Mae Totally Welsh sydd wedi’i leoli yn Hwlffordd yn cyflenwi llaeth a chynhyrchion llaeth Cymreig o safon i’r sector cyhoeddus a chwsmeriaid corfforaethol a domestig ledled y DU.
Yn gwmni a sefydlwyd ym 1990, mae’n defnyddio llaeth Cymreig o wartheg Cymreig, a hynny o fewn cwmpas 40 milltir o’i safle potelu. Mae cwsmeriaid Totally Welsh yn cynnwys archfarchnadoedd, ysbytai, ysgolion a manwerthwyr annibynnol. Mae’r cwmni hefyd yn cynnig gwasanaeth danfon i’r drws yn ne Cymru gan ddanfon llaeth, cynhyrchion llaeth a nwyddau brecwast sy’n cael eu masnachu at filoedd o gwsmeriaid.
Yn sgil datblygu enw da a chadarn am y cynhyrchion o’r safon uchaf yn ogystal â gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid, mae’r cwmni bellach yn cyflogi oddeutu 100 o bobl ac yn 2022, cyflawnwyd trosiant o £17 miliwn.
Mae ailgylchu ac ailddefnyddio wedi bod yn ganolog i ethos y cwmni erioed. Yn ogystal â lleihau milltiroedd bwyd drwy ddefnyddio ffynonellau lleol, mae Totally Welsh yn ymfalchïo yn y ffaith eu bod yn defnyddio deunyddiau pacio cynaliadwy. Eleni, mae’r cwmni yn gobeithio dechrau potelu’r llaeth mewn poteli gwydr yn ychwanegol i’r cartonau polystyren ailgylchadwy a ddefnyddir ar hyn o bryd.
Gan adeiladu ar ei ymrwymiad o ran cynaliadwyedd, mae gan y busnes uchelgais ers tro i gyflawni allyriadau carbon sero net erbyn 2050. Trwy fod yn awyddus i wireddu’r uchelgais honno, cofrestrodd y tîm ar y Cynllun Peilot Lleihau Allyriadau Carbon sy’n rhan o Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru ddechrau 2023.
Isod, mae Sara Jones, rheolwr Cydymffurfio Technegol yn esbonio sut y mae’r busnes wedi manteisio ar y rhaglen beilot ac yn rhannu gwersi allweddol sydd wedi deillio o daith y cwmni i leihau carbon.
Dywedwch sut yr aethoch ati i ddatblygu eich cynllun lleihau allyriadau carbon?
Er mwyn bwrw ati i leihau ein hallyriadau, roeddem yn gwybod mai’r cam cyntaf oedd eu deall a’u mesur. Mae’r rhaglen beilot yn defnyddio’r safon cyfrifo nwyon tŷ gwydr a ddefnyddir fwyaf yn fyd-eang sef y Protocol Nwyon Tŷ Gwydr. Mae’r protocol hwn yn defnyddio tri chwmpas (neu fathau) i gategoreiddio’r gwahanol allyriadau y mae cwmnïau yn eu creu yn eu gweithrediadau a ledled eu cadwyni gwerth ehangach, gan gynnwys cyflenwyr a chwsmeriaid.
Felly, y cam cyntaf ar y daith oedd dysgu rhagor am gategoreiddio ein heffaith amgylcheddol a’i mesur.
Dysgom mai Cwmpas 1 a 2 yw’r allyriadau hynny a berchnogir neu a reolir gennym, tra bod allyriadau Cwmpas 3 yn deillio yn sgil ein gweithgareddau ond eu bod yn dod i’r amlwg o ffynonellau nad ydym yn berchen arnynt nac yn eu rheoli.
Mae Cwmpas 1 yn cynnwys allyriadau o ffynonellau rydym yn berchen arnynt neu’n eu rheoli yn uniongyrchol, er enghraifft, yn sgil llosgi tanwydd mewn fflyd o gerbydau petrol neu diesel. Allyriadau Cwmpas 2 yw’r rhai hynny rydym yn eu creu yn anuniongyrchol pan fo’r ynni rydym yn ei brynu a’i ddefnyddio yn cael ei gynhyrchu. Mae allyriadau Cwmpas 3 yn cwmpasu allyriadau nad ydynt yn cael eu creu gennym ni nac yn sgil gweithgareddau o asedau a berchnogir neu a reolir gennym ni, ond yn hytrach gan y rheini rydym yn gyfrifol amdanynt yn anuniongyrchol ar draws ein cadwyn gwerth. Enghraifft o hyn yw prynu nwyddau gan gyflenwyr, eu defnyddio a’u gwaredu.
