Gall fod sawl ffactor sy’n ysgogi rheolwyr i brynu’r cwmni (MBO) y maent yn gweithio iddo. Roedd yr hyn a ysgogodd y tîm arwain yn Minerva, gwneuthurwyr mowldiau clust wedi’u teilwra o Gaerdydd, i wneud hynny yn glir, sef sicrhau dyfodol disglair i’r busnes. Ers cwblhau’r MBO yn llwyddiannus yn 2017, mae Minerva wedi bod ar ei ennill drwy dyfu a buddsoddi yn ei waith ymchwil a ddatblygu i sicrhau ei fod ar flaen y...
Yr entrepreneur heb ei ail sy'n gobeithio gwneud ynni adnewyddadwy yn fwy cynaliadwy byth.
Wrth inni symud tuag at sector ynni sy'n defnyddio rhagor o ynni adnewyddadwy, mae'n bosibl hefyd y bydd cyfleoedd i wella a diogelu ein byd naturiol hefyd. Dyna beth mae arweinydd busnes o Sir Benfro yn gobