Mae trosiant Pan Stone Europe ar fin taro'r £3 miliwn y flwyddyn ac mae tros 70 y cant o'r trosiant hwnnw'n dod o allforion i Iwerddon ac Ewrop. Â'r cwmni'n derbyn cymorth Rhaglen Cyflymu Twf (AGP) Busnes Cymru, mae'r busnes teuluol wedi cyhoeddi ei fod am anelu at £6miliwn o refeniw erbyn 2121.
 


Mae'r busnes o Wrecsam yn dosbarthu peiriannau mowldiau cywasgu a chwistrellu ar gyfer prosesu rwber, silicon a silicon gwlyb i'r sectorau olew a nwy, awyrofod, modurol a fferyllol. "Mae Pan Stone yn arloesi o hyd ac o hyd i ateb gofynion cwsmeriaid ac mae wedi gwneud llawer o waith ym maes awtomeiddio a roboteg," meddai Stephen Murphy, y Rheolwr Gyfarwyddwr. "Rydyn ni'n buddsoddi yn ein busnes, o ran pobol dalentog a chreu'r systemau a'r prosesau gorau posib. Rydyn ni'n cyflogi naw o bobl ar hyn o bryd ond yn gobeithio cyflogi rhagor o bobol dros y misoedd i ddod.
 


Cafodd y cwmni ei sefydlu chwe mlynedd yn ôl gan Murphy. Mae ei fab Joshua yn un o dechnegwyr gwasanaethu'r cwmni a'i ferch Hannah yw'r gweinyddydd busnes. Gyda thros 30 o flynyddoedd o brofiad yn y diwydiant electroneg a thrydanol, mae Phil Harry wedi'i benodi'n Gyfarwyddwr Gweithrediadau i helpu'r cwmni i dyfu. Mae hyfforddwyr busnes o'r Rhaglen Cyflymu Twf wrthi'n helpu Pan Stone Europe i ail-lunio gwefan y cwmni o ran ei chynnwys a'i deunydd marchnata ac yn datblygu strategaeth PR i godi ymwybyddiaeth am y cwmni yn y sectorau perthnasol.
Y stori wreiddiol dan ofal Grace Nolan, British Plastics.

 

 

Dysgu mwy am Pan Stone Europe

Dysgwch ragor am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru (AGP).

Share this page

Print this page