Gweler isod grynodeb o fusnesau sydd wedi cael cymorth o dan y Rhaglen Cyflymu Twf.
Mae amgylchedd Cymru'n un o asedau allweddol y wlad. Mae’n hollbwysig i ni ei ddiogelu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol a sicrhau bod pobl yn byw yn gytûn gyda’r byd naturiol os ydym am adeiladu economi mwy cynaliadwy. Mae un busnes (a dweud y gwir, mae’n gymdeithas er budd y gymuned) yn Sir Benfro - heb os, dyma ranbarth arfordirol poblogaidd mwyaf enwog Cymru - yn edrych ar sut y gallwn ni ailystyried sut rydyn ni’n...
Gweithgynhyrchydd iechyd yn paratoi ar gyfer newidiadau dynamig sydd i ddod.
Gall fod sawl ffactor sy’n ysgogi rheolwyr i brynu’r cwmni (MBO) y maent yn gweithio iddo. Roedd yr hyn a ysgogodd y tîm arwain yn Minerva, gwneuthurwyr mowldiau clust wedi’u teilwra o Gaerdydd, i wneud hynny yn glir, sef sicrhau dyfodol disglair i’r busnes. Ers cwblhau’r MBO yn llwyddiannus yn 2017, mae Minerva wedi bod ar ei ennill drwy dyfu a buddsoddi yn ei waith ymchwil a ddatblygu i sicrhau ei fod ar flaen y...
Yr entrepreneur heb ei ail sy'n gobeithio gwneud ynni adnewyddadwy yn fwy cynaliadwy byth.
Wrth inni symud tuag at sector ynni sy'n defnyddio rhagor o ynni adnewyddadwy, mae'n bosibl hefyd y bydd cyfleoedd i wella a diogelu ein byd naturiol hefyd. Dyna beth mae arweinydd busnes o Sir Benfro yn gobeithio ei ddatblygu wrth iddo arwain ymchwil i gynhyrchu ynni ar y môr a'r ffordd y gall ddiogelu planhigion ac anifeiliaid brodorol. Mae Jonathan Williams wedi bod yn gweithio gyda'r Rhaglen Cyflymu Twf Gwyrdd i archwilio ei syniadau. Cafodd...
Mae cael achrediad ISO yn allweddol i uchelgeisiau rhyngwladol cwmni meddalwedd.
O bryd i’w gilydd mae angen i’r cwmnïau mwyaf uchelgeisiol sy’n tyfu, hyd yn oed, wneud rhywbeth ychydig yn wahanol er mwyn sicrhau busnes mewn amgylchedd byd-eang cystadleuol. Mae Amplyfi, sydd â’i bencadlys yng Nghaerdydd, yn enghraifft wych o’r gwaith caled mae angen ei wneud yn aml er mwyn sicrhau bod cwmni’n meddu ar y fantais gystadleuol sydd ei hangen arno i lwyddo . Mae Amplyfi wedi cael cefnogaeth drwy Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru...
Sut mae un cwmni cyfreithiol o Gymru wedi rhoi iechyd meddwl a thosturi tuag at bobl wrth wraidd ei weithrediadau – gan roi hwb i gynhyrchiant a chadw staff.
Yn gynyddol, mae arweinwyr busnes yn deall bod iechyd meddwl gweithlu yn hanfodol i les busnes. I Ron Davison, rheolwr gyfarwyddwr Gamlins Law yn y gogledd, mae dealltwriaeth reddfol o'r ffaith honno, a welwyd o safbwynt personol iawn, wedi gweld y cwmni'n datblygu cefnogaeth ar gyfer iechyd meddwl i'w staff mewn swyddfeydd ar draws y gogledd, sy'n arwain y diwydiant. Cefnogwyd Gamlins Law drwy Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru (AGP). Mae'r AGP yn darparu cefnogaeth...
Mae Forever Mortal yn cynnig atebion arloesol ar gyfer diogelu gwaddolion ar-lein mewn ffyrdd na welwyd erioed o’r blaen.
Mae ein hôl troed yn codi cwestiwn difyr. Beth ydych chi’n ei wneud – neu’n bwysicach, beth mae eich teulu a’ch anwyliaid yn ei wneud – gyda’ch ôl troed digidol ar ôl ichi farw? Mae dyddiau’r albwm ffotograffau llychlyd ar ben; bydd y rhan fwyaf ohonom yn berchen ar ffôn symudol o’r chweched genhedlaeth erbyn hyn, gyda phob dyfais yn llawn atgofion, fideos a ffotograffau – degau o filoedd ohonynt o bosib. Beth wnewch chi...
Stori cwmni meddalwedd sydd wedi tyfu’n gyflym
Ers ei sefydlu, mae Codiance wedi tyfu i fod yn gwmni meddalwedd uchel ei barch. Mae’r busnes yn tyfu’n gyflym, gan thri aelod newydd wedi ymuno â’r tîm fis yma. Mae’r cwmni’n dechrau ar gyfnod newydd o dwf, diolch i Raglen Cyflymu Twf (AGP) Busnes Cymru. I Codiance, ei staff, ei sylfaenydd a’i gwsmeriaid, mae hynny’n golygu bod dyfodol cyffrous o’u blaenau. Mae’r AGP yn darparu cymorth i fusnesau uchelgeisiol ac yn cael cyfran o’i...
Partner blaenllaw ar gyfer datblygu meddyginiaethau’n tyfu’n gyflym, yn sgil arloesi a buddsoddi yn ei phobl
Wrth i dechnoleg feddygol ddatblygu, mae’r sector fferyllol yn allweddol i ddarparu swyddi o ansawdd uchel sy’n talu’n dda – gan gadw’r goreuon yn y wlad a denu talentau o wledydd eraill y DU a’r byd. Un busnes blaenllaw yn sector fferyllol Cymru yw CatSci, o Gaerdydd, a eginodd o gwmni sy’n ymgorfforiad bellach o bopeth mae meddygaeth fodern yn ei olygu, yn enwedig y frwydr yn erbyn Covid-19 – AstraZeneca. Mae CatSci wedi cael...
Cwmni gofal iechyd yn Wrecsam sy'n defnyddio dulliau darbodus i feithrin diwylliant o gydweithio ac arloesi.
Mae cwmni yn fwy na'r hyn y mae'n ei gynhyrchu neu'r gwasanaeth y mae'n ei ddarparu. Y staff sydd wrth wraidd pob busnes, ac mae’r diwylliant y mae pobl yn gweithio ynddo yn ysgogi ymddygiadau a chanlyniadau. Yn Healthcare Matters – sef cwmni yn Wrecsam sy'n darparu eitemau megis lifftiau grisiau, matresi arbenigol ac amrywiaeth o eitemau gofal iechyd pwrpasol – daeth hyn i'r amlwg yn ystod pandemig COVID-19. Gan arfer dull chwilfrydig ac agored...
Sut mae Snowdon Timber wedi mynd o nerth i nerth?
Lansiodd Jody Goode ei fusnes, Snowdon Timber, yn 2019. Wedi treulio degawd yn masnachu pren yn rhyngwladol, penderfynodd ei fod yn amser mynd yn annibynnol a sefydlu ei gwmni ei hun gan gynnig pren safonol i’w werthu i siopau cenedlaethol mawr. Dechreuodd y cwmni fasnachu ym Mochdre ac maen nhw wedi agor ail safle ym Mangor yn ddiweddar. Mae Snowdon Timber wedi cael ei gefnogi drwy Raglen Cyflymu Twf (RhCT) Busnes Cymru. Mae’r RhCT yn...