Bydd y cytundeb gwerth miliynau hwn a fydd yn para sawl blwyddyn yn gweld Metamorphosis yn cymryd cyfran o ecwiti yn Project Blu, a sefydlwyd yn 2019 gan Geryn Evans sy’n 35 oed. Y brand anifeiliaid anwes byd-eang cyntaf i gynnig ystod lawn o ategolion cynaliadwy, nod y cwmni yw lleihau gwastraff plastig byd-eang sy'n mynd i'r môr ac effaith amgylcheddol ehangach gweithgynhyrchu cynhyrchion anifeiliaid anwes drwy fanteisio ar decstilau a thechnolegau arloesol.

Mae Project Blu, a enillodd dair Gwobr Busnesau Newydd Cymru yn ddiweddar, wedi gwerthu dros 87,000 o gynhyrchion a wnaed o dros chwe miliwn o boteli plastig ers ei sefydlu, gan gynnig amrywiaeth o denynnau, harneisiau a gwelyau i deganau ar gyfer anifeiliaid anwes. Ers ei lansio yn arddangosfa Zoomark yn Bologna, yr Eidal, ym mis Mai 2019, mae'r cwmni wedi sicrhau cytundebau stoc yn y DU gyda'r manwerthwyr John Lewis a Joules ac mae'n gwerthu'n uniongyrchol i ddefnyddwyr drwy ei blatfform e-fasnach.

Cynorthwywyd y cwmni gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru (AGP) sy'n darparu cymorth wedi'i dargedu ar gyfer cwmnïau uchelgeisiol sy'n tyfu. Ariennir y rhaglen yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

 

Mae Project Blu hefyd wedi gwneud argraff yn rhyngwladol gyda'r cwmni sydd ar flaen y gad yn fyd-eang o ran iechyd a maeth anifeiliaid anwes, Mars Petcare, yn buddsoddi $200,000 yn y busnes ac yn rhoi lle i'r cwmni ar raglen cyflymu twf Leap Venture Studio yn Los Angeles.

Bydd ei gytundeb diweddaraf yn caniatáu i'r cwmni fanteisio ar arbenigedd tîm Metamorphosis o arbenigwyr ac entrepreneuriaid sydd â hanes profedig o adeiladu busnesau yn y diwydiant anifeiliaid anwes gwerth $90 Biliwn sy'n ehangu o hyd. Cenhadaeth ddatganedig Metamorphosis yw "creu gwerth eithriadol i randdeiliaid a chleientiaid drwy greu, gweithredu, cyflymu a marchnata'r lefel nesaf o gynnwys, rhwydweithiau cyfryngau, cynhyrchion a gwasanaethau mewn perthynas ag anifeiliaid anwes."

 

Sylfaenydd Project Blu Geryn Evans  |  Ci hapus ar wely Project Blu.
Sylfaenydd Project Blu Geryn Evans | Ci hapus ar wely Project Blu.

 

Yn ôl Mr Evans, bydd y bartneriaeth yn newid pethau'n llwyr wrth i'r cwmni anelu at ehangu yn yr Unol Daleithiau a marchnadoedd rhyngwladol eraill.

"Mae Prosiect Blu yn ymwneud â sbarduno newid cadarnhaol mewn diwydiant a oedd yn barod i addasu. Ein nod yw profi y gall brandiau anifeiliaid anwes fod yn gynaliadwy, yn steilus ac yn broffidiol ar raddfa fyd-eang, a bydd y bartneriaeth hon yn rhan hanfodol o'n cynllun i ehangu i nifer o farchnadoedd rhyngwladol yn 2021. 

"Mae'r diwydiant anifeiliaid anwes yn farchnad sy'n tyfu ac yn un sy'n gallu gwrthsefyll dirwasgiad. Mae cynaliadwyedd yn un o'r tueddiadau mwyaf sy'n dod i'r amlwg i berchnogion anifeiliaid anwes sy'n fwyfwy ymwybodol o sut y caiff cynhyrchion eu gwneud ac i ble yr ânt ar ôl cael eu defnyddio. Rydym yn hynod gyffrous am weithio mewn partneriaeth ag un o'r chwaraewyr mwyaf yn y farchnad, ac rydym yn edrych ymlaen at fanteisio ar wybodaeth ac arbenigedd tîm Metamorphosis i adeiladu ein brand ym marchnad broffidiol Gogledd America a thu hwnt."

