Mae Radnor Preserves yn blasu llwyddiant mawr ar ôl ennill tair gwobr aur arall mewn cystadleuaeth fwyd nodedig.

 

Yn gwmni o Bowys, mae Radnor Preserves wedi ennill tair Gwobr Aur arall yn y 13eg seremoni y World’s Original Marmalade Awards. Enillodd dair o'r gwobrau gorau yn y diwydiant marmalêd am ei Bara Brith Marmalade with Welsh Rum, ei Lime & Laver Marmalade a'i Smoky Bourbon Marmalade - pob un wedi ennill marciau uchel am eu golwg, eu lliw, eu tewdra, eu harogl a'u blas. Wedi'i ysbrydoli gan thema Cymru ar gyfer 2018 "Blwyddyn y Môr", mae Radnor Preserves wedi creu blasau newydd gwych sy'n cyfuno'r bwydydd traddodiadol Cymreig Bara Brith a Bara Lawr gyda rỳm gwymon â sbeis arloesol gan y Pembrokeshire Beach Company, a halen môr wedi'i fygu gan Halen Môn.

 

Dywedodd Radnor Preserves ei fod yn hynod falch o ennill y gwobrau: "Roeddem am ddathlu'r cysylltiadau rhwng 'Cymru' a 'Cumbria' sy'n tarddu o'r gair Brythonig hynafol sy'n golygu 'cydwladwyr'. Roedd y teyrnasoedd Celtaidd Rheged (yr hen Cumbria) a Phowys yn rhannu ffin yn ystod oes Brenin Arthur. Gan ein bod wedi ennill medalau aur am ein marmalêd yng ngŵyl Cumbria ers 2013, roeddem am ddathlu'r achlysur gyda'r blasau newydd cyffrous hyn. Mae'r Alban yn honni mai hwy greodd y marmalêd cyntaf, ond gallwn ninnau greu marmalêd gwych yma yng Nghymru hefyd!"

 

Cynhaliwyd yr Ŵyl Wobrwyo, sydd bellach yn ddigwyddiad rhyngwladol o bwys, yn y Dalemain Mansions yn Cumbria dros benwythnos 16-17 Mawrth 2018, ar y cyd â Chanolfan Rheged a Penrith Goes Orange. Y nod yw annog pobl i flasu, prynu neu wneud marmalêd. Dywedodd Jane Hasell-McCosh, sylfaenydd y Gwobrau: "Bu'n wych gweld sut y mae hoffter pobl o farmalêd wedi creu cymuned frwdfrydig ledled y byd. Bu'n fraint fawr croesawu cymaint o wneuthurwyr marmalêd i Cumbria i ddathlu marmalêd sydd mor boblogaidd, a bu'n hwyl mawr gweld y tîm yn 'Penrith Goes Orange' yn mynd â'r ŵyl i lefel arall gyda diwrnod gwahanol a chyffrous i'r teulu. Mae canlyniadau'r Gwobrau marmalêd eleni yn Cumbria yn dangos bod marmalêd yn dal i fod yn ffasiynol, a bod pobl nid yn unig ym Mhrydain ond ledled y byd yn hoff ohono." Ychwanegodd: "Llongyfarchiadau i Radnor Preserves am ennill y gwobrau. Mae'n un o garfan gynyddol o gynhyrchwyr crefft bychain sy'n cynnal un o'n traddodiadau gwych ym Mhrydain."

 

 

Cafodd dros 3,000 o botiau marmalêd o ardaloedd cyn belled ag Awstralia, Japan, UDA a De Korea eu hanfon gan gynhyrchwyr crefft ac amaturiaid, i'w beirniadu gan banel nodedig o arbenigwyr marmalêd. Mae’r nod Dalemain ar botiau yn nodi bod y marmalêd o safon eithriadol. Y Gwesteion Arbennig yn yr Ŵyl oedd Cennad Arbennig a Gweinidog Llawnalluog Japan a'r Dirprwy Uwch-gomisiynydd i Lysgennad India, Dinesh Patnaik.

 

Cafodd y World's Original Marmalade Awards & Festival nawdd gan rai o'r enwau mwyaf adnabyddus yn y byd marmalêd - Paddington, Fortnum & Mason, Thursday Cottage a Partridges. Hyd yma mae Dalemain Marmalade Awards & Festival wedi codi dros £220,000 i'r elusen. Yr elusennau hynny sydd i elwa ar ddigwyddiad 2018 yw Hosbis yn y Cartref a Marie Curie yn yr Alban.

 

 

O Farchnadoedd Ffermwyr i Marks & Spencer; Joanna Morgan ddechreuodd  y cwmni Radnor Preserves yng nghanolbarth Cymru. Dechreuodd wneud jamiau a marmalêd pan oedd yn byw mewn bwthyn heb drydan. Cymaint oedd y galw am ei chynnyrch, bu'n eu treialu mewn marchnadoedd ffermwyr lleol yn llwyddiannus iawn, ac mae ganddi bellach enw da am gynhyrchu marmalêd hynod arloesol. Mae'r medalau aur diweddar hyn yn cadarnhau enw da Radnor Preserves fel un o'r gwneuthurwyr marmalêd gorau yn y byd, ac fel un o'r cynhyrchwyr cyffeithiau cartref amlycaf.

 

Roedd Radnor Preserves yn falch o lansio ei farmalêd a enillodd ddwy fedal aur yng Ngwobrau Marmalêd y Byd, sef Smoky Campfire Marmalade, a Pink Gin Marmalade sydd wedi'i wneud â Gin Brecon Botanicals, yn Neuaddau Bwyd Premiwm Marks & Spencer ar draws Ynysoedd Prydain hydref diwethaf. Mae gwerthwyr eraill yn amrywio o Partridges yn Llundain, Fenwick yn Newcastle, i'r siop delicatessen newydd ar y Stryd Fawr yn y Drenewydd; mae hefyd wedi'i weini yn Llysgenadaethau Prydain o Ddulyn i Dubai. 
 

 

 

Dysgu mwy am Radnor Preserves

Dysgwch ragor am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru (AGP).

Share this page

Print this page