Mae’r ysbrydoliaeth o ran syniad am fusnes yn aml yn deillio o brofiad personol. Ac roedd hynny’n wir i Vicky North, sefydlydd Bird Kitchen, sy’n cyflenwi dillad gwaith i fenywod sy’n gweithio’n y diwydiant bwyd a diod.
Cafodd y brand ei eni pan sylweddolodd y perchennog caffi, Vicky, fod y dillad neillryw a gyflenwyd yn y sector fel arfer wedi’u dylunio ar gyfer dynion. Ar ôl sylweddoli hyn, dechreuodd ei busnes, sydd bellach ar daith dwf cyffrous, gan ddarparu dillad cegin o ansawdd uchel i fenywod ledled y byd.
Mae Bird Kitchen wedi’i gefnogi gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru (RhCT). Mae’r RhCT yn darparu cymorth wedi’i dargedu i gwmnïau uchelgeisiol, sy’n tyfu. Ariennir y rhaglen yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.
Yma, mae Vicky North yn esbonio sut y sefydlodd ei chwmni ac mae’n rhannu ychydig o ysbrydoliaeth i arweinwyr busnesau sy’n tyfu.
Soniwch ychydig am Bird Kitchen.
Mae gen i brofiad o weithio yn y sector bwyd, lle bues i’n rhedeg caffi am sawl blwyddyn yn Sir Benfro. A dyma lle ddechreuodd Bird Kitchen. Mae fy mhrofiad yn y diwydiant, yn gweithio yn y gegin bob dydd, wedi llywio’r hyn rwy’n ei wneud yma yn Bird Kitchen. Roedd y rhan fwyaf o’r ffedogau a’r dillad cegin roeddwn yn eu gwisgo wedi’u dylunio’n bennaf ar gyfer dynion, er eu bod nhw fel arfer yn ddillad neillryw. Yn syml, doedden nhw ddim yn ffitio’n iawn.
Roedd gan hyn oblygiadau gwirioneddol, ymarferol imi. Roedd sifftiau hir a heriol yn y gegin yn aml yn arwain at faterion iechyd fel straen gwddf oherwydd natur anymarferol y dillad. Roedd y dillad yn llythrennol yn dod yn rhwystr i mi!
Roeddwn i’n gweld hyn fel problem yr oedd angen rhoi sylw iddo. Dechreuais flog lle gwnes i gyfweld â menywod o bob rhan o’r diwydiant, a dod i gasgliad ei bod yn broblem gyffredin. Roeddwn i eisiau newid hynny, i greu cymuned a dathlu merched ym maes bwyd yn fyd-eang. Roedd llawer o fenywod hefyd yn gadael ceginau traddodiadol i ddechrau eu mentrau eu hunain, lle gallant redeg cegin fel y mynnant. Roedd angen dillad gwaith wedi’u dylunio gan fenywod a fyddai’n ffitio’n well ac yn edrych yn broffesiynol.
Yna, cysylltais â dylunydd lleol, Nicola Ridd-Davies a gweithio gyda hi i ymchwilio a chreu fy nghynnyrch cyntaf. Fe wnes i lansio Kitchen Bird yn 2019, ac rydyn ni bellach yn gwerthu ein cynnyrch yn fyd-eang. Rwy’n edrych ymlaen at weld sut y gallaf dyfu fy musnes a rhannu’r cynhyrchion hyn â gweithwyr proffesiynol benywaidd sy’n gweithio yn y sector arlwyaeth, ble bynnag y maent.
Beth rydych chi fwyaf balch ohono hyd yma?
Gweld y set gyntaf o gynhyrchion oedd un o’r adegau mwyaf balch imi. Roedd hi’n gymaint o wefr gweld fy holl waith cynllunio yn dwyn ffrwyth. Uchafbwynt annisgwyl arall rwy’n falch ohono oedd pan ymddangosodd y cogydd, Simmie Vedi, o Gaerdydd ar raglen The Great British Menu ar y BBC yn gwisgo ffedog Bird Kitchen. Roedd gweld fy nghynnyrch yn cael ei arddangos ar y teledu i ystafelloedd byw ledled y wlad yn anhygoel!
Pa heriau y mae’ch busnes wedi’u hwynebu?
Mae cynaliadwyedd, a ffasiwn araf, moesegol yn rhannau allweddol o’n hethos. Roedd hyn yn golygu bod dod o hyd i’r lleoliad cywir i greu’r cynnyrch yn her. Yn unol â’m hawydd i weithgynhyrchu’n foesegol, roeddwn eisiau cadw’r broses gynhyrchu yn y DU, ond gyda’r costau mor uchel, bydden ni wedi cael ein gwthio o’r farchnad. Rwyf bellach wedi dod o hyd i gwmni moesegol yn India. Unwaith eto, roedd dod o hyd i’r lleoliad cywir i greu’r cynnyrch yn bwysig iawn i’r busnes. Mae’n rhaid i’n gweithgynhyrchwyr rannu ein gwerthoedd- sef bod ansawdd a chynaliadwyedd wrth wraidd popeth a wnawn.
Petaech chi’n dechrau eto, beth fyddech chi’n ei wneud yn wahanol?
Rydw i wedi dysgu gymaint yn y tair blynedd ers dechrau’r busnes, ond un wers rydw i wedi ei dysgu yw pwysigrwydd meddwl yn ehangach. Treuliais lawer o amser ac ymdrech yn ceisio dod o hyd i wneuthurwr yn y DU, gan gredu mai dyna’r ffordd orau o gynhyrchu fy nwyddau yn foesegol. Fodd bynnag, ar ôl ehangu fy ymchwil, rwyf wedi dod o hyd i wneuthurwr moesegol y tu allan i’r DU. Mae hyn yn golygu y gallwn ni gadw costau i lawr, gan gryfhau’r busnes.
Sut mae cymorth RhCT Busnes Cymru wedi helpu eich busnes?
Mae’r cymorth gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi bod yn hynod werthfawr. Mae’r rhaglen wedi bod yn gymaint o help i mi fel entrepreneur, ac rwyf wedi cael cyngor ar sawl maes o ran tyfu busnes. Er enghraifft, roedd cael hyfforddiant ar frandio a marchnata yn hanfodol i mi fel busnes newydd wrth i mi geisio cyflwyno fy nghynhyrchion i’m marchnad darged.
Pa gyngor ac arweiniad fyddech chi’n eu rhoi i fusnesau eraill sy’n dechrau ar eu taith?
- Gwnewch eich gwaith ymchwil – siaradwch â chynifer o gwsmeriaid â phosibl wrth ffurfio eich cynllun busnes.
- Adeiladwch eich cymuned – gall hyn fod ar gyfer cwsmeriaid sy’n prynu gennych chi a phartneriaid. Gyda chymuned o bobl sy’n eich cefnogi, mae gennych rywle i fynd er mwyn arbrofi gyda phethau, pobl i siarad â nhw, a llefydd i ganfod atebion i’ch cwestiynau.
- Meddyliwch yn ehangach – nid yn unig o ran eich partneriaid a’ch rhanddeiliaid posibl, ond hefyd o ran cwsmeriaid. Efallai byddwch chi’n synnu at y cyfleoedd sy’n codi.
Dysgu mwy am Bird Kitchen.
Dysgwch ragor am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru (AGP).
Mae Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru yn rhaglen ar draws Cymru gyfan a ariennir yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.