Unwaith y dysgom hynny, y cam cyntaf oedd edrych ar y gwahanol gamau a phrosesau rydym yn eu defnyddio yn ein busnes. Roedd gennym y rheini wedi’u mapio eisoes mewn siart lif at ddibenion rheoli diogelwch bwyd. Mae’r siart lif hon yn nodi’r holl brosesau sy’n gysylltiedig â’n cwmni, o’r adeg y mae’r llaeth yn ein cyrraedd ni hyd nes iddo gael ei ddosbarthu a’i ddanfon. Roeddem yn gallu nodi’n fanwl y prosesau sy’n effeithio’n sylweddol ar yr amgylchedd a hynny drwy adolygu’r camau hynny. Galluogodd y broses o archwilio’r camau hyn yn fanwl inni ystyried pa effeithiau y gellid eu nodi yng Nghwmpasau 1, 2 a 3.
Heb gymorth y rhaglen beilot, ni fyddwn wedi deall graddau’r data roedd angen inni ei nodi. Ni fyddem chwaith wedi cyflawni’r hyn rydym wedi’i wneud hyd yma pe bawn i wedi ymgeisio i gwblhau’r gwaith fy hun. Enghraifft o hyn yw’r gwaith o gofnodi taith gweithwyr yn ôl ac ymlaen i’r gwaith, na fyddwn i wedi meddwl amdano fel arall. Gwnaeth hynny synnwyr pan ddysgais amdano a hynny drwy gydweithio â’n rheolwr prosiect ymroddedig. Dyma oedd yr hyn a ddysgais fwyaf, sef gweld y darlun ehangach o effeithiau’n busnes.
Sut gawsoch afael ar y data yr oeddech ei angen er mwyn cyfrifo eich allyriadau sylfaenol?
Trwy lwc, roedd modd dod o hyd i’r data yn hawdd gan ein bod, ar y cyfan, yn gwmni hunanddibynnol. Er enghraifft, gan ein bod yn rheoli ein fflyd o gerbydau ac yn casglu’r llaeth o ffermydd ein hunain, hawdd oedd cyfrifo’r allyriadau carbon hynny.
Yn sgil ein prosesau o ran cynllunio a rhagweld y gwaith cynhyrchu, roedd gennym hefyd gyfoeth o ddata ar gael ynghylch yr unedau rydym yn eu gweithgynhyrchu. Yn ogystal â hynny, gan ein bod yn gweithio tuag at amryw o safonau achredu diogelwch bwyd, mae gennym yr holl fanylion ar fanylebau deunyddiau pacio a oedd o gymorth inni nodi cynnwys ailgylchadwy. Cawsom ein synnu ar yr ochr orau fod gymaint o ddata ar gael inni. Wedi hynny, dim ond achos o benderfynu ar bwy o fewn y busnes oedd â’r data hwnnw, neu bwy oedd yn gallu ei gasglu inni yn y ffurf gywir oedd angen ei wneud.
Beth oedd y rhwystrau neu’r heriau mwyaf wrth ichi ddatblygu eich cynllun?
Ni wnaethom wynebu heriau sylweddol wrth gasglu data oherwydd bod llawer o ddata ar gael inni o fewn y busnes. Yn yr ystyr hynny, roeddem yn ffodus iawn. Roedd gennym bobl allweddol mewn gwahanol swyddi yn y busnes a’n helpodd ni i ddod o hyd i’r data roeddem ei angen a’i gasglu. Fodd bynnag, rwy’n teimlo bod yr amser oedd ynghlwm wrth y gwaith yn her inni. Roedd y prosiect hwn yn gofyn am ymdrech wedi’i ffocysu. Y rhan orau am y rhaglen beilot oedd cael rheolwr prosiect ymroddedig a oedd yn cydweithio â ni ac oedd yn ein helpu i osod llwybr critigol. Sicrhaodd hyn ein bod yn parhau i ganolbwyntio ar y gwaith a llwyddom i gyflawni llawer ohono yn gyflym. Ni fyddem wedi gallu sicrhau’r adnoddau na’r arbenigedd mewnol i gyflawni cymaint rydym wedi’i wneud mewn cyn lleied o amser.
