Skip to main content

Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.

Gwybodaeth am gwcis

Rydym wedi arbed rhai ffeiliau o’r enw cwcis i’ch dyfais. Mae’r cwcis hyn:

  • yn hanfodol i waith y safle
  • yn helpu gwella’n gwefan trwy gasglu gwybodaeth ac adrodd am sut rydych chi’n ei defnyddio

Hefyd, hoffem arbed rhai cwcis i helpu:

  • gwella ein gwefan trwy fesur y defnydd o’n gwefan
  • cofio eich gosodiadau

Newid gosodiadau cwcis

Rydych chi wedi derbyn yr holl gwcis ar gyfer y wefan hon. Gallwch newid eich dewisiadau ar gyfer cwcis unrhyw bryd.

Welsh Government
  • EN
  • CY
Business Wales Home
  • Business Wales Hafan
  • Pencadlys Newyddion
  • Mwy
Business Wales - Accelerated Growth Programme
Toggle navigation
  • Cartref
  • Beth yw'r Rhaglen Cyflymu Twf?
  • A yw fy musnes yn gymwys?
  • Astudiaethau Achos a Newyddion
  • Proffiliau hyfforddwyr twf
  • Cysylltwch â ni
  1. Home
  2. Astudiaethau Achos a Newyddion
  3. Newyddion

Newyddion

LA thumbnail 150x100
Newyddion

Cwmni LIMB-art o Gymru yn cipio Gwobr arobryn Entrepreneuriaid Prydain Fawr

9 December 2020
|

Mae’r cyn-nofiwr Paralympaidd a sylfaenydd cwmni LIMB-art, Mark Williams, wedi ennill Gwobr genedlaethol Ysbryd Entrepreneuraidd 2020 yng Ngwobrau Entrepreneuriaid Prydain Fawr.

Enillodd Mark y wobr yn y Rownd Derfynol Genedlaethol rithwir ddydd Mawrth ac mae’n adeiladu ar yr un teitl a enillodd i Gymru yn y rownd ranbarthol ym mis Medi. Gwobrwywyd yr enillwyr cenedlaethol o grŵp o 135 o sylfaenwyr 110 o fusnesau a fu’n llwyddiannus yn y rowndiau rhanbarthol. Bu’n rhaid cynnal y Rownd Derfynol Genedlaethol ar-lein am y tro cyntaf yn sgil pandemig COVID-19. Mae LIMB-art yn gwmni gweithgynhyrchu a dylunio Prydeinig sydd...
PB Logo thumbnail 150x100
Newyddion

Busnes newydd o Gymru sy’n arbenigo mewn cynhyrchion ecogyfeillgar ar gyfer anifeiliaid anwes, Project Blu, yn sefydlu cytundeb gwerth miliynau o bunnoedd gyda chwmni cyfalaf menter Metamorphosis o’r UDA

25 November 2020
|

Mae Project Blu, busnes newydd o Gymru sy’n arbenigo mewn cynhyrchion ecogyfeillgar ar gyfer anifeiliaid anwes wedi sicrhau cytundeb gwerth miliynau o bunnoedd gyda Metamorphosis o San Diego. Mae Metamorphosis yn gwmni sy’n ymrwymedig i ddeori a chyflymu twf busnesau yn y diwydiant anifeiliaid anwes.

Bydd y cytundeb gwerth miliynau hwn a fydd yn para sawl blwyddyn yn gweld Metamorphosis yn cymryd cyfran o ecwiti yn Project Blu, a sefydlwyd yn 2019 gan Geryn Evans sy’n 35 oed. Y brand anifeiliaid anwes byd-eang cyntaf i gynnig ystod lawn o ategolion cynaliadwy, nod y cwmni yw lleihau gwastraff plastig byd-eang sy'n mynd i'r môr ac effaith amgylcheddol ehangach gweithgynhyrchu cynhyrchion anifeiliaid anwes drwy fanteisio ar decstilau a thechnolegau arloesol. Mae Project...
BW AGP
Newyddion

Saith o gleientiaid y Rhaglen Cyflymu Twf yn cipio Gwobrau Busnesau Newydd Cymru

5 October 2020
|

Mae saith busnes sy'n rhan o Raglen Cyflymu twf Busnes Cymru wedi ennill Gwobrau Busnesau Newydd Cymru.

