Gweler isod grynodeb o fusnesau sydd wedi cael cymorth o dan y Rhaglen Cyflymu Twf.
Mae'r cwmni cludo nwyddau rhyngwladol o Gaerdydd, Freight Systems Express Wales (FSEW), wedi lansio gwasanaeth clirio tollau llawn i helpu busnesau sy'n cael trafferth gyda rheolau mewnforio ac allforio ar ôl Brexit. Mae FSEW yn gwmni logisteg a nwyddau rhyngwladol sydd wedi'i leoli yn Freightliner yng Ngwynllŵg, Caerdydd. Ar hyn o bryd yn cyflogi tua 70 o bobl, mae'r cwmni'n darparu gwasanaethau trafnidiaeth i gleientiaid yn y DU, Ewrop a ledled y byd. Canfu ymchwil...
Sut mae Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi helpu brand ffasiwn newydd cyffrous sy’n dathlu treftadaeth y sylfaenydd.
I Haitham Shamsan, mae ei fusnes yn cwmpasu popeth y mae'n teimlo’n angerddol amdano – dylunio, diwylliant a chyfrifoldeb. Dyna yw hanfod ei frand ffasiwn newydd, Double Crossed – cwmni o Gaerdydd sydd am fynd ymhell. Mae Double Crossed wedi cael cymorth drwy Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru. Mae'r Rhaglen yn darparu cymorth wedi'i dargedu ar gyfer cwmnïau uchelgeisiol sy’n awyddus i dyfu. Mae’r rhaglen yn cael ei hariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop...
Cwmni dillad chwaraeon cynaliadwy ar fin cymryd cam mawr ymlaen mewn sector cystadleuol.
Mae mwy a mwy o ddewisiadau eraill yn hytrach na ffasiwn cyflym prif ffrwd ar gyfer y rhai sy'n chwilio am wardrob sy'n seiliedig ar gynaliadwyedd. Ac eto, gall dod o hyd i offer hyfforddi ecogyfeillgar fod yn anoddach i'r rhai sy'n chwilio am ddillad athletaidd. Nawr, mae brand Cymreig wedi’i lansio i gyflenwi cit i redwyr sy'n edrych ac yn teimlo'n dda ac sy'n dda i'r blaned. Mae Dryad yn y Fenni wedi cael...
Dyfodol disglair ar y gorwel i gwmni hyfforddi wrth ddod allan o’r pandemig.
Mae ysbrydoli, addysgu ac arfogi'r genhedlaeth nesaf o weithwyr medrus wrth wraidd 4D Academy. Cafodd y darparwr hyfforddiant ym Mhont-y-clun ei ffurfio pan welodd y partneriaid busnes Mark Davies a Christopher Saunders yr angen am fath newydd o hyfforddiant i fusnesau. Ar ôl dod drwy'r pandemig yn gryfach, mae 4D Academy bellach yn edrych ymlaen at ddyfodol cyffrous. Mae 4D Academy wedi cael cymorth Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru (AGP). Mae'r Rhaglen Cyflymu Twf yn...
Y cwmni technoleg newydd sydd am ein helpu i fyw bywydau iachach a hapusach.
Mae deall yr effaith y mae dewisiadau bwyta’n eu cael ar iechyd, a’r ffyrdd unigryw iawn y gall y dewisiadau hynny effeithio ar wahanol bobl, yn rhan gynyddol o wella iechyd a llesiant. Bellach, mae’r entrepreneuriaid David Haines a Julian Shapley wedi datblygu meddalwedd gan ddefnyddio dealltwriaeth fiolegol er mwyn helpu defnyddwyr i addasu cynlluniau bwyd ar gyfer eu ffyrdd eu hunain o fyw – gan eu galluogi i ddeall sut a pham eu bod...
Cwmni caffael arloesol yn cynnig cyfle i fusnesau arbed miloedd o bunnoedd.
Mae angen parhaol i gadw costau mor isel â phosibl mewn busnes. Fodd bynnag, gall gwneud y gorau o wariant ar gaffael nwyddau fod yn her i fusnesau o bob maint. Aeth yr entrepreneur o Gaerffili, Phillipe Mele ati i ddatrys y broblem hon i berchnogion busnes prysur, ac yn ystod y broses, dechreuodd ei fusnes ei hun. Mae My Procurement - ffordd newydd, gydweithredol i fusnesau gael bargeinion gwell - yn defnyddio model aelodaeth...
Mae 25,000 o swyddi bellach wedi cael eu creu gan Fusnes Cymru
Mae Busnes Cymru, gwasanaeth rhad ac am ddim sy’n darparu cymorth a chyngor diduedd ac annibynnol ar gyfer pobl sy’n dechrau, rhedeg a datblygu busnesau yng Nghymru, wedi creu ei 25,000 fed swydd, dywedodd Gethin Vaughan, Gweinidog yr Economi heddiw. Mae deg mil o’r swyddi hynny wedi cael eu creu gan fusnesau sydd wedi derbyn cymorth gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru, sy’n darparu cymorth wedi’i dargedu ar gyfer cwmnïau uchelgeisiol sy’n tyfu. Mae’r rhaglen...
Dyfodol cyffrous ar y gweill ar gyfer ymgyngoriadau ar eiddo gyda datrysiad technegol arloesol wrth ei wraidd.
Bygythiad i’w iechyd a fyddai wedi newid ei fywyd oedd y catalydd ar gyfer newid i Dean Ward. Pan sylweddolodd bod pwysau ei swydd wedi achosi’r hyn maen nhw’n tybio oedd strôc, penderfynodd bod hwn yn drobwynt. Dyma oedd sylfaen pennod newydd a chyffrous ar gyfer y gweithiwr proffesiynol profiadol ym maes eiddo. Gan ddefnyddio ei brofiad a’i wybodaeth helaeth am y sector, sefydlodd Dean y Grŵp DCW, cwmni ymgyngoriadau ar eiddo sydd â’r potensial...
Y cwmni digwyddiadau ar-lein y mae gan ei sylfaenydd y weledigaeth i’w ddatblygu yn frand sydd ar flaen y gad ar draws y byd.
Mae gan yr entrepreneur Richard Lee syniad mawr, ac mae'n benderfynol o’i droi'n fenter ar-lein lwyddiannus. Mae Richard wedi sefydlu Venyu, llwyfan archebu ar-lein sy'n anelu at fod y brif frand yn ei sector – gan symleiddio'r broses i bobl chwilio, archebu a chynllunio digwyddiadau. Mae Venyu wedi cael cymorth drwy Raglen Cyflymu Twf (AGP) Busnes Cymru. Mae AGP yn darparu cymorth wedi'i dargedu ar gyfer cwmnïau uchelgeisiol sydd am dyfu. Ariennir y rhaglen yn...
Yr entrepreneur chwaraeon sy'n trawsnewid hyfforddiant golff i chwaraewyr ar bob lefel ledled y byd.
Heb os golff yw un o'r chwaraeon mwyaf heriol yn y byd, gan estyn y gallu i ganolbwyntio a sgili i'r eithaf Mae'r awydd i lwyddo a gwella yn ysgogydd cyson i lawer o golffwyr, boed yn chwaraewyr proffesiynol ar binacl eu gêm neu amaturiaid yn eu clybiau lleol. Mae sylfaenydd Dr Golf, Zach Gould, wedi’i leoli ym Mhenarth, a chymaint roedd yn uniaethu ag awydd pobl i wella eu gêm ac i wella eu...