Sut aethoch ati i sicrhau bod eich tîm yn cymryd rhan yn y broses o ddatblygu eich cynllun lleihau allyriadau carbon?
Ceisiais arwain ar hyn gyda llawer o frwdfrydedd oherwydd fel busnes, rydym wedi bod yn awyddus i wneud hyn ers tro. Sicrheais fy mod yn cynnwys y tîm ar bob cam gan egluro’r nod terfynol yn glir. Roedd cyfathrebu yn allweddol, gan egluro pam y mae hyn yn rhywbeth cadarnhaol inni weithio tuag ato, nid yn unig yn nhermau manteision i’r busnes ond hefyd gan mai dyma’r peth iawn i’w wneud. Wedi hynny, siaradais â phob aelod o’r tîm gan sefydlu eu cryfderau. Llwyddom i nodi pwy fyddai orau i gwblhau’r tasgau gofynnol a chynhaliwyd cyfarfodydd rheolaidd i sicrhau ein bod yn dal ati. Ymrwymwyd yn llwyr i’r prosiect, ac unwaith inni sefydlu’r hyn oedd yn gyraeddadwy a chyda help ein rheolwr prosiect, aethom amdani.
Beth yw camau nesaf eich busnes o ran eich taith i leihau allyriadau carbon?
Y cam nesaf yw cwblhau archwiliad llawn o’r meysydd rydym wedi’u canfod o fewn y tri chwmpas a amlinellais ac edrych lle y gallwn leihau pethau ymhellach. Rydym hefyd yn awyddus i fonitro newidiadau technolegol yn ofalus, yn benodol o ran gallu cerbydau trydan. Mae ein busnes yn dibynnu’n fawr ar drafnidiaeth logistaidd, felly cyn gynted ag y bo technoleg yn caniatáu, byddwn yn manteisio ar hynny.
Byddwn hefyd yn parhau i godi ymwybyddiaeth ynghylch cynaliadwyedd ymysg y gweithlu yn ogystal â helpu ein timau i newid eu dulliau a’u patrymau gweithio er mwyn ein helpu i gyflawni ein nod cyffredin.
Pa gyngor fyddech chi yn ei roi i fusnesau eraill sydd ar gychwyn taith i leihau eu hallyriadau carbon?
Fy nghyngor i yw bod angen ymrwymo i’r daith. Gwnewch y broses yn haws i’w deall drwy ddarllen am yr hyn rydych chi’n gobeithio ei gyflawni. Mae digon o gyngor a chymorth ar gael. Peidiwch â bod ofn yr heriau a all godi, gweithiwch eich ffordd drwyddynt fesul un ac ewch amdani. Gallwch weithio ar sut i gyflawni’r nod pan fyddwch wedi sefydlu eich llinell sylfaen a nodi’r hyn sydd angen ichi ei gyflawni. Sicrhewch fod eich staff yn rhan o’r broses o’r dechrau, gan mai hwy yw eich caffaeliad mwyaf. Ac un peth arall - er y gall fod yn llawer o ymdrech, ond os rhowch yr amser iddo, gallwch fod yn falch o fod yn rhan o’r symudiad i ddod yn sero net.
Beth oedd y manteision mwyaf o gymryd rhan yng nghynllun peilot Lleihau Allyriadau Carbon sy’n rhan o Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru?
Rydym wedi canolbwyntio ar gynaliadwyedd o hyd ond roeddem yn awyddus i ehangu’r ymrwymiad hwnnw ymhellach. Heb y rhaglen beilot, ni fyddem wedi gwybod sut i fynd ati. Mae’r rhaglen wedi rhoi arbenigedd gwerthfawr i ni, strwythur i’n cynllun a llwybr clir ymlaen. Yn fonws annisgwyl, mae hefyd wedi ein helpu i gynyddu’r modd y mae staff yn cymryd rhan. Y budd mwyaf oedd cael arbenigwr i’n harwain ni, i ateb cwestiynau, i rannu syniadau a datrys materion wrth iddynt godi. Roedd gallu defnyddio’r arbenigedd hwnnw yn amhrisiadwy.
I ddysgu rhagor am Deploy Tech, cliciwch yms.
Rhagor o wybodaeth am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.
The Business Wales Accelerated Growth Programme is a pan-Wales programme part funded by the European Regional Development Fund through the Welsh Government.