Mae'r farchnad ar gyfer gwirodydd o safon uchel yn un sy'n tyfu. Gwerth y farchnad wirodydd yn y DU oedd tua £15 biliwn yn 2021, gyda modelau'n rhagweld twf parhaus yn y sector. Caiff y twf hwnnw ei yrru gan arloesi i raddau helaeth, gan ganolbwyntio ar ansawdd ac arallgyfeirio i wirodydd alcohol isel a dim alcohol.

Ymhlith y distyllfeydd yng Nghymru sy'n dod yn amlwg yn y sector, sy'n mwynhau twf ac yn manteisio ar gyfleoedd newydd, mae Mallows Beverages yng Nghoed Elái yn Nhonyrefail, Rhondda Cynon Taf.

Mae Mallows wedi’u cefnogi drwy Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru (AGP). Mae'r AGP yn darparu cefnogaeth wedi'i dargedu ar gyfer cwmnïau uchelgeisiol, sy'n tyfu. Ariennir y rhaglen yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru.

 

 

Yma, mae Andy Mallows o Mallows Beverages yn rhannu taith y cwmni hyd yma, ac yn esbonio rôl Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru yn ei llwyddiant.

 

Dywedwch wrthym hanes Mallows
Efallai i’r enw wneud hynny yn amlwg, ond busnes teuluol yw hwn. Fy mab, Rhys, a fi sy'n rhedeg ac yn berchen ar y cwmni. Rydym wedi bod yn gweithgynhyrchu, potelu a dosbarthu diodydd alcoholig ers blynyddoedd lawer. Yn 2022, penderfynon ni ffurfio ein busnes ein hunain yn Rhondda Cynon Taf, mewn adeilad pwrpasol a adeiladwyd i safonau Ewropeaidd. Rydym yn adnabod y farchnad fyd-eang yn dda, yn deall potensial y sector, ac mae gennym arbenigedd dwfn yn y categori diodydd penodol hwn.

Mae ein hangerdd a'n brwdfrydedd dros ein cynnyrch yn amlwg yn ein busnes. Wrth gwrs, rydym am ddarparu diodydd gwych i'n cwsmeriaid sy'n rhoi gwerth rhagorol. Ond nid dyna'r cyfan rydyn ni am ei gyflawni. Rydyn ni eisiau bod yn gynaliadwy a gofalu am y rhan yma o'r byd. Felly ry'n ni'n mabwysiadu logisteg darbodus ac ystwyth i sicrhau ein bod yn ystyried y blaned i’r un graddau ag elw. Ein nod bob amser oedd dod â swyddi cynaliadwy i Gymru a sicrhau cydnabyddiaeth fyd-eang am y cynnyrch rydyn ni'n ei gynhyrchu.

 

Credwn mai dyma'r cynhwysion sydd eu hangen i wneud ein busnes yn llwyddiant. Rydyn ni'n tyfu, ac fe fyddwn ni'n cyflawni trosiant gwerthiant o tua £9 miliwn eleni. Erbyn hyn rydym yn cyflogi mwy na 30 o bobl

 

Mae gennym sawl rheswm dros edrych ymlaen at y dyfodol, ond 'da ni hefyd yn mwynhau'r daith.

 

Beth yw eich adegau mwyaf balch mewn busnes hyd yma?
Rhywbeth sy'n sefyll allan i ni fel teulu a busnes yw pan enillodd fy mab, Rhys, Fedal yr Ymerodraeth Brydeinig am ei wasanaethau i'r GIG a gweithwyr allweddol yn Rhestr Anrhydeddau Penblwydd y Frenhines. Yn ystod y pandemig, fe wnaethom ail-bwrpasu ein busnes i gynhyrchu dros filiwn o boteli o hylif diheintio dwylo. Roedden ni eisiau bod yn rhan o'r ymdrech i gefnogi'r GIG drwy'r pandemig. Roedd yn gyfnod anodd i bawb, ac roedden ni'n gwybod bod gennym yr adnoddau i gymryd rhan a helpu.

