter y Frenhines yw'r gwobrau uchaf eu bri i fusnesau yn y DU. Maen nhw'n cydnabod ac yn dathlu llwyddiant busnesau ym mhob rhan o'r DU mewn meysydd fel arloesedd, allforio, datblygu cynaliadwy a hyrwyddo cyfleoedd ar gyfer symud cymdeithasol.
Meddai Martin Baker, QPM, Rheolwr Gyfarwyddwr One Team Logic: "Mae'n anrhydedd anferth inni bod ei Mawrhydi y Frenhines wedi cydnabod gwaith ein tîm cyfan trwy roi Gwobr Fenter y Frenhines i ni. Mae gweld ein gwaith arloesol ym maes diogelu ac amddiffyn plant yn cael ei gydnabod mewn ffordd mor gyhoeddus yn gwneud inni deimlo'n wylaidd iawn ac yn hapus iawn hefyd wrth gwrs. Rydyn ni wedi bod wrthi'n datblygu MyConcern dros y pedair blynedd diwethaf ac mae'r cynnydd rydyn ni wedi'i wneud yn anhygoel. Yn ogystal â gweddnewid y drefn diogelu plant mewn sawl achos, mae'r system wedi'n galluogi i weithio gyda'n cwsmeriaid i roi arweiniad ym maes diogelu plant, agwedd bwysig iawn ar y gwaith.
"O ystyried yr heriau sy'n wynebu ysgolion a cholegau, rydyn ni'n credu bod angen i bob asiantaeth gyhoeddus ddiogelu plant o ddechrau'u cyfnod o dan ei gofal tan yr amser gadael. Mae'r ffaeleddau trychinebus a fu yn y trefniadau amddiffyn plant yn dangos yn glir mai hwn yw'r newid pwysicaf y gallwn ei wneud yn ein trefniadau cenedlaethol ar gyfer diogelu ac amddiffyn plant. Mae'n hanfodol ein bod yn dod ag elfennau ynghyd sydd ar hyn o bryd ar wahân - er enghraifft gwneud yn siŵr bod e-ddiogelwch wedi'i integreiddio â'r modd y rheolir agweddau eraill ar ddiogelu plant. Bydd hynny'n bwysig i nodi'r peryglon posib."
Rydyn ni wedi bod yn cael help gan hyfforddwyr Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru ar gyfer PR a strategaeth, a'i help tactegol i ehangu'r busnes.
Mae Quicklink Video Distribution Services yn falch iawn o gael cyhoeddi eu bod wedi ennill Gwobr Fenter y Frenhines, yn y categori Arloesi am ei Quicklink TX. Y wobr yw'r wobr uchaf ei bri i fusnesau'r DU ac mae'n cydnabod llwyddiant busnes. Mae'r gwobrau'n cael eu dyfarnu bob blwyddyn gan ei Mawrhydi y Frenhines a dim ond y rheini sy'n cynnal y safonau uchaf o ragoriaeth yn y categorïau gwahanol sy'n deilwng. Mae safonau'r beirniaid yn llym iawn ac mae'r enillwyr yn cael nifer o fuddion a chydnabyddiaeth ryngwladol.
Fel busnes sy'n cynhyrchu caledwedd a meddalwedd ar gyfer gwneud a golygu fideos byw, mae arloesedd ac ansawdd yn greiddiol i waith Quicklink. Mae ei ddarlledwyr a'i gwsmeriaid yn chwilio am atebion y gallan nhw ddibynnu arnyn nhw i allu darparu cyfraniadau a darllediadau byw o'r ansawdd uchaf. Dywedodd Richard Rees, Pennaeth a sylfaenydd Quicklink: "Braint anferth inni yw cael ennill Gwobr Fenter y Frenhines am Arloesedd ac rydyn ni'n hynod o falch bod y manteision y mae'r Quicklink TX yn eu cynnig i ddarlledwyr a chwsmeriaid yn cael eu cydnabod. Yn y byd sydd ohoni lle nad oes byth digon o ddeunydd, mae angen inni allu codi cyfraniadau o ba le bynnag a phryd bynnag y maen nhw'n cael eu gwneud er mwyn i newyddion, safbwyntiau a digwyddiadau allu cael eu darlledu'n fyw. Mae datblygu atebion sy'n defnyddio'r technolegau mwyaf blaengar ond sydd hefyd yn canolbwyntio ar ansawdd a dibynadwyedd, yn golygu y gall ein cwsmeriaid ddibynnu ar Quicklink bob tro. Bydd y wobr hon yn cryfhau ein henw da ac yn ategu profiadau ein cwsmeriaid o'n cynnyrch darlledu arloesol o safon uchel."
Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi, Llywodraeth Cymru: "Nid ar chwarae bach y mae ennill Gwobr Fenter y Frenhines ac rwy'n hynod falch bod Quicklink o Abertawe wedi cael cydnabyddiaeth am yr atebion arloesol rhagorol y mae'n eu cynnig i gwsmeriaid ledled y byd. Mae'r wobr yn dangos bod cwmnïau o Gymru'n gallu cystadlu ar lwyfan y byd trwy ehangu a thyfu.
"Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio'n glos â Quicklink ers 2014, i'w helpu i allforio ac i ddatblygu'i ganolfan dylunio a chynhyrchu yng Nghymru. Dyma un o'r ffyrdd niferus a ddefnyddiwn i amlygu enw a chynyddu'r defnydd o dechnoleg arloesol Gymreig yma yng Nghymru a ledled y byd.
