Gweler isod grynodeb o fusnesau sydd wedi cael cymorth o dan y Rhaglen Cyflymu Twf.
Mae gan yr entrepreneur Richard Lee syniad mawr, ac mae'n benderfynol o’i droi'n fenter ar-lein lwyddiannus. Mae Richard wedi sefydlu Venyu, llwyfan archebu ar-lein sy'n anelu at fod y brif frand yn ei sector – gan symleiddio'r broses i bobl chwilio, archebu a chynllunio digwyddiadau. Mae Venyu wedi cael cymorth drwy Raglen Cyflymu Twf (AGP) Busnes Cymru. Mae AGP yn darparu cymorth wedi'i dargedu ar gyfer cwmnïau uchelgeisiol sydd am dyfu. Ariennir y rhaglen yn...
Yr entrepreneur chwaraeon sy'n trawsnewid hyfforddiant golff i chwaraewyr ar bob lefel ledled y byd.
Heb os golff yw un o'r chwaraeon mwyaf heriol yn y byd, gan estyn y gallu i ganolbwyntio a sgili i'r eithaf Mae'r awydd i lwyddo a gwella yn ysgogydd cyson i lawer o golffwyr, boed yn chwaraewyr proffesiynol ar binacl eu gêm neu amaturiaid yn eu clybiau lleol. Mae sylfaenydd Dr Golf, Zach Gould, wedi’i leoli ym Mhenarth, a chymaint roedd yn uniaethu ag awydd pobl i wella eu gêm ac i wella eu...
Freight Systems Express Wales (FSEW) yn gosod archeb gyntaf y DU ar gyfer unedau tractor trydan
Mae’r blaenyrwyr llwythi o Gaerdydd, Freight Systems Express Wales (FSEW), wedi gosod archeb gyntaf y DU ar gyfer unedau tractor trydan trwm, fel rhan o ymrwymiad y cwmni i leihau ei allyriadau carbon 50% o fewn blwyddyn. Mae FSEW yn gwmni logisteg a blaenyrru llwythi rhyngwladol a leolir ar safle Freightliner yng Ngwynllŵg, Caerdydd. Ar hyn o bryd mae’r cwmni yn cyflogi tua 76 o bobl, ac yn darparu gwasanaethau cludo llwythi i gleientiaid yn...
Y distyllwyr llwyddiannus Andy a Rhys Mallows yn lansio’r bourbon cyntaf erioed o Gymru yn eu distyllfa newydd gwerth £5M yn Llantrisant.
Mae’r distyllwyr, Andy a Rhys Mallows, yn agor distyllfa newydd fodern gwerth £5M yn Llantrisant. Y tîm tad a mab yw cyd-berchenogion cwmni Mallows Bottling sydd wedi ennill gwobrau yn y gorffennol ac sydd ar fin lansio’r bourbon cyntaf erioed o Gymru ynghyd ag ystod o wirodydd artisan premiwm eraill. Bydd y ddistyllfa bwrpasol 30,000 troedfedd sgwâr yn gwneud gwaith botelu ar gontract i frandiau rhyngwladol yn ogystal â chynhyrchu gwirodydd Mallows eu hunain. Mae’r...
Y busnes blaenllaw sy’n gweithgynhyrchu cacennau, La Crème Patisserie, yn mwynhau blas llwyddiant wrth lansio ei siop fanwerthu gyntaf
Mae La Crème Patisserie, busnes gweithgynhyrchu a gwerthu cacennau o safon uwch, wedi mynd yn groes i duedd y pandemig drwy agor ei siop fanwerthu bwrpasol gyntaf erioed. Mae'r busnes teuluol, sydd â chyfleusterau gweithgynhyrchu yng Nghastell-nedd a Chwmbrân, wedi arwyddo prydles 10 mlynedd ar safle 1200 o droedfeddi sgwâr yn 24-26 Stryd Fawr Llandaf yng Nghaerdydd. Bydd y siop yn galluogi cwsmeriaid i brynu ystod eang o gacennau, pwdinau a danteithion o’r radd flaenaf...