Rydw i hefyd yn falch o gyflawni achrediad gradd A BRCGS yn ein hasesiad ffurfiol cyntaf. Roedd yr achrediad hwn yn allweddol i sicrhau bod cwsmeriaid posibl yn gwybod ein bod yn frand dibynadwy sy'n cynhyrchu diodydd o ansawdd.

 

Pa heriau ydych chi wedi eu hwynebu ym myd busnes?
Ein prif her oedd dylunio a datblygu canolfan weithgynhyrchu a chaffael offer, oherwydd Brexit ac amseroedd arwain. Bu'n rhaid i ni ddatblygu ein sylfaen gyflenwi hefyd, ac rydym wedi bod yn ffodus bod ein cyflenwyr wedi ein cefnogi o'r cychwyn cyntaf.  Mae cymaint o'n llwyddiant i oresgyn ein heriau o ganlyniad i gefnogaeth Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru. Mae gennym safle yng nghymoedd y De nawr sy'n gallu cynhyrchu diodydd alcoholig a hefyd ddiodydd meddal yn gyflym. Rydyn ni’n falch o ddanfon ein nwyddau o safon i farchnadoedd ledled y byd o'r safle yma yn y Rhondda.

 

Petaech yn dechrau eto, beth fyddech chi'n ei wneud yn wahanol?
Mae yna ambell beth dwi'n meddwl y bydden ni'n ei wneud yn wahanol. I ddechrau, byddem wedi penodi staff a rheolwyr arbenigol gyda'r arbenigedd nad ydy ni, fel cyfarwyddwyr, yn meddu arno. Er enghraifft, roedd meysydd yn ymwneud â rheoli prosiectau, dylunio gweithgynhyrchu a chynllunio ble byddem wedi elwa o gael mwy o arbenigedd mewnol yn gynt.

Byddem hefyd wedi gwneud mwy o ymchwil cyn buddsoddi mewn offer critigol. Gallem fod wedi tyfu'n gyflymach pe byddem wedi cael gafael ar yr offer cywir o'r cychwyn cyntaf. 

 

Sut mae cefnogaeth gan AGP Busnes Cymru wedi helpu eich busnes?
Rydym wedi bod yn rhan o Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru ers mis Mawrth 2021 ac wedi dechrau masnachu'n swyddogol ym mis Mai 2021. Yn ogystal â chymryd rhan mewn sawl gweminar a seminarau, rydym wedi cael cymorth hyfforddi ym maes rheoli prosiectau, brandio ein cynhyrchion arbennig, marchnata digidol, cyfryngau cymdeithasol, eiddo masnachol, polisïau Adnoddau Dynol a'n prosesau gweithgynhyrchu.

Mae'n anodd mynegi'n llawn pa mor ddefnyddiol yw'r arbenigedd hwn wrth ddechrau busnes, yn enwedig ein un ni, oedd angen gweithredu ar raddfa o'r dechrau. Byddai Rhys a minnau yn argymell y Rhaglen Cyflymu Twf i unrhyw un sy'n cychwyn eu busnes yn ne Cymru. Mae ein hyfforddwr Howard bob amser ar gael i ni ac wedi bod yn bartner dibynadwy i ni wrth i ni dyfu.

 

Pa gyngor ac arweiniad fyddech chi'n ei roi i fusnesau eraill ddechrau?

 

• Bod â chynllun busnes clir a strategaeth – bydd y rhain yn rhoi map ffordd clir i chi.

• Manteisiwch ar gyngor ac arweiniad allanol, a chael gafael ar gymaint o gefnogaeth ag y gallwch gan yr arbenigwyr.

• Datblygu partneriaethau strategol gyda chwsmeriaid a chyflenwyr allweddol yn gynnar ar eich taith fusnes. 

• Recriwtio a hyfforddi'r bobl orau, a meithrin diwylliant positif o fewn y cwmni.

 

I ddysgu mwy am Mallows, cliciwch yma.

 

Rhagor o wybodaeth am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.



 

A picture containing graphical user interface

Description automatically generated

 

Rhaglen ledled Cymru a ariennir yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru yw Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.

Share this page

Print this page