Mae e-fasnach ac arloesedd digidol yn parhau i chwyldroi gwahanol sectorau ledled y byd. O ffasiwn i gyllid, mae llwyfannau digidol wedi chwalu rhwystrau ac wedi creu cyfleoedd i weithwyr llawrydd, entrepreneuriaid a defnyddwyr. Mae Quadrip, llwyfan steilio personol ar-lein yng Nghymru, yn enghraifft wych o'r chwyldro hwn.
Wedi'i lansio ym mis Mai 2023 gan Gabriele Sidekerskyte, myfyriwr economeg o Lithwania ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae Quadrip yn cysylltu steilyddion llawrydd â chleientiaid sy'n chwilio am gyngor ffasiwn personol a chymorth gyda steil. Mae'r platfform yn caniatáu i steilwyr gynnig ymgynghoriadau personol, rhoi cyngor ar steil, creu steil cyflawn a rhoi cyngor ar eich wardrob.
Er megis dechrau, mae Quadrip eisoes wedi ennyn diddordeb sylweddol gan steilwyr a chwsmeriaid.
Mae Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru (AGP) wedi chwarae rhan hanfodol yn natblygiad Quadrip. Mae AGP yn cynnig cefnogaeth wedi'i thargedu i gwmnïau uchelgeisiol sy'n tyfu'n gyflym, ac mae’n cael ei ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.
Yn y blog hwn, mae Gabriele, sydd y tu ôl i Quadrip, yn rhannu ei thaith fusnes ac yn cynnig cyngor i ddarpar entrepreneuriaid ifanc.
Dywedwch wrthym am Quadrip?
Yn Quadrip, credwn fod pawb yn haeddu teimlo'n hyderus ac wedi'u grymuso. Gwyddom fod ffasiwn yn effeithio'n sylweddol ar sut rydyn ni'n teimlo amdanom ein hunain. Eto i gyd, rydym hefyd yn deall nad oes gan bawb yr amser, yr wybodaeth na'r hyder i greu gwisg wych.
Mae Quadrip yn fwy na dim ond platfform ar-lein; Mae'n bont sy'n cysylltu arbenigwyr arddull â'r rhai sydd angen cyngor am ffasiwn. Daeth ysbrydoliaeth Quadrip o weld trafferthion ffrindiau a theulu, wedi treulio llawer o amser yn siopa yn ystyried beth i'w wisgo, a pheidio gwisgo y dillad roeddent wedi’u prynu. Sylweddolais y gallai ffasiwn chwarae rhan sylweddol wrth hybu hyder pobl, ond bod pobl yn aml yn cael trafferth gyda sut i wario arian ar ffasiwn a rhoi gwisg at ei gilydd.
Dyna pam rydyn ni wedi creu platfform sy'n eich cysylltu chi â steilyddion personol o'r radd flaenaf sy'n arbenigwyr yn eu maes. Mae ein steilwyr yn gweithio gyda chi i ddeall eich steil unigryw, eich dewisiadau a'ch ffordd o fyw. Yna byddant yn eich helpu i ddeall yn well eich math chi o gorff a'ch palet lliw a chreu gwisgoedd personol sy'n gwneud i chi deimlo'n hyderus a hardd.
Gyda'n platfform, gallwch bori ystod amrywiol o gynllunwyr personol, eu gwasanaethau a dewis yr un sy'n gweddu orau i'ch anghenion a'ch cyllideb. Gallwch gyfathrebu â'ch steilydd trwy ein system negeseuon ddiogel i'w helpu i ddeall eich anghenion yn well a chael argymhellion gyda dolenni ar gyfer yr eitemau y dylech eu prynu.
Ein nod yw gwneud ffasiwn yn hygyrch ac yn bleserus i bawb, waeth beth fo'u cyllideb, math o gorff, neu ddewisiadau o ran steil. P'un ai eich bod am newid eich steil yn gyfangwbl neu dim ond ychydig o ddarnau newydd i ddiweddaru’ch steil, mae ein steilyddion personol yma i'ch helpu i gyflawni eich amcanion ffasiwn.
Ar ôl imi fireinio fy syniad, bum yn ymchwilio'r farchnad, a gwelais fod awydd gwirioneddol am gyngor steilio arbenigol drwy glicio botwm. O'r fan honno, fy her fwyaf oedd datblygu'r llwyfan a'r steilyddion. Roedd cysylltu â datblygwr gwe medrus yn drobwynt ar gyfer datblygu Quadrip. Heddiw, rydym yn dysgu ac yn tyfu yn barhaus gyda'n cwsmeriaid a'n steilwyr cynnar.
Pryd oeddech chi fwyaf balch o’ch busnes?
Er bod Quadrip yn dal i fod yn fusnes newydd, mae fy moment mwyaf balch ynghlwm â’m twf personol. Cymerais y risg o symud ar fy mhen fy hun i wlad newydd, a oedd yn frawychus, ond rwyf wrth fy modd yn byw yng Nghymru. Rwy'n adeiladu rhwydweithiau newydd ac yn dysgu rhywbeth newydd bob dydd. Heddiw, rwy'n falch iawn o'r busnes a'm cysylltiadau.
Pa heriau ydych chi wedi'u hwynebu mewn busnes?
Roedd y daith i lansio Quadrip yn llawn heriau. Un her oedd yr awydd i ddatrys pob mater posibl cyn ei lansio, a oedd wrth edrych yn ôl, yn dal y platfform yn ôl. Wrth edrych yn ôl, gallai lansio'r platfform yn gynt fod wedi ein helpu i weld a mynd i'r afael â phroblemau yn gyflymach, gan ddod o hyd i’n lle yn y farchnad yn gyflymach.
Sut mae cefnogaeth gan Busnes Cymru wedi helpu eich busnes?
Mae cefnogaeth gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi bod yn amhrisiadwy. Darparwyd cymorth busnes uniongyrchol a chymorth gyda brandio a marchnata, a chwaraeodd ran hanfodol wrth ein helpu i nodi ein cynulleidfa a mireinio ein cynnig.
Pa gyngor fyddech chi'n ei roi i fusnesau eraill sy'n dechrau?
Symud yn gyflym: Peidiwch ag oedi i deimlo'n hollol barod. Casglu adborth cynnar yn aml yw'r ffordd fwyaf effeithlon o gael cynnyrch sy'n barod i'r farchnad.
Derbyn methiant: Mae methiannau'n rhan o'r broses ddysgu, ac mae'r gallu i fynd ymlaen ar ôl methu yn sicrhau cynaliadwyedd.
Goresgyn diffyg hyder: Mae teimlo'n ddibrofiad neu allan o le yn gyffredin, ond peidiwch â gadael iddo rwystro eich datblygiad. Cadwch eich traed ar y ddaear ond daliwch ati i wthio'r ffiniau.
I ddysgu mwy am Quadrip, Ewch yma.
Mae rhagor o wybodaeth am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru (AGP) ar gael yma.
Mae Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru yn rhaglen Cymru gyfan sy'n cael ei hariannu'n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.