Sut mae un busnes teuluol yn anelu at ddod yn frand beicio modur eiconig yng Nghymru unwaith eto.
Mae beic modur Wardill 4 wedi'i saernïo'n hyfryd gan beirianwyr medrus ac mae’n addo cynnig rhywbeth gwirioneddol wahanol – a Chymreig - i feicwyr modur brwd pan fydd yn mynd ar werth. Mae Wardill Motorcycles yn fusnes teuluol sydd wedi'i leoli ym Mhontypridd. Mae Mark Wardill, gor-ŵyr sylfaenydd y cwmni, Henry Wardill, yn brysur yn adfywio cwmni ag iddo hanes llwyddiannus. Ac mae ganddo ddigon o gynlluniau cyffrous ar gyfer y dyfodol. Mae Wardholl Motorcycles...
Cwmni atebion busnes am ehangu’n fyd-eang ar ôl sicrhau buddsoddiad.
I entrepreneuriaid, gall manteisio ar arbenigedd busnes penodol fod yn amhrisiadwy pan fydd ganddyn nhw fusnes sy’n tyfu ac yn datblygu. Mae Business Butler yn blatfform ar gyfer talent ar alw yng Nghymru, ac maent yn helpu'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau busnes i wneud hynny drwy eu rhoi mewn cysylltiad â phanel o arbenigwyr busnes – sydd wedi cael eu fetio – drwy eu porth ar-lein. Mae'n wasanaeth hanfodol mewn byd lle mae rhwydweithio wyneb...
Y cwmni technoleg addysgol sy'n arwain y sector – ac sy'n parhau i dyfu.
Mae'r ffordd y cyflwynir dysgu yn esblygu'n gyson. Mae'r esblygiad hwn wedi cyflymu yn y degawdau diwethaf ochr yn ochr â datblygiadau technolegol, sydd wedi arwain at bosibiliadau niferus o ran datblygu adnoddau addysgol. Mae'r cwmni technoleg addysgol CDSM Interactive Solutions o Abertawe wedi bod yn flaenllaw iawn o ran y newid hwnnw, gan gefnogi busnes a'r llywodraeth i ddarparu addysgu a dysgu digidol i ystod eang o ddefnyddwyr. Mae CDSM Interactive Solutions wedi cael...
Hanes cwmni cyfreithwyr sy’n dilyn model dyngarol unigryw
A oes modd i gwmni cyfreithwyr weithio fel busnes cwbl ddyngarol? Mae cwmni AltraLaw o Gaerffili yn brawf bod model chwyldroadol o’r fath yn bosib, ac y gall fod yn sbardun i dyfu. Mae cymwynasgarwch yn rhan cwbl annatod o’r cwmni cyfreithwyr hwn. Cafodd ei sefydlu gan Nathan Vidini ac mae’n wahanol iawn i gwmnïau traddodiadol. Ac mae stori Nathan yn profi mor llwyddiannus y gall cwmni cyfreithwyr di-elw fod. Cafodd AltraLaw o Gaerffili help...
Sut mae un cwmni o Gymru yn helpu pobl i godi yn ôl ar eu traed ar ôl difrod i’w cartrefi
Mae’r gwaith adfer wedi’r difrod a achoswyd gan ddigwyddiadau fel llifogydd neu dân yn rhywbeth brawychus ac emosiynol i unrhyw berchennog tŷ. Mae un cwmni o Gymru, TSG, wedi cynnig atebion arloesol i’r sector yswiriant i gefnogi gwaith adfer a helpu deiliaid tai i adennill rhywfaint o normalrwydd tra bod eu cartrefi yn cael eu hatgyweirio a’u hadnewyddu. Dechreuodd y cwmni yn 2012 ac ers hynny mae ei drosiant wedi tyfu i £4m, gan gyflogi...