Mae ceisiadau ar agor ar gyfer Rhaglen Cyflymu Dechrau Busnes nesaf Busnes Cymru, sef rhaglen deg wythnos gwbl ar-lein a fydd yn rhedeg rhwng dydd Mawrth 30 Medi 2025 a dydd Gwener 12 Rhagfyr 2025. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Llun 15 Medi 2025. Mae’r rhaglen gyflymu wedi ei dylunio’n arbennig ar gyfer entrepreneuriaid yng Nghymru sydd â syniadau busnes twf uchel, gan gynorthwyo eu datblygiad o sicrhau cwsmer cyntaf i baratoi...
Gweithleoedd cynhwysol: Sut maen nhw’n eich helpu chi i recriwtio, cadw a thyfu
Nid dim ond y peth iawn i’w wneud yw creu gweithle amrywiol, hygyrch; mae hefyd yn strategaeth dyfu sydd wedi ennill ei phlwyf. Mae busnesau cynhwysol yn recriwtio o gronfa ddoniau ehangach, yn dal gafael ar staff arbennig, ac yn adeiladu enw da cryfach gyda chwsmeriaid, buddsoddwyr a phartneriaid. Pam mae twf cynhwysol yn gwneud synnwyr busnes Wrth i’ch busnes chi dyfu, bydd angen i chi gael pobl wych i’ch helpu. Os yw eich gwaith...
Cwrdd â’ch Rheolwr Perthnasoedd: Howard Jones, o fod yn entrepreneur i fod yn ymgynghorydd twf
Mae Howard yn hyfforddwr, ymgynghorydd, ac arweinydd busnes profiadol sydd ag arbenigedd ym maes datblygiad sefydliadol a strategaeth twf uchel. Mae’n Gymrawd Siartredig o’r Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu, a dechreuodd ei yrfa yn NatWest cyn symud i rolau uwch yn International Thomson Organization. Yno, lansiodd fenter gyhoeddi a maes o law cyd-sefydlodd fusnes mewn partneriaeth â Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain. Yn un o Reolwyr Perthnasoedd y Rhaglen Cyflymu Twf (RCT), mae’n cynorthwyo cwmnïau uchelgeisiol...
Llunio cynnig sy’n cael effaith: 12 cyngor ar gyfer llunio cynigion i ennill gwobrau
Am godi eich proffil, denu buddsoddiad neu hybu morâl y tîm? Gall ennill gwobrau eich helpu chi i wneud hynny a rhagor. Ond os ydych chi am gyrraedd y rhestr fer, rhaid i chi lunio stori afaelgar sy’n sefyll allan, sy’n taro tant â’r beirniaid, ac sy’n dangos yn union pam mae eich busnes chi’n haeddu cael sylw. Rwy wedi beirniadu nifer o wobrau ac wedi llunio nifer o gynigion buddugol ar gyfer fy musnes...
7 o ffyrdd i barhau’n weladwy mewn chwiliad AI
Mae ymddygiad chwiliadau’n symud. Dyma sut y gall busnesau â’u bryd ar dwf barhau’n gystadleuol mewn byd digidol wedi eu pweru gan offer AI a chwiliadau sgyrsiol. Bellach nid yw chwilotwyr yn dangos dolenni yn unig mewn ymateb i ymholiadau gan ddefnyddwyr. Mae AI Overviews Google, Copilot Bing, a ChatGPT gyda phori amser go iawn wedi eu dylunio i roi atebion sgyrsiol ar unwaith i ddefnyddwyr. O’r herwydd, yn aml caiff defnyddwyr beth y mae...
Cydnabod chwe sylfaenydd arloesol yng Ngwobrau Rhaglen Cyflymu Dechrau Busnes
Roedd hi’n garreg filltir nodedig i entrepreneuriaeth Cymru pan gafodd chwe entrepreneur o bob cwr o Gymru eu cydnabod am eu creadigrwydd, eu heffaith a'u cynnydd ar ôl cwblhau Rhaglen Cyflymu Dechrau Busnes – sef rhaglen ddwys a luniwyd i helpu busnesau newydd sydd â photensial cryf i dyfu’n gyflym. Mae’r Rhaglen Cyflymu Dechrau Busnes, sy’n cael ei darparu dan Raglen Cyflymu Twf (RCT) Busnes Cymru, yn rhoi i sylfaenwyr sy’n dechrau arni yr offer...
Arweiniwch yn glyfrach, tyfwch yn gryfach: Adnoddau hanfodol i roi min ar eich busnes a thyfu gyda phwrpas.
Bob mis, mae ein Rheolwyr Perthnasoedd RCT - arbenigwyr profiadol sy'n gweithio gyda busnesau twf uchel ledled Cymru - yn rhannu eu prif argymhellion. Mae'r adnoddau hyn wedi'u dewis yn ofalus i'ch helpu chi i arwain gyda hyder, tyfu gyda phwrpas, a manteisio ar gyfleoedd newydd wrth lywio'r heriau sy'n unigryw i'ch busnes. Y mis hwn, mae Geraint Hughes, Rheolwr Perthnasoedd RCT ar gyfer gogledd-orllewin Cymru, yn rhannu ei brif ddewisiadau. Gyda ffocws cryf ar...
Pum ffordd y gall AI danio eich gwerthiant e-fasnach
Nid rhywbeth i’r cewri technegol yn unig yw AI erbyn hyn. Mae'n offeryn pwerus, ymarferol ar gyfer busnesau e-fasnach bach a chanolig os ydych chi'n barod amdano. Gyda'r sylfaen gywir, gall AI eich helpu i weithio'n fwy clyfar, syfrdanu'ch cwsmeriaid, a gyrru tyfiant gwerthiant difrifol. Dyma bum ffordd brofedig o ddechrau defnyddio AI heddiw a diogelu eich busnes e-fasnach ar gyfer y dyfodol. 1. Gwnewch eich data’n barod ar gyfer offer AI mwy clyfar Bydd...
Mae diwylliant yn bwysig: Sut i ddenu a chadw’r doniau gorau
Mae’r cyflog yn dal sylw. Diwylliant sy’n selio’r fargen Mae recriwtio a chadw’r bobl iawn yn fwy heriol nag erioed. Mae gan ymgeiswyr medrus opsiynau, ac mae busnesau'n cystadlu nid yn unig ynghylch cyflog ond ynghylch pwrpas, gwerthoedd, a sut mae'n teimlo i weithio yno. Dyna pam mai diwylliant y gweithle sy’n trawsnewid pethau i chi. Nid rhywbeth i’w ddweud er mwyn edrych yn dda ar dudalen gyrfaoedd yw diwylliant cryf, cynhwysol - mae'n gyrru...
Troi heriau economaidd yn dwf strategol
Yng nghynnwrf yr hinsawdd economaidd sydd, nid eithriad yw ansicrwydd - dyna’r rheol. Mae cynnydd cyfraddau llog, chwyddiant parhaus, a tharfu ar y gadwyn gyflenwi yn creu storm berffaith o bwysau ar arweinwyr ym mhob sector. Ond gyda her daw hefyd gyfle; nawr yw'r amser i ailddychmygu eich strategaeth, cryfhau eich systemau, ac adeiladu busnes sy'n ffynnu o dan bwysau. Arweinyddiaeth strategol ar adeg ansicr Bydd arweinwyr sy’n llywio newid, sy’n gyrru arloesedd, ac sy’n...