Mae saith o fusnesau yn cymryd rhan yn Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi cyrraedd rhestr o 100 o gwmnïau newydd llwyddiannus ym Mhrydain. Mae #PowerUp Index newydd Natwest yn dathlu rhai o'r busnesau gorau mwyaf llwyddiannus sy'n cymryd rhan yn eu rhaglen Sbarduno Entrepreneuriaeth. Gwnaethpwyd yr asesiad o gwmnïau newydd sydd o fewn 12 o hybiau sbarduno entrepreneuriaid Natwest ledled y DU, sy'n cynnig mentora a hyfforddi wedi'i ariannu'n llawn i entrepreneuriaid sydd am...
Pum cwmni AGP gynwysedig rhestr 35 dan 35 Wales Online
Yr bobl ifanc fusnes a phroffesiynol orau yn Gymru am 2019, rhestr a lluniwyd gan Wales Online, yn cynnwys 5 busnes ar y Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru ag yn cynnwys Doopoll, Coaltown Coffee, Kaydiar, Clydach Farm Group Ltd a Delio Wealth… darllenwch mwy Dysgwch ragor am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru (AGP).
Gallai syniad entrepreneur ifanc helpu miliynau o bobl ledled y byd sydd ag wlseri ar eu traed oherwydd clefyd y siwgr.
Mae gan dechnoleg a ddatblygwyd gan fyfyriwr gradd mewn prifysgol yng Nghymru y potensial i helpu miloedd o gleifion clefyd y siwgr sydd ag wlseri ar eu traed. Roedd David Barton, cyd-sylfaenydd a chyfarwyddwr Kaydiar, yn astudio meddygaeth podiatreg ym Mhrifysgol Met Caerdydd pan greodd y ddyfais ac y mae bellach wedi cael cefnogaeth cwmni mawr amlwladol. Y gobaith yw y bydd y ddyfais sy'n cael ei rhoi yn esgid y claf, yn helpu degau...
Ehangu busnes yng Nghymru wrth i Totally Welsh brynu dwy ganolfan "Milk & More".
Mae Cyfarwyddwyr Totally Welsh yn falch iawn o gyhoeddi y byddant, ddydd Llun 29ain Ebrill, yn derbyn perchnogaeth lawn a hawliau rheoli canolfannau cyflenwi llefrith ar garreg y drws yn Abertawe a Chaerdydd. Mae Milk & More yn wasanaeth cyflenwi llaeth ar garreg y drws ledled De Cymru a thu hwnt, ac mae ganddynt gynnyrch o safon sy'n amrywio o fwydydd ffres i gynnyrch cartref. Mae'r busnes wedi cynnig gwasanaeth dibynadwy, sy'n cael ei ganmol...
Gwobr y Frenhines am Arloesi i gwmni gweithgynhyrchu uwchdechnoleg o Gymru
Mae technoleg arloesol sy’n cael ei datblygu gan gwmni sy’n tyfu’n gyflym yng Nghymru yn cael ei defnyddio i helpu i wneud cynnyrch manwl gywir sy’n ceisio achub bywydau – ac mae’r cwmni wedi ennill Gwobr y Frenhines am Arloesi i gydnabod ei waith. Mae Laser Wire Solutions, yn Ystad Ddiwydiannol Trefforest Rhondda Cynon Taf, yn datblygu technoleg arloesol ar gyfer stripio a chysylltu gwifrau gwerth uchel arbenigol – a ddefnyddir gan fwyaf i weithgynhyrchu...
5,000 o swyddi wedi cael eu creu bellach gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru
Mae Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi bod yn llwyddiannus dros ben ers ei dechrau yn 2015, a gwnaeth gyrraedd y garreg filltir bwysig hon wrth i Tiago Szabo, sy’n weithiwr ffatri, ddechrau gweithio ar safle 25,000 troedfedd sgwâr cwmni Hi-Mark yn Wrecsam. Mae’r cwmni’n dylunio ac yn gwneud cynhyrchion ar gyfer y diwydiant modurol. Roedd Gweinidog yr Economi, Ken Skates, yn y ffatri i weld faint mae’r cwmni wedi tyfu ac i gwrdd â...
75% o fusnesau sy'n tyfu gyflymaf yng Nghymru wedi derbyn cymorth gan Lywodraeth Cymru
Mae'r rhestr 50 Twf Cyflym, sy'n cael ei gyhoeddi'n flynyddol ers 1999, ac sy'n cael ei baratoi gan yr Athro Dylan Jones-Evans OBE, yn dathlu'r busnesau sy'n tyfu gyflymaf yng Nghymru. Ers 1999 amcangyfrifir bod dros 600 o gwmnïau wedi creu £20 biliwn o drosiant bob blwyddyn, gan greu 40,000 o swyddi. O'r 50 Twf Cyflym, cafodd 38 o gwmnïau eu cefnogi gan raglen gymorth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru, sy'n cael ei hariannu ar y...
Cwmni technoleg gwybodaeth yn Llandudno yn tyfu’n gyflym ar ôl cael ei achub
Mae cwmni technoleg gwybodaeth blaenllaw wrth ei fodd ar ôl i’w weithlu a’i drosiant gynyddu bob blwyddyn ers iddo gael ei brynu. Mae disgwyl hefyd i bethau barhau i wella gan fod Risc IT Solutions yn Llandudno am recriwtio tri aelod newydd o staff a phrynu cwmni arall er mwyn ehangu’n bellach yn y Deyrnas Unedig. Gan siarad yn Church Walks, pencadlys godidog y cwmni, dywedodd pennaeth y cwmni, Jeremy Keane, fod y cwmni, sy’n...
Entrepreneur tybiau twym yn ennill gwobr fusnes fyd-eang
Mae dyn busnes wedi ennill gwobr fusnes fyd-eang uchel ei pharch. Rhoddwyd gwobr Entrepreneur Rhagorol i Gareth Jones, sylfaenydd UK Leisure Living, yn seremoni Gwobrau Rhagoriaeth Busnes Byd-eang 2018. Cafodd Mr Jones, ag iddo gwmnïau yng Nghonwy a Chaer, ei wobrwyo am fod yn entrepreneur llwyddiannus dros y chwe blynedd ddiwethaf. Dywedodd y beirniaid: “Mae Gareth Jones yn entrepreneur sydd wrthi’n ddi-baid yn gweithio ar syniadau newydd. Ers ennill y teitl Cyfarwyddwr Ifanc y Flwyddyn...