Enillodd Mark y wobr yn y Rownd Derfynol Genedlaethol rithwir ddydd Mawrth ac mae’n adeiladu ar yr un teitl a enillodd i Gymru yn y rownd ranbarthol ym mis Medi. Gwobrwywyd yr enillwyr cenedlaethol o grŵp o 135 o sylfaenwyr 110 o fusnesau a fu’n llwyddiannus yn y rowndiau rhanbarthol. Bu’n rhaid cynnal y Rownd Derfynol Genedlaethol ar-lein am y tro cyntaf yn sgil pandemig COVID-19.

Mae LIMB-art yn gwmni gweithgynhyrchu a dylunio Prydeinig sydd wedi’i leoli ynghanol harddwch Gogledd Cymru. Mae’n ymrwymedig i greu ‘gorchuddion coes prosthetig mwyaf cŵl y byd’. Sefydlwyd y cwmni yn 2018, gan y cyn-nofiwr ac enillydd medal Paralympaidd, Mark Williams. Deilliodd LIMB-art o’r awydd i helpu defnyddwyr prosthetig eraill i fagu eu hyder, bod yn falch o’r hyn sydd ganddynt, ac yn syml iawn, ond yr un mor bwysig, cael hwyl wrth wneud hynny.

Ers 2018 mae LIMB-art wedi’i gefnogi gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru sy’n darparu cymorth a dargedwyd i fusnesau uchelgeisiol sy’n tyfu. Cafodd y busnes gymorth mentora, marchnata a chysylltiadau cyhoeddus drwy’r rhaglen.

Bellach yn ei wythfed flwyddyn, mae Gwobrau Entrepreneuriaid Prydain Fawr mewn partneriaeth â Starling Bank, yn dathlu gwaith caled a hanesion ysbrydoledig entrepreneuriaid yn y DU, yn hytrach na mantolen y busnes.

 

Mark Williams o LIMB-art
Mark Williams o LIMB-art

 

Dywedodd Mark wrth ennill ei wobr:

“Dw i wrth fy modd i ennill un o’r gwobrau mwyaf arobryn yn y DU. Dw i mor falch o’n busnes LIMB-art a ddechreuodd fel ffordd i mi fynd i’r afael â’m delwedd gorfforol ond a dyfodd yn fusnes sydd bellach yn helpu i fagu hyder pobl ledled y byd a gafodd dorri aelod o’r corff i ffwrdd #sefyllallansefyllynfalch

“Mae’r wobr hon wirioneddol yn ein helpu i roi’r gair ar led a bydd yn hwb inni ymestyn i wledydd eraill yn ystod 2021.”

 

Dywedodd Francesca James, sylfaenydd Gwobrau Entrepreneuriaid Prydain Fawr:

“Hoffwn longyfarch Mark yn wresog iawn. Mae ganddo stori anhygoel o ysbrydoledig, ac er bod safon y gystadleuaeth eleni wedi bod yn eithriadol, mae e’n ymgorfforiad perffaith o’r ysbryd entrepreneuraidd. Aeth ef i’r afael â’i drallod ei hun a’i droi’n rhywbeth wirioneddol gadarnhaol i gynifer o bobl mewn ffordd angerddol a phenderfynol.”

Gan siarad â’r rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol, dywedodd Anne Boden, sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Starling Bank:

Mae’n rhaid imi ddiolch i bob un ohonoch sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol am yr holl waith caled rydych chi wedi’i wneud i gyrraedd lle rydych chi heddiw. Fel Prif Swyddog Gweithredol Starling Bank, rwyf mor falch fod Starling Bank yn noddi’r Gwobrau hyn gan fod entrepreneuriaeth yn rhywbeth gwirioneddol arbennig. Mae’r feirws wedi peri gymaint o loes calon, ond rwyf wedi fy nghalonogi gan eich dyfalbarhad a’ch agwedd benderfynol, fel entrepreneuriaid, i wneud eich gorau glas i oroesi hyn.”



 

Dysgu mwy am LIMB-art.
 

Dysgwch ragor am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru (AGP).

Share this page

Print this page