Mae Busnes Cymru, gwasanaeth rhad ac am ddim sy’n darparu cymorth a chyngor diduedd ac annibynnol ar gyfer pobl sy’n dechrau, rhedeg a datblygu busnesau yng Nghymru, wedi creu ei 25,000fed swydd, dywedodd Gethin Vaughan, Gweinidog yr Economi heddiw.

Mae deg mil o’r swyddi hynny wedi cael eu creu gan fusnesau sydd wedi derbyn cymorth gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru, sy’n darparu cymorth wedi’i dargedu ar gyfer cwmnïau uchelgeisiol sy’n tyfu. Mae’r rhaglen yn cael ei hariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Gwnaeth Gweinidog yr Economi'r cyhoeddiad wrth iddo ymweld â Thermal Compaction Group (TCG), y busnes a greodd y 10,000fed swydd, diolch i gymorth a roddwyd gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.

 

 

Mae Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi bod yn llwyddiannus iawn ers ei sefydlu yn 2015. Cyrhaeddodd y garreg filltir drawiadol wrth i Alex Spyropoulos, Rheolwr Gweithrediadau ar gyfer y cwmni, ddechrau gweithio ar ei safle 8,000 troedfedd sgwâr ar Ffordd Curran yng Nghaerdydd.

Mae Thermal Compaction Group, a sefydlwyd yn 2014, yn darparu atebion arloesol ar gyfer llawer o wahanol ffrydiau gwastraff ar draws amrywiaeth eang o ddiwydiannau sy'n canolbwyntio ar sicrhau carbon sero-net. Mae'r cwmni'n cynnig cynhyrchion unigryw â phatent sy'n darparu atebion cost-effeithiol i broblemau rheoli gwastraff byd-eang, gan gynnwys unig dechnoleg y byd ar gyfer ailgylchu PPE yn y tarddle. Mae ei gynhyrchion yn cael eu defnyddio gan Lynges y DU a system gofal iechyd yr Iseldiroedd, ymhlith cwsmeriaid rhyngwladol eraill.

 

Roedd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gethin, ym mhencadlys TCG i glywed am eu twf a chwrdd â'r tîm. Dywedodd:

"Mae Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wir wedi arwain y ffordd ar gyfer Busnes Cymru, ac mae'n wych gweld mai’r rhaglen hon sydd wedi bod yn gyfrifol am y ffaith bod rhai o'n busnesau bach a chanolig mwyaf uchelgeisiol wedi creu 10,000 o swyddi newydd ledled Cymru. Mae hefyd yn newyddion gwych bod Busnes Cymru yn gyffredinol wedi helpu i greu 25,000 o swyddi newydd ledled Cymru. Mae’r llwyddiant hwn yn dystiolaeth o'r cymorth rhagweithiol mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i fusnesau, ac o arbenigedd ein tîm.

"Mae mwy i’r Rhaglen Cyflymu Twf na’r twf mae’n ei ysgogi mewn cwmnïau; mae hefyd yn cael effaith ar unigolion ledled Cymru. Dyma 10,000 o swyddi efallai na fydden nhw wedi cael eu creu fel arall, ac mae’n destun cryn falchder ein bod wedi gallu helpu pobl fel Alex i gael swydd mewn cwmni sy’n harneisio arloesi technegol i greu dyfodol gwyrddach a mwy cynaliadwy.

"Mae cynhyrchion arloesol TCG yn cael eu hallforio ledled y byd ac maen nhw’n denu sylw byd-eang, a dylen ni yng Nghymru ymfalchïo yn eu llwyddiant. Byddwn i’n annog busnesau uchelgeisiol yng Nghymru i ystyried a yw’r Rhaglen Cyflymu Twf yn gallu eu helpu nhw hefyd.

"Roedd yn wych cwrdd ag Alex a'r tîm gweithgar yn TCG heddiw. Nid ar chwarae bach mae 25,000 o swyddi’n cael eu creu, ac wrth edrych tuag at y dyfodol, rwy’n gallu dweud yn hyderus byddwn ni’n gweld llawer mwy o gerrig milltir o’r fath”.

 

Ers ymuno â Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru yn 2019, mae TGC wedi derbyn mentora a chyngor arbenigol ar ddadansoddi'r farchnad, cyfleoedd ariannu a sefydlu cysylltiadau â chleientiaid allweddol. Mae'r cymorth hon wedi bod yn ‘hynod ddefnyddiol’ yn ôl y Rheolwr Gyfarwyddwr Mathew Rapson:

"A ninnau’n cwmni bach, mae cymorth gan ein rheolwr perthynas, Howard Jones, a gan nifer o hyfforddwyr busnes profiadol wedi bod yn amhrisiadwy, wrth inni lywio ein ffordd o'r cyfnod ymchwil a datblygu i gyfnod o dwf uchel. 

"Rydyn ni’n ddiolchgar iawn am y gwasanaeth rydyn ni wedi ei dderbyn gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru, a bydden ni’n ei hargymell i unrhyw fusnes sy'n awyddus i gynyddu a thyfu."

 

Cyhoeddodd y Gweinidog hefyd mai'r busnes a greodd y 25,000fed swydd, o ganlyniad i gymorth gan Fusnes Cymru yw Cake and Roll yng Nghwmbrân. Yn ddiweddar, cyflogodd y busnes masnachfraint Bethany Baber, 19 oed, fel Cynrychiolydd Cwsmeriaid. Dywedodd y cyd-sylfaenydd Marcin Panek:

"Ers inni lansio ym mis Mai 2021, mae'r cymorth a gawson ni drwy Fusnes Cymru wedi bod yn wych. Maen nhw wedi ein helpu gyda marchnata a hyrwyddo, cynlluniau busnes a gwella sgiliau ein tîm. Rydyn ni eisoes yn gweld manteision rhoi popeth rydyn ni wedi'i ddysgu ar waith, ac o ganlyniad rydyn ni wedi llwyddo i ehangu ein tîm.

"Mae Bethany wedi ymgartrefu yn y tîm yn dda hyd yn hyn, ac rydyn ni eisoes yn trafod cynllun llwybr carlam iddi. Rydyn ni’n hyderus y bydd ein tîm yn parhau i dyfu dros y misoedd nesaf.

"Mae wastad wedi bod yn uchelgais gen i fod yn fos ar fy hun. Rhoddodd Busnes Cymru y cyfle i fi wneud hynny, ac maen nhw wedi fy nghefnogi bob cam o'r ffordd. Rwyf wrth fy modd mai ni yw'r cwmni sy'n gyfrifol am greu'r 25,000fed swydd – mae’n destun cryn falchder i’n tîm ni.  

"Byddwn i’n annog busnesau eraill sy'n chwilio am gymorth i gysylltu â Busnes Cymru. Ers ymuno mae Cake and Roll wedi mynd o nerth i nerth, ac rydyn ni’n ddiolchgar iawn am y cymorth rydyn ni wedi’i dderbyn.”

 

Dysgwch ragor am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru (AGP).

 

Share this page

Print this page