Cafodd y cwmnïau newydd gorau yng Nghymru eu hanrhydeddu mewn seremoni wobrwyo rithwir ddydd Iau 1 Hydref 2020, ac aeth y prif deitl i Project Blu, brand cynaliadwy ar gyfer anifeiliaid anwes. Mae Project Blu o Gaerdydd yn chwyldroi'r farchnad ategolion anifeiliaid anwes drwy drawsnewid deunyddiau sy’n llygru, gan gynnwys rhwydi pysgota, plastig sy’n mynd i’r môr, gwastraff lledr a dillad wedi'u hailgylchu, yn gynhyrchion anifeiliaid anwes fel gwelyau i gŵn, coleri, tenynnau a theganau...
AGP Logo thumbnail
Newyddion

Pum arweinydd busnes y Rhaglen Cyflymu Twf yn cael eu henwi’n Sêr y Dyfodol gan gylchgrawn Insider

11 August 2020
|

Mae cylchgrawn Insider wedi datgelu ei Sêr y Dyfodol ar gyfer 2020 – unigolion sy’n cael effaith sylweddol ar fusnes ac a fydd yn bendant yn cyflawni llawer mwy yn y dyfodol.

Mae carfan eleni yn cynnwys unigolion o bob cwr o Gymru sy’n gweithredu mewn amrywiaeth o feysydd gan gynnwys bwyd figan, technoleg diogelwch a lletygarwch. Ymhlith y 25 o Sêr y Dyfodol a ddatgelwyd yn llawn yng nghylchgrawn diweddaraf Insider y mae arweinwyr pum busnes sy’n rhan o Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru, sef: Callum Griffith - Clydach Farm Toby White - Market Mate Chris McDermid - MM Engineering Stephanie Locke - Nightingale HQ Emma...
AGP Logo thumbnail
Newyddion

The Business Wales AGP companies responding with action amid the COVID-19 crisis

30 June 2020
|

[Translation pending] While much of the economy has been in shutdown mode during the Coronavirus pandemic, some companies have been helping the NHS and care sector deal with the crisis.

Other firms have secured investment to help push their growth plans and ensure they are well placed to succeed once a recovery is underway.

In the second of our series, we look at the Business Wales AGP companies with much to celebrate, despite the gloom.

Thousands of wash packages delivered by luxury brand Social enterprise The GoodWash Company has quickly become renowned for its quality soaps and skincare. The Barry-based firm – a ubiquitous brand in luxury hotels around the world – has been at the forefront in the national response to coronavirus. It has donated thousands of emergency wash packages, containing shampoo and soap bars, directly to frontline healthcare workers. Software firm’s bright future thanks to a financial boost...
AGP Logo thumbnail
Newyddion

Sut mae cwmnïau sy’n rhan o Raglen Cyflymu Twf Busnes wedi ymateb i’r argyfwng COVID-19

22 June 2020
|

Mae cau rhannau helaeth o’r economi er mwyn diogelu’r GIG yn ystod y pandemig Coronafeirws wedi arwain at rai o’r heriau anoddaf sydd wedi wynebu busnesau erioed.

Ond drwy fod yn arloesol ac yn egnïol, mae llawer o’n cwmnïau wedi llwyddo i ymateb i’r argyfwng. Mae llawer ohonynt wedi gwneud hynny mewn ffyrdd na fyddent wedi credu eu bod yn bosibl.

Mae rhai wedi llwyddo er gwaethaf yr ansicrwydd economaidd sydd ohoni, tra bo eraill wedi dod o hyd i atebion ar gyfer sectorau sydd ymhell y tu hwnt i’w marchnad graidd.

Rydym yn cael cip isod ar gwmnïau sy’n rhan o Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru ac sy’n llwyddo er gwaethaf yr argyfwng sydd ohoni.

Bond Digital Health yn llwyddo i ddenu cyllid ecwiti i helpu i ymladd Covid-19 Mae’r cwmni technoleg iechyd Bond Digital Health wedi denu buddsoddiad enfawr i’w helpu i ddatblygu technoleg profi ar gyfer Covid-19. Llwyddodd y cwmni o Gaerdydd − sy’n rhan o gonsortiwm sy’n cynhyrchu profion diagnostig ar gyfer cleifion yr amheuir bod ganddynt Covid-19 − i gael gafael yn gyflym ar gyllid ecwiti drwy’r Clwb Cyfoeth a Banc Datblygu Cymru. Cafodd y consortiwm...
AGP Logo thumbnail
Newyddion

Rototherm Group, un o gleientiaid y Rhaglen Cyflymu Twf, i gynhyrchu 100,000 o feisorau meddygol yr wythnos ar gyfer y GIG

1 May 2020
|

Mae gweithgynhyrchwr o Bort Talbot wedi dechrau gwneud feisorau meddygol i helpu’r GIG i frwydro yn erbyn pandemig Covid-19.