 

Dechreuodd Mr Evans ei yrfa yn y fasnach dylunio dodrefn, lle dyluniodd sawl cynnyrch technoleg integredig ar gyfer manwerthwyr mawr. Fe'i hysbrydolwyd gan gydweithrediad rhwng Adidas, brand chwaraeon rhyngwladol o’r Almaen, a "Parley for the Oceans", sefydliad sy'n mynd i'r afael â bygythiadau amgylcheddol a achosir gan lygredd plastig yn y cefnforoedd. Fel rhywun sy'n berchen ar anifail anwes, sylweddolodd fod y diwydiant wedi bod yn araf i ymateb i bryderon defnyddwyr ynghylch cynaliadwyedd a phenderfynodd fynd i'r afael â'r bwlch hwn drwy droi deunyddiau llygru yn welyau, tenynnau a theganau anifeiliaid anwes o ansawdd uchel.

Gan ddisgrifio ei hun yn "obsesiynol" ynghylch dod o hyd i ffyrdd newydd o gyfuno arloesedd a thechnoleg tecstilau i greu cynhyrchion cynaliadwy sydd wedi'u cynllunio'n hyfryd, mae Mr Evans bellach yn bwriadu lansio ystod 'rhwyd bysgota ysbrydol' i fynd i'r afael â phroblem offer pysgota a gaiff ei waredu yn y cefnforoedd. Amcangyfrifir bod dros 640,000 tunnell o offer pysgota yn cael ei golli neu ei waredu yn y cefnforoedd bob blwyddyn, heb ymdoddi am ganrifoedd ac yn risg sylweddol i fywyd morol. Mae'r cwmni hefyd yn bwriadu lansio amrywiaeth o gynhyrchion gan ddefnyddio lledr afalau; dewis amgen ecogyfeillgar i ledr arferol wedi'i wneud o grwyn afalau wedi'u taflu sy’n hanu o alpau'r Eidal.

Ers ymuno ag AGP yn 2019, mae Project Blu wedi cael ei fentora a chael cyngor arbenigol ar ddadansoddi'r farchnad, ariannu a chynllunio ar gyfer twf. Mae'r gefnogaeth hon wedi bod yn "amhrisiadwy" yn ôl Mr Evans.

"Fel cwmni darbodus, mae wedi bod yn amhrisiadwy cael cefnogaeth ein rheolwr cysylltiadau ac arbenigwyr eraill. Mae'r cyngor a'r arbenigedd yr ydym wedi gallu cael gafael arnynt wedi fy helpu i lywio'r peryglon, yr heriau a'r cyfleoedd sy'n dod gyda thyfu brand o'r newydd.

"Rydym yn ddiolchgar iawn am y gwasanaeth a gawsom gan Raglen Cyflymu Twf  Busnes Cymru a byddem yn ei hargymell i unrhyw fusnes sy'n awyddus i gynyddu a thyfu."


Dywedodd Richard Morris o'r Consortiwm Excelerator, sy'n darparu Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru:

"Mae wedi bod yn wych gweld Project Blu yn dod mor bell mewn cyfnod mor fyr, ac mae ei gytundeb â Metamorphosis yn dilysu ei gysyniad arloesol ymhellach. Mae'r cwmni'n enghraifft wych o fusnes Cymreig yn darparu atebion i un o'r problemau amgylcheddol mwyaf arwyddocaol sy'n wynebu ein planed heddiw. 

"Mae llwyddiant y tîm yn haeddiannol, a gallwn ni yng Nghymru fod yn falch iawn o sut mae'r cwmni bach hwn yn arwain y ffordd yn yr ymdrech i sbarduno cynaliadwyedd mewn marchnad sydd wedi bod yn araf yn y gorffennol i ymateb i'r her."


 

Dysgu mwy am Project Blu.
 

Dysgwch ragor am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru (AGP).

Share this page

Print this page