Gweler isod grynodeb o fusnesau sydd wedi cael cymorth o dan y Rhaglen Cyflymu Twf.
Mae dwsinau o fusnesau arloesol wedi cael cymorth gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru i ddarparu platfform ar gyfer twf. Y cwmni diweddaraf sydd wedi defnyddio arbenigedd Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru sy'n ymddangos yn ein cyfres o flogiau yw Bison Security (Wales). Sefydlwyd y cwmni gan y ffermwr Gareth Davies a'r peiriannwr Phil Corke, gan gyfuno eu sgiliau fel dyfeisiwr ac arweinydd busnes er mwyn bod yn llwyddiannus. Yma mae Gareth Davies a Phil...
Cwmni caffael arbenigol yn helpu grwpiau ffydd
Rydym yn parhau ein cyfres o flogiau ar y busnesau yr ydym wedi helpu eu datblygu a'u tyfu gan edrych ar 2buy2.com - cwmni caffael ym Mhencoed, Pen-y-bont ar Ogwr - a'i fenter newydd o'r enw Church Buying. Wedi'i sefydlu saith mlynedd yn ôl, mae 2buy2.com yn cyflogi tua 40 o bobl a lansiodd Church Buying i helpu eglwysi ac eraill i leihau'r amser a gaiff ei dreulio a'r arian a gaiff ei wario ar...
Cyrchfan beicio mynydd yn cyrraedd y brig
Mae'r sector hamdden a thwristiaeth yn dod yn rhan mwy a mwy allweddol o economi Cymru. Mae'r cwmni anturiaethau beicio mynydd, OnePlanet Adventure, wedi penderfynu manteisio ar hyn ac mae ei sylfaenwyr brwd sef Jim Gaffney ac Ian Owen yn gweithio'n ddi-flino i sicrhau ei bod yn gyrchfan heb ei hail ar gyfer beicwyr brwd yng Nghymru. Yn ein cyfres ddiweddaraf o flogiau mae Jim Gaffney yn adrodd hanes OnePlanet Adventure, cynlluniau'r cwmni ar gyfer...
Cwmni cludiant yn trafod sut wnaeth y Rhaglen Cyflymu Twf helpu iddynt ddatblygu
Cadw’r economi i fynd yw’r sbardun y tu ôl i’r cwmni nesaf yn ein cyfres o flogiau. Mae FSEW yn gwmni logisteg a threfnu cludiant rhyngwladol sydd wedi’u lleoli yn Gwynllŵg, Caerdydd ac yn Northampton. Ar hyn o bryd yn cyflogi oddeutu 80 o bobl, mae’r cwmni’n darparu gwasanaethau trafnidiaeth i gleientiaid yn y DU, Ewrop a ledled y byd. Yma, mae sylfaenydd FSEW, Geoff Tomlinson yn adrodd stori’r cwmni ac yn rhoi rhywfaint o...
Sut y mae Rescape Innovation yn datblygu technoleg i helpu cleifion sydd angen cymorth
Yn y diweddaraf o’n cyfres blog newydd, rydym yn siarad gyda busnes arall yr ydym wedi cydweithio â hwy i ddod i wybod mwy am eu taith, eu huchelgeisiau a’u cynghorion am lwyddiant ym myd busnes. Mae Rescape Innovation yn datblygu profiadau technoleg trochi i’w defnyddio yn y sector gofal iechyd – mae’r profiadau hyn yn cynnwys therapi tynnu sylw, therapi ymlacio ac ymarferion anadlu. Yma, mae’r cyfarwyddwr Glen Hapgood yn rhannu ei brofiadau am...
Cwmni newydd sy'n ymdrin â harneisiau gwifrau yn edrych ymlaen at dwf ar ôl blwyddyn gyntaf hynod o brysur
Mae ein blog sy'n sgwrsio â busnesau sydd wedi cael help a chymorth gennym yn parhau, gan edrych ar Pinnacle Harnesses o Wrecsam y tro hwn. Sefydlwyd y cwmni gan Phill Harry, ar ôl 33 mlynedd a mwy yn gweithio mewn gwahanol swyddi yn y diwydiant electroneg lle mae nwyddau’n symud yn sydyn – gan gynnwys ym maes peirianneg a phrynu. Penderfynodd Phill fentro ar ei ben ei hun a daeth Pinnacle Harnesses Ltd i...
Gwneuthurwr system danwydd sy'n newid y sector
Mae ein blog sy'n edrych ar y cwmnïau y mae Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi’u helpu yn parhau gyda FuelActive – gwneuthurwr system danwydd arloesol o Ffynnon Taf. Mae FuelActive wedi datblygu ffordd o drosglwyddo tanwydd sy'n cael gwared ar broblemau sy'n deillio o ddiesel halogedig. Mae’r uned FuelActive, sydd â phatent arni, yn disodli’r bibell safonol sy'n codi’r tanwydd, gan wneud yn siŵr mai dim ond y tanwydd glanaf yn y tanc sy'n...
Cwmni peirianyddol llwyddiannus sy'n datblygu'n gyflym yn rhannu yr hyn sy'n allweddol i'w twf hyd yma
Yn ein cyfres blog ddiweddaraf, rydym yn siarad gydag un o'r busnesau rydym yn gweithio â hwy i ddysgu mwy am eu taith, eu huchelgeisiau a’u hawgrymiadau ar gyfer llwyddiant eu busnes. Evabuild sydd o dan y chwyddwydr. Bu Nick Evans, sylfaenydd y busnes a'r rheolwr gyfarwyddwr, yn gweithio fel peiriannydd sifil cyn sefydlu EvaBuild. Mae'r cwmni, a sylfaenwyd yn 2011, yn arbenigwr mewn peirianneg sifil, adeiladu a gwaith ar y tir ac mae'n darparu...
AGP yn y newyddion wrth iddi greu ei 6000fed swydd.
Mae Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru – sy’n cynnig cymorth wedi’i deilwra i fusnesau bach a chanolig sydd am ehangu – wedi creu ei 6000fed swydd. Darllenwch fwy ar Commercial News Media.... Am ragor o wybodaeth am PillTime, cliciwch yma. Rhagor o wybodaeth ar Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.
Dyfyniadau cadarnhaol gan Bond Digital Health, un o gleientiaid Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru
Mae Ian Bond, cyd-sylfaenydd Bond Digital Health – cwmni technoleg iechyd yng Nghaerdydd, Cymru sy'n prysur dyfu – yn disgrifio ei brofiadau o gymryd rhan yn Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru: "Mae gweithio gyda'r Rhaglen Cyflymu Twf wedi bod o gymorth amhrisiadwy wrth inni sefydlu ein cwmni. "Pan fyddwch chi’n Brif Swyddog Gweithredol cwmni bach newydd, mae angen rhywun i ddweud wrthoch chi eich bod yn anghywir, gan na fydd neb arall yn gwneud hynny...