Mae Rototherm Group, sydd fel arfer yn gweithgynhyrchu offerynnau mesur megis mesuryddion pwysedd a thymheredd, wedi dechrau gwneud y feisorau meddygol mewn ymdrech i sicrhau bod gan y GIG ddigon o gyfarpar diogelu hanfodol. Mae’r cwmni sy’n cyflogi ychydig dros 100 o bobl yn ei ffatri yn Ystad Ddiwydiannol Cynffig ger Margam, wedi dweud bod ganddo ddigon o ddeunydd i gynhyrchu dros 1,500,000 o amddiffynwyr wyneb. Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Rototherm, Oliver Conger: “Mewn cyfnod byr...
AGP Logo
Newyddion

25 o gwmnïau sy’n rhan o Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi’u cydnabod ar restr o 50 cwmni technoleg gorau Cymru

23 April 2020
Mae 25 o gwmnïau, sy’n rhan o Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru, yn ymddangos ar restr BusinessCloud o 50 Cwmni Technoleg gorau Cymru ar gyfer 2020, y nifer mwyaf erioed o gwmnïau o Gymru i ymddangos ar y rhestr. Lluniwyd y rhestr gan gyfuniad o banel beirniadu annibynnol a mwy na 1,300 o bleidleisiau gan ddarllenwyr. Ymhlith cleientiaid y rhaglen i ymddangos ar y rhestr y mae Biopaxium Technologies. Mae’r cwmni o Wrecsam, sy’n cynhyrchu...
AGP Logo
Newyddion

Cleientiaid Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru yn cipio Gwobrau uchel eu bri y Frenhines

22 April 2020
Mae dau o gleientiaid Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi cipio Gwobrau uchel eu bri y Frenhines. Sefydlwyd y gwobrau gyntaf yn 1965, ac maen nhw’n dathlu llwyddiant busnesau cyffrous ac arloesol sy’n arwain y ffordd gyda’u cynhyrchion a gwasanaethau blaengar, yn datblygu rhaglenni symudedd cymdeithasol effeithiol neu’n dangos eu hymrwymiad i arferion datblygu cynaliadwy rhagorol. Eleni mae 220 o fusnesau yn y DU wedi cael eu cydnabod am eu cyfraniadau at fasnach ryngwladol, arloesi...
AGP Logo thumbnail
Newyddion

AGP yn y newyddion wrth iddi greu ei 6000fed swydd.

28 October 2019
|

Mae PillTime, fferyllfa ddigidol o Bont-y-pŵl,  wedi cyrraedd carreg filltir bwysig wrth iddi greu ei 6000fed swydd.

Mae Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru – sy’n cynnig cymorth wedi’i deilwra i fusnesau bach a chanolig sydd am ehangu – wedi creu ei 6000fed swydd. Darllenwch fwy ar Commercial News Media....​ Am ragor o wybodaeth am PillTime, cliciwch yma. Rhagor o wybodaeth ar Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.

Pagination

  • First page « First
  • Previous page <<
  • Tudalen 1
  • Tudalen 2
  • Tudalen 3
  • 4
  • Tudalen 5
  • Tudalen 6
  • Tudalen 7
  • Tudalen 8
  • Next page >>
  • Last page Last »

Categories

  • Astudiaeth Achos
  • Newyddion

Archive

  • July 2025 (1)
  • June 2025 (5)
  • May 2025 (1)
  • April 2025 (4)
  • March 2025 (1)
  • February 2025 (5)
  • December 2024 (1)
  • November 2024 (3)
  • September 2022 (1)
  • June 2022 (1)
  • May 2022 (1)
  • November 2021 (1)

Cysylltwch â ni

Facebook Icon LinkedIn Icon Twitter Icon Youtube Icon Instagram Icon

Tanysgrifio i ebost

Tanysgrifiwch i dderbyn e-gylchlythr

Tanysgrifio

I gael cymorth neu gyngor busnes ffoniwch

03000 6 03000

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg

  • Darganfyddwch fwy Amdanom ni
  • Hygyrchedd
  • Cysylltwch â ni
  • Cwcis
  • Hawlfraint
  • Preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Datganiad Iaith Gymraeg
Llywodraeth Cymru | Welsh Government

Mae'r holl gynnwys ar gael yn Open Government Licence, oni noder yn wahanol

Busnes Cymru. Llywodraeth Cymru © 2025