Sicrhau bod busnesau eraill, a phobl, yn parhau'n ddiogel sydd wrth wraidd yr hyn y mae Parallel Security o Wrecsam yn ei wneud. Mae'r cwmni, a sefydlwyd gan y rheolwr gyfarwyddwr Francis Johnson yn 2014, wedi tyfu cryn dipyn ers iddo ddechau rhyw chwe blynedd yn ôl. Â’i gynllun uchelgeisiol i ehangu hyd yn oed yn fwy, mae'r busnes yn mwynhau cyfnod cyffrous.
O ddarparu goruchwylwyr wrth y drws i waith diogelwch a glanhau masnachol ar gyfer digwyddiadau, mae Parallel Security wedi prysur dyfu’n frand dibynadwy. Mae Francis Johnson yn mynd ati isod i adrodd ei hanes ac i ddatgelu'r uchafbwyntiau a’r isafbwyntiau wrth arwain y cwmni ers iddo gael ei sefydlu. Mae hefyd yn esbonio sut mae bod yn rhan o Raglen Cyflymu twf Busnes Cymru wedi helpu ei fusnes.
Mae Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru yn cynnig cymorth wedi'i dargedu i gwmnïau uchelgeisiol sydd wrthi’n tyfu. Ariennir y rhaglen yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.
Rhowch ychydig o hanes Parallel Security inni
Mae’n hymdeimlad o le yn ganolog i'r busnes, i’w gymeriad ac i sut mae'n gweithio. Mae hefyd yn hanfodol i'n stori. Rydym yn falch ein bod yn dod o Wrecsam, yn falch bod ein pencadlys yn Wrecsam ac yn falch ein bod yn darparu swyddi a chyfleoedd i bobl yn yr ardal hon. Rwyf wedi graddio o Brifysgol Glyndŵr – mae gennyf gymwysterau BA, MBA a TAR oddi yno. Felly, mae’n lleoliad yn ganolog i bwy rydyn ni. Mae hynny'n bwysig imi, ac mae wedi bod yn allweddol i ddatblygiad y cwmni.
Mae Arwain Parallel wedi bod yn aruthrol o heriol ond yn brofiad sydd wedi rhoi cryn foddhad imi hefyd. Erbyn hyn, mae gennym staff ym mhob cwr o’r wlad, o Glasgow i Lundain, ond rydym yn canolbwyntio'n bennaf ar Ogledd-ddwyrain Cymru. Gan fod Covid wedi effeithio ar y digwyddiadau yr ydym yn arfer darparu gwasanaethau ar eu cyfer, bu'n rhaid inni ailystyried sut i wthio'r busnes yn ei flaen.
Rydym wedi dod yn bell mewn cyfnod byr, ar ôl dechrau'n bennaf fel cwmni diogelwch wrth y drws. Yn ogystal â gweithio mewn rhai o ddigwyddiadau mwyaf Prydain, mae gennym hefyd gontractau gyda nifer o ysbytai, ac rydym yn darparu ymateb symudol, gwasanaethau diogelu safleoedd a diogelwch corfforaethol i rai o'r sefydliadau mwyaf yn y wlad. Mae gennym hefyd gangen lanhau fasnachol sy'n elfen bwysig arall o'r busnes. Felly mae gennym lawer o heyrn yn y tân!
Mae'n golygu ein bod yn fusnes amrywiol ond rydym hefyd yn canolbwyntio ar yr hyn rydym yn ei wneud ac ar ddarparu gwasanaeth o'r ansawdd gorau i'n cleientiaid. Mae'r ffocws hwnnw wedi helpu i sicrhau twf eithriadol, ac rwy'n falch iawn o'r hyn rydym wedi'i gyflawni fel tîm.
Rydym wedi mynd o drosiant o £69,000 yn ein blwyddyn gyntaf (2014) i drosiant a fydd, yn ôl pob tebyg, yn £3 miliwn yn 2020. Rydym yn enghraifft o lwyddiant mawr i Wrecsam ac i Gymru.
Pa bethau yr ydych yn fwyaf balch ohonynt mewn busnes hyd yma?
Rwyf wedi tynnu sylw at ein twf oherwydd bod hwnnw’n rhywbeth rwy’n falch iawn ohono. Rwy’n gwybod erioed fod gan y busnes gryn botensial, ond roedd cyrraedd trosiant o £1 filiwn yn brawf o hynny. Mae’n tîm wedi tyfu, ac rydym yn mynd i dyfu mwy − mae hynny’n rhywbeth rwy’n ymfalchïo ynddo bob dydd.
Pe byddech yn dechrau eto, beth fyddech chi'n ei wneud yn wahanol?
Rydych chi'n dysgu digon o wersi wrth ichi fynd ati i ddechrau busnes. Byddwn i’n tybio bod hynny yr un mor wir i entrepreneuriaid sydd wedi bod wrthi’n arwain cwmnïau ers degawdau. Mae dysgu’n rhan annatod o'r broses. Y wers fwyaf imi oedd cynnwys y bobl iawn sydd â'r sgiliau a'r meddylfryd cywir. Peth arall rwy'n meddwl y byddwn i'n ei wneud yn wahanol yw gweithio mwy gyda chwmnïau yng Nghymru, gan adeiladu’n heconomi leol drwy weithio gyda chwmnïau deinamig ac uchelgeisiol eraill.
Sut mae cymorth oddi wrth Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi helpu’ch busnes?
Mae twf Parallel Security wedi cael ei sbarduno i gryn raddau gan yr arbenigedd a'r hyfforddiant a ddarparwyd gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru. Mae wedi bod yn brofiad mor werthfawr inni, ac mae'r mentora a'r gefnogaeth a gawsom oddi wrth ein Rheolwr Perthynas, Idris Price, wedi’n rhoi mewn sefyllfa dda wrth inni roi ein bryd ar ehangu hyd yn oed yn fwy.
Pa gyngor ac arweiniad fyddech chi'n eu rhoi i fusnesau newydd eraill?
● Mae angen ichi fod yn agored i bethau newydd. Peidiwch â bod ofn y newydd na'r heriol.
● Deall nad oes unrhyw 'focsys' ym myd busnes − mae angen ichi feddwl mewn ffordd greadigol a gwreiddiol. Bydd arloesedd yn talu ar ei ganfed.
Dysgu mwy am Parallel Security.
Dysgwch ragor am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru (AGP).