Mae’r cyflog yn dal sylw. Diwylliant sy’n selio’r fargen
Mae recriwtio a chadw’r bobl iawn yn fwy heriol nag erioed. Mae gan ymgeiswyr medrus opsiynau, ac mae busnesau'n cystadlu nid yn unig ynghylch cyflog ond ynghylch pwrpas, gwerthoedd, a sut mae'n teimlo i weithio yno.

Dyna pam mai diwylliant y gweithle sy’n trawsnewid pethau i chi.

Nid rhywbeth i’w ddweud er mwyn edrych yn dda ar dudalen gyrfaoedd yw diwylliant cryf, cynhwysol - mae'n gyrru ymgysylltiad, yn gwella morâl, ac yn adeiladu teyrngarwch. Pan fydd gweithwyr yn teimlo’n rhan o rywbeth ystyrlon, maen nhw’n aros yn hwy ac yn perfformio’n well.

Pam mae diwylliant yn bwysicach nag erioed
Curiad calon eich busnes chi yw diwylliant y gweithle. Mae’n golygu sut mae’ch gwerthoedd chi’n dod yn fyw trwy ymddygiadau, agweddau a phenderfyniadau pob dydd.

Mae diwylliant cadarnhaol yn hybu cynhyrchiant, bodlonrwydd swydd, ac ymrwymiad. Mae diwylliant gwael yn gwneud y gwrthwyneb, gan fwydo trosiant uchel a niweidio eich brand.

Y cysylltiad diwylliant-recriwtio
Mae ceiswyr swyddi heddiw yn chwilio am fwy na thaleb gyflog. Maen nhw’n chwilio am gyflogwyr sy’n cyd-fynd â’u gwerthoedd a’u nodau hirdymor.

Os bydd eich diwylliant chi’n hyrwyddo arweinyddiaeth dryloyw, datblygiad personol, cydbwysedd gwaith-bywyd, ac amrywiaeth, byddwch chi'n sefyll allan, a bydd pobl yn sylwi.

Hoffech chi ddenu ceisiadau gan ystod ehangach o bobl ddawnus? Peidiwch â chadw’ch diwylliant yn gyfrinachol. Arddangoswch e drwy eich gwefan, y cyfryngau cymdeithasol, a rhwydweithiau lleol.

Pam mae diwylliant yn hollbwysig ar gyfer cadw gweithwyr
Er mwyn cadw pobl arbennig, mae angen mwy na chyflog cystadleuol. Mae gweithwyr yn aros pan deimlan nhw fod pobl yn eu parchu, eu clywed, a’u cefnogi.

Pan yw busnesau’n creu amgylchedd lle gall pobl ffynnu, maen nhw’n adeiladu timau sy’n parhau. Y canlyniad? Ymgysylltiad uwch, llai o weithwyr sy’n gadael, a pherfformiad cryfach.

Creu’r diwylliant yr hoffech chi ei gael: Canllaw fesul cam
Allwch chi ddim ffugio diwylliant, ond fe allwch chi ei lunio. Dyma sut i greu amgylchedd mwy cadarnhaol, cynhwysol:

  1. Diffiniwch eich gwerthoedd ac ewch ati i’w byw
    Angorwch eich tîm â chenhadaeth glir a gwerthoedd cyffredin sy’n llywio penderfyniadau o ddydd i ddydd.

  2. Blaenoriaethwch lesiant
    Cefnogwch eich tîm â gweithio hyblyg, adnoddau iechyd meddwl, a chydbwysedd bywyd-gwaith iach.

  3. Cydnabyddiaeth a gwobrwyo
    Dathlwch lwyddiant, boed yn fawr neu’n fach. Boed yn gymhelliant strwythuredig neu’n air bach o ddiolch, mae gwerthfawrogiad yn bwysig.

  4. Agorwch lwybrau cyfathrebu
    Adeiladwch ddiwylliant o ymddiriedaeth lle mae pobl yn teimlo’n ddiogel i godi llais a rhannu syniadau.

  5. Buddsoddwch mewn twf
    Cynigiwch ddysgu, datblygiad a dilyniant gyrfa i gynnal cymhelliant pobl a’u ffocws ar y dyfodol.

Sut gall RCT gefnogi eich diwylliant gweithle
Rydyn ni’n helpu busnesau Cymru i adeiladu diwylliannau sy'n denu doniau, sy’n ysgogi perfformiad, ac sy’n datgloi llwyddiant hirdymor. Mae ein hyfforddwyr arbenigol a’n Rheolwyr Perthnasoedd yn cynnig cymorth wedi’i deilwra, gan gynnwys:

  • Gweithdai rhyngweithiol ar adeiladu diwylliant gweithle cadarnhaol
  • Arolygon ymgysylltu â gweithwyr ac archwiliadau diwylliannol i ddeall beth sy'n digwydd mewn gwirionedd yn eich busnes chi
  • Datblygiad strategaeth i gydlynu cenhadaeth, gweledigaeth, a gwerthoedd.
  • Hyfforddiant arweinyddiaeth i adeiladu arweinwyr cynhwysol, ysbrydoledig
  • Mentrau ymgysylltu gweithwyr, gan gynnwys rhaglenni llesiant a strategaethau cydnabod
  • Adolygiad a gweithredu polisïau AD i sicrhau bod eich systemau’n cefnogi’r diwylliant a ddymunwch

Yn barod i fynd â’ch diwylliant i’r lefel nesaf?
Siaradwch â’ch Rheolwr Perthnasoedd er mwyn cysylltu â Hyfforddwr a all helpu. Gallwch chi hefyd gysylltu â Lesley Rossiter, Hyrwyddwr Cydraddoldeb a Gwaith Teg RCT, yn Lesley.Rossiter@businesswales.agp.org.

Share this page

Print this page