Gweler isod grynodeb o fusnesau sydd wedi cael cymorth o dan y Rhaglen Cyflymu Twf.
Wedi’i sefydlu gan TJ Amas o Nigeria, mae QuoteOnSite yn darparu cyfres unigryw o feddalwedd rheoli dyfynbrisiau yn y cwmwl. Mae’n caniatáu i reolwyr-berchnogion busnesau ddatblygu a chynnig dyfynbrisiau proffesiynol er mwyn tyfu eu busnes. I fusnesau bach a chanolig, a busnesau mwy, mae’r feddalwedd yn ei gwneud hi’n bosib rheoli timau sy’n rhan o’r broses gosod pris. Er ei bod yn ddyddiau cynnar ar y busnes o hyd, mae wedi denu amrywiaeth o gleientiaid...
Trosiant o fwy na £3 miliwn gan gwmni diogelwch, a’i fryd ar ragor o dwf
Sicrhau bod busnesau eraill, a phobl, yn parhau'n ddiogel sydd wrth wraidd yr hyn y mae Parallel Security o Wrecsam yn ei wneud. Mae'r cwmni, a sefydlwyd gan y rheolwr gyfarwyddwr Francis Johnson yn 2014, wedi tyfu cryn dipyn ers iddo ddechau rhyw chwe blynedd yn ôl. Â’i gynllun uchelgeisiol i ehangu hyd yn oed yn fwy, mae'r busnes yn mwynhau cyfnod cyffrous. O ddarparu goruchwylwyr wrth y drws i waith diogelwch a glanhau masnachol...
Hanes cwmni dŵr mwynol o Gymru sydd bellach yn un o frandiau mwyaf poblogaidd y DU.
O ddechrau di-nod ar fferm deulu i fod yn un o frandiau dŵr mwynol mwyaf poblogaidd y DU – mae hanes Radnor Hills yn un cyffrous, a stori o lwyddiant i Gymru sy’n destun balchder. Mae’r busnes wedi sicrhau ei fod mewn sefyllfa i fanteisio ar y twf yn y sector diodydd ysgafn, ac wedi ennill llawer o gontractau uchel eu proffil ar y ffordd. Yma mae Penny Butler o Radnor Hills yn egluro sut...
Y partneriaid busnes – staff yn troi’n berchenogion ar ôl prynu’r cwmni
Mae entrepreneuriaeth yn fwy na jest dechrau busnes newydd. Weithiau, mae’n golygu cymryd awenau’r cwmni rydych eisoes yn gweithio ynddo a mynd ag e’ ar daith newydd. Un ffordd o ddefnyddio sgiliau ac arbenigeddau cwmni er mwyn gwireddu ei botensial yw trwy i’r gweithwyr eu hunain brynu’r cwmni. I Vikki Byrne a Lydia Owen, rheolwyr a brynodd OSP Healthcare, roedd hyn yn her a hanner. Dyma hanes OSP Healthcare gan y partneriaid busnes, gydag esboniad...
Saith o gleientiaid y Rhaglen Cyflymu Twf yn cipio Gwobrau Busnesau Newydd Cymru
Cafodd y cwmnïau newydd gorau yng Nghymru eu hanrhydeddu mewn seremoni wobrwyo rithwir ddydd Iau 1 Hydref 2020, ac aeth y prif deitl i Project Blu, brand cynaliadwy ar gyfer anifeiliaid anwes. Mae Project Blu o Gaerdydd yn chwyldroi'r farchnad ategolion anifeiliaid anwes drwy drawsnewid deunyddiau sy’n llygru, gan gynnwys rhwydi pysgota, plastig sy’n mynd i’r môr, gwastraff lledr a dillad wedi'u hailgylchu, yn gynhyrchion anifeiliaid anwes fel gwelyau i gŵn, coleri, tenynnau a theganau...
Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru yn hybu llwyddiant cwmni argraffu
Mae cynllunio twf ar gyfer busnes yn hollbwysig, ac mae cwmni argraffu o Gaerffili wedi cyflawni hyn drwy gaffael doeth. Gyda chymorth ac arbenigedd Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru, mae CPS wedi dod yn gwmni llwyddiannus sy’n datblygu. Dechreuodd hyn i gyd oherwydd bod angen i’r sylfaenydd Simon Green sicrhau cadwyni cyflenwi diogel ar gyfer ei gleientiaid. Yma, mae Laura James o CPS, yn dweud sut y bu i Simon Green feithrin ac ehangu ei...
Y busnesau yng Nghymru sydd ar flaen y gad yn y frwydr yn erbyn COVID-19
Mae llawer o bethau o fewn y gwasanaeth iechyd rydym yn eu cymryd yn ganiataol, heb feddwl fawr ddim am yr holl gyfarpar sy’n cael ei ddefnyddio at sawl diben gan y meddygon. Un o’r offerynnau pwysig yn yr ymdrech yn erbyn COVID-19 yw’r fisgomedr clinigol. Er efallai nad ydych wedi clywed amdano, mae fisgomedr clinigol yn mesur pa mor ludiog yw hylifau’r corff, a rhannau o’r gwaed yn benodol megis plasma, serwm a gwaed...
Y busnes sy’n paratoi cwmnïau ar gyfer y chwyldro deallusrwydd artiffisial
Mae awtomatiaeth yn rhywbeth sy’n fwyfwy amlwg yn yr economi fodern, a bydd hyd yn oed yn fwy pwysig dros y misoedd a’r blynyddoedd sydd i ddod. Bydd busnesau sydd ar flaen y gad ac ym merw’r chwyldro awtomeiddio yn hollbwysig i ffyniant Cymru yn y dyfodol. Mae Nightingale HQ yn un o’r cwmnïau hynny. Mae’r cwmni’n defnyddio’i arbenigedd i helpu eraill i addasu i fyd newydd cyffrous awtomeiddio, nad yw’n ddim i’w ofni, yn...
Cwmni gwasanaethau ariannol yn mwynhau twf cyflym gyda help Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.
Mae llif o gyllid yn hanfodol i sicrhau economi sy’n gweithio, lle y mae modd buddsoddi a dod i gytundebau. I fenthyg a benthyca, a chael mynediad i gronfeydd mae angen llawer iawn o wybodaeth a phrofiad. Sefydlwyd Pure Commercial Finance gan y bancer proffesiynol Ben Lloyd. Ei weledigaeth oedd sefydlu busnes a allai gael mynediad i gyllid a ganfyddir yn “rhy anodd” i fenthycwyr prif ffrwd. Mae eisoes wedi bod yn stori lwyddiant fawr...
Y cwmni cynnyrch llaeth Totally Welsh yn trafod ehangu a llwyddiant yn ystod yr argyfwng COVID-19.
Mae gan Gymru gynnyrch fferm rhagorol, sy’n enwog ledled y byd am ei safon. Mae cynnyrch llaeth yn elfen hanfodol o dirwedd amaethyddol Cymru. Un cwmni sydd mewn sefyllfa dda i fanteisio ar hynny, gan gynnig cynnyrch llaeth i amrywiol gwsmeriaid, yw Totally Welsh. Dyma gwmni Mark Hunter, sefydlodd ei fusnes yn 1990, ac mae’r brand wedi ei adeiladu ar safon eu cynnyrch a safon eu gwasanaeth. Yma mae John Horsman, o Totally Welsh, yn...