Mae Carmel Gahan, un o hyfforddwyr y Rhaglen Cyflymu Twf wedi bod yn gweithio gyda Quicklink i ddatblygu'i strategaeth PR a'i sgiliau gwerthu dros y ffôn.
Mae Laser Wire Solutions, cwmni technoleg arloesol sy'n anelu at sicrhau £10m o drosiant, wedi cael clod brenhinol trwy ennill Gwobr Fenter aruchel y Frenhines am ei berfformiad rhagorol ar y llwyfan rhyngwladol.
Mae cwmni Laser Wire Solutions o Drefforest yn dylunio ac yn adeiladu offer laser sy'n tynnu'r inswleiddiad oddi ar wifrau a cheblau, waeth beth yw eu maint a'u cymhlethdod. Wrth gynnig atebion arloesol sy'n arbed amser ac arian yn ogystal ag yn gwella ansawdd y cynnyrch, gall ei gwsmeriaid yn y marchnadoedd meddygol, modurol, TG, amddiffyn ac awyrofod greu cynnyrch mwy soffistigedig sy'n achub bywydau, yn gwella dulliau cludiant a chyfathrebu yn ogystal â gwella'r amgylchedd. Mae'r dechnoleg yn cael ei defnyddio yn arbennig i gynhyrchu dyfeisiau meddygol blaengar ar gyfer trin cyflyrau fel canser, clefyd y galon ac epilepsi. Mae'r cathetrau hyn a ddefnyddir mewn llawdriniaeth twll clo wedi'u gwneud o wifrau bychan tebyg i flew i drosglwyddo signalau trydanol. Mae offer Laser Wire Solutions yn cael eu defnyddio gan gynhyrchwyr y dyfeisiau i dynnu haenau oddi ar y gwifrau hyn yn ystod y broses gweithgynhyrchu.
Diolch i'w lwyddiant rhyngwladol, mae'r cwmni wedi dyblu ei staff i 28 a threblu ei drosiant i £5.1m yn y cwta 12 mis diwetha - cynnydd trawiadol sy'n golygu mai Laser Wire Solutions yw'r cwmni gweithgynhyrchu sy'n tyfu bumed gyflymaf yn Ewrop yn ôl rhestr yr FT1000 o gwmnïau sy'n tyfu gyflymaf.
Mae Gwobrau Menter y Frenhines yn wobrau uchel iawn eu bri sy'n cael eu rhoi i fusnesau yn y DU sydd wedi cael llwyddiant arbennig yng nghategorïau arloesi, allforio a datblygu cynaliadwy. Mae'r gwobrau'n cael eu dyfarnu bob blwyddyn gan ei Mawrhydi y Frenhines a dim ond y rheini sy'n cynnal y safonau uchaf o ragoriaeth yn un o'r categorïau sy'n deilwng. Mae Laser Wire Solutions wedi ennill y wobr ar ôl cyfnod o dwf ac enillion tramor eithriadol. Allforion sy'n cyfrif am 99% o'i werthiant.
Dywedodd Paul Taylor, Pennaeth a sylfaenydd Laser Wire Solutions: "Mae ennill Gwobr y Frenhines am Fasnach Ryngwladol yn gydnabyddiaeth ffantastig o waith caled ac arloesedd ein tîm. Bu'r ddwy flynedd ddiwethaf yn dyngedfennol o ran gwerthiant a thwf ac rydyn ni'n gobeithio y gwnaiff y twf hwnnw barhau. Mae'n anodd credu prin dair blynedd yn ôl mai band dau ddyn oedd y busnes, yn cael ei redeg o garej o dan reilffordd ym Merthyr Tudful. Rydyn ni'n falch iawn o gael codi'r ddraig goch yng ngwledydd y byd ac mae'r wobr hon yn rhoi'r hygrededd inni allu ehangu'n busnes i ragor o gwsmeriaid tramor. Ein nod yw sicrhau £10m o drosiant yn y ddwy flynedd nesaf trwy allforio."
Ers ei sefydlu yn 2011, mae Banc Datblygu Cymru a Llywodraeth Cymru (gyda chymorth Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru, yn arbennig ym maes recriwtio, datblygu trefniadaeth, cynnal prosesau a marchnata digidol) wedi buddsoddi yn Laser Wire Solutions, gan helpu i godi'r busnes ar ei draed a'i helpu i barhau i dyfu. Ar ôl cyfnod datblygu byr, dechreuodd y cwmni ennill ei blwyf fel partner arloesol i fusnesau adnabyddus sy'n gweithgynhyrchu dyfeisiau meddygol o'r radd flaenaf. Yn ogystal â'i farchnad feddygol graidd, mae'n ehangu i allu delio â systemau gwifrau mewn systemau cwmwl, cerbydau trydan a chwilio'r gofod.
Ar ôl blwyddyn lwyddiannus iawn, mae'r cwmni'n chwilio nawr am gyfleoedd newydd i gynnig ei dechnoleg. Dywedodd Paul: "Mae'n wych cael gweithio gyda thîm mor dda i greu stori o lwyddiant i'r DU. Rydyn ni'n disgwyl ymlaen at weld beth ddaw yn y blynyddoedd nesaf."
Dysgwch ragor am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru (AGP).