O bryd i’w gilydd mae angen i’r cwmnïau mwyaf uchelgeisiol sy’n tyfu, hyd yn oed, wneud rhywbeth ychydig yn wahanol er mwyn sicrhau busnes mewn amgylchedd byd-eang cystadleuol. Mae Amplyfi, sydd â’i bencadlys yng Nghaerdydd, yn enghraifft wych o’r gwaith caled mae angen ei wneud yn aml er mwyn sicrhau bod cwmni’n meddu ar y fantais gystadleuol sydd ei hangen arno i lwyddo . Mae Amplyfi wedi cael cefnogaeth drwy Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru...
Sut mae un cwmni cyfreithiol o Gymru wedi rhoi iechyd meddwl a thosturi tuag at bobl wrth wraidd ei weithrediadau – gan roi hwb i gynhyrchiant a chadw staff.
Yn gynyddol, mae arweinwyr busnes yn deall bod iechyd meddwl gweithlu yn hanfodol i les busnes. I Ron Davison, rheolwr gyfarwyddwr Gamlins Law yn y gogledd, mae dealltwriaeth reddfol o'r ffaith honno, a welwyd o safbwynt personol iawn, wedi gweld y cwmni'n datblygu cefnogaeth ar gyfer iechyd meddwl i'w staff mewn swyddfeydd ar draws y gogledd, sy'n arwain y diwydiant. Cefnogwyd Gamlins Law drwy Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru (AGP). Mae'r AGP yn darparu cefnogaeth...
Mae Forever Mortal yn cynnig atebion arloesol ar gyfer diogelu gwaddolion ar-lein mewn ffyrdd na welwyd erioed o’r blaen.
Mae ein hôl troed yn codi cwestiwn difyr. Beth ydych chi’n ei wneud – neu’n bwysicach, beth mae eich teulu a’ch anwyliaid yn ei wneud – gyda’ch ôl troed digidol ar ôl ichi farw? Mae dyddiau’r albwm ffotograffau llychlyd ar ben; bydd y rhan fwyaf ohonom yn berchen ar ffôn symudol o’r chweched genhedlaeth erbyn hyn, gyda phob dyfais yn llawn atgofion, fideos a ffotograffau – degau o filoedd ohonynt o bosib. Beth wnewch chi...
Stori cwmni meddalwedd sydd wedi tyfu’n gyflym
Ers ei sefydlu, mae Codiance wedi tyfu i fod yn gwmni meddalwedd uchel ei barch. Mae’r busnes yn tyfu’n gyflym, gan thri aelod newydd wedi ymuno â’r tîm fis yma. Mae’r cwmni’n dechrau ar gyfnod newydd o dwf, diolch i Raglen Cyflymu Twf (AGP) Busnes Cymru. I Codiance, ei staff, ei sylfaenydd a’i gwsmeriaid, mae hynny’n golygu bod dyfodol cyffrous o’u blaenau. Mae’r AGP yn darparu cymorth i fusnesau uchelgeisiol ac yn cael cyfran o’i...
Partner blaenllaw ar gyfer datblygu meddyginiaethau’n tyfu’n gyflym, yn sgil arloesi a buddsoddi yn ei phobl
Wrth i dechnoleg feddygol ddatblygu, mae’r sector fferyllol yn allweddol i ddarparu swyddi o ansawdd uchel sy’n talu’n dda – gan gadw’r goreuon yn y wlad a denu talentau o wledydd eraill y DU a’r byd. Un busnes blaenllaw yn sector fferyllol Cymru yw CatSci, o Gaerdydd, a eginodd o gwmni sy’n ymgorfforiad bellach o bopeth mae meddygaeth fodern yn ei olygu, yn enwedig y frwydr yn erbyn Covid-19 – AstraZeneca. Mae CatSci wedi cael...
Cwmni gofal iechyd yn Wrecsam sy'n defnyddio dulliau darbodus i feithrin diwylliant o gydweithio ac arloesi.
Mae cwmni yn fwy na'r hyn y mae'n ei gynhyrchu neu'r gwasanaeth y mae'n ei ddarparu. Y staff sydd wrth wraidd pob busnes, ac mae’r diwylliant y mae pobl yn gweithio ynddo yn ysgogi ymddygiadau a chanlyniadau. Yn Healthcare Matters – sef cwmni yn Wrecsam sy'n darparu eitemau megis lifftiau grisiau, matresi arbenigol ac amrywiaeth o eitemau gofal iechyd pwrpasol – daeth hyn i'r amlwg yn ystod pandemig COVID-19. Gan arfer dull chwilfrydig ac agored...
Sut mae Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi helpu brand ffasiwn newydd cyffrous sy’n dathlu treftadaeth y sylfaenydd.
I Haitham Shamsan, mae ei fusnes yn cwmpasu popeth y mae'n teimlo’n angerddol amdano – dylunio, diwylliant a chyfrifoldeb. Dyna yw hanfod ei frand ffasiwn newydd, Double Crossed – cwmni o Gaerdydd sydd am fynd ymhell. Mae Double Crossed wedi cael cymorth drwy Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru. Mae'r Rhaglen yn darparu cymorth wedi'i dargedu ar gyfer cwmnïau uchelgeisiol sy’n awyddus i dyfu. Mae’r rhaglen yn cael ei hariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop...
Cwmni dillad chwaraeon cynaliadwy ar fin cymryd cam mawr ymlaen mewn sector cystadleuol.
Mae mwy a mwy o ddewisiadau eraill yn hytrach na ffasiwn cyflym prif ffrwd ar gyfer y rhai sy'n chwilio am wardrob sy'n seiliedig ar gynaliadwyedd. Ac eto, gall dod o hyd i offer hyfforddi ecogyfeillgar fod yn anoddach i'r rhai sy'n chwilio am ddillad athletaidd. Nawr, mae brand Cymreig wedi’i lansio i gyflenwi cit i redwyr sy'n edrych ac yn teimlo'n dda ac sy'n dda i'r blaned. Mae Dryad yn y Fenni wedi cael...
Dyfodol disglair ar y gorwel i gwmni hyfforddi wrth ddod allan o’r pandemig.
Mae ysbrydoli, addysgu ac arfogi'r genhedlaeth nesaf o weithwyr medrus wrth wraidd 4D Academy. Cafodd y darparwr hyfforddiant ym Mhont-y-clun ei ffurfio pan welodd y partneriaid busnes Mark Davies a Christopher Saunders yr angen am fath newydd o hyfforddiant i fusnesau. Ar ôl dod drwy'r pandemig yn gryfach, mae 4D Academy bellach yn edrych ymlaen at ddyfodol cyffrous. Mae 4D Academy wedi cael cymorth Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru (AGP). Mae'r Rhaglen Cyflymu Twf yn...
Y cwmni technoleg newydd sydd am ein helpu i fyw bywydau iachach a hapusach.
Mae deall yr effaith y mae dewisiadau bwyta’n eu cael ar iechyd, a’r ffyrdd unigryw iawn y gall y dewisiadau hynny effeithio ar wahanol bobl, yn rhan gynyddol o wella iechyd a llesiant. Bellach, mae’r entrepreneuriaid David Haines a Julian Shapley wedi datblygu meddalwedd gan ddefnyddio dealltwriaeth fiolegol er mwyn helpu defnyddwyr i addasu cynlluniau bwyd ar gyfer eu ffyrdd eu hunain o fyw – gan eu galluogi i ddeall sut a pham eu bod...