Mae Touch Biometrix, cwmni o'r Gogledd sy'n arbenigo mewn datblygu synwyryddion olion bysedd yn hynod falch o fedru cyhoeddi ei fod bellach yn rhan o Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru

Mae Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru yn cael ei noddi gan Lywodraeth Cymru ac yn cael ei hariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop. Mae’r rhaglen, sy'n cael ei darparu gan y Consortia ar gyfer Rhagori (sy’n cynnwys Winning Pitch ac Impact Innovation), yn cynnig cymorth arbenigol pwrpasol i fusnesau sy’n awyddus i ehangu’n gyflymach o lawer ac i wireddu’u potensial mawr i dyfu.

 

Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Touch Biometrix, Mike Cowin: "Dyna pam rydyn ni wedi lleoli'r busnes yng Ngogledd Cymru. Mae yma rwydwaith eang o gymorth sydd ar gael yn hwylus ac sy'n cynnig trefniadau hynod effeithiol ar gyfer cychwyn busnes. Mae cael cydnabyddiaeth gan Busnes Cymru drwy gael cymorth i gyflymu twf y busnes yn adlewyrchu potensial Touch Biometrix a gwerth yr hyn sydd ganddo i'w gynnig. Mae hefyd yn tystio i weledigaeth ac uchelgais y tîm yn Busnes Cymru."


 

 

Dywedodd Idris Price, Rheolwr Perthynas gyda Winning Pitch: "Mae gan Touch Biometrix botensial aruthrol i greu swyddi a refeniw yn y Gogledd oherwydd gwerth mawr yr hyn sydd ganddo i'w gynnig a'i brofiad yn y sector. Mae hwn yn gyfle gwych, nid yn unig i Touch Biometrix ond i'r Gogledd hefyd.

Disgwylir y bydd y galw am synwyryddion olion bysedd wedi tyfu i 1.7 biliwn o unedau erbyn 2020 ac y bydd eu gwerth marchnadol yn $15 biliwn erbyn 2024. Mae mwy a mwy o alw am dechnoleg dilysu defnyddwyr wrth i'r galw barhau i gynyddu am ffyrdd hwylus o adnabod defnyddwyr wrth iddynt ddefnyddio gwasanaethau talu ar ddyfeisiau symudol. Yn wir, disgwylir y bydd systemau biometrig yn rhan safonol o 90% o ddyfeisiau symudol erbyn 2020, gan greu 1.37 triliwn o drafodion talu a thrafodion nad ydynt yn daliadau ar ddyfeisiau symudol.

 

Mae Touch Biometrix yn datblygu dosbarth newydd o synwyryddion olion bysedd i'w defnyddio mewn dyfeisiau electronig fel ffonau clyfar. Bydd platfform Touch Biometrix, sy'n seiliedig ar synwyryddion ac algorithmau a ddyluniwyd gan y cwmni ei hun, yn golygu y bydd modd creu synwyryddion olion bysedd o unrhyw faint neu siâp y bydd yn hawdd eu hintegreiddio â thechnolegau symudol er mwyn cynnig profiad mwy hwylus a diogel i'r defnyddiwr.

 

 

Mae Touch Biometrix yn bwriadu defnyddio technegau cynhyrchu masnachol a fydd yn ei alluogi i gyrraedd y targed o farchnata synwyryddion am $1 yr un erbyn diwedd 2019, gan agor y farchnad ar gyfer defnyddio technoleg fiometrig cost isel mewn ffonau clyfar ym mhob haen o'r farchnad.

 

Sefydlwyd Touch Biometrix yn 2017 a'i nod oedd datblygu'n un o'r 5 prif gyflenwr ym maes synwyryddion olion bysedd erbyn 2023. Mae Touch Biometrix yn datblygu dosbarth newydd o synwyryddion olion bysedd ar gyfer y diwydiant dyfeisiau electronig. Mae Touch Biometrix yn defnyddio ei dechnoleg a'i algorithmau synhwyro ei hun i ddatblygu synwyryddion olion bysedd o unrhyw siâp neu faint sy'n hawdd eu hintegreiddio ag amrywiaeth ehangach o gynhyrchion ac a fydd yn fwy hwylus a chyfleus i ddefnyddwyr. Mae synwyryddion Touch Biometrix yn cael eu gweithgynhyrchu ar blastig neu wydr hyblyg a byddant yn cynnig safon newydd o hwylustod a diogelwch. Gan ddefnyddio model gweithgynhyrchu newydd, bydd synwyryddion olion bysedd Touch Biometrix yn tarfu ar y farchnad oherwydd bod y cwmni’n anelu at gost o $1 yr uned a fydd yn golygu y bydd modd cynnwys y synwyryddion mewn ffonau symudol ym mhob haen o'r farchnad.  

 

Rhagor o wybodaeth am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru

 

Share this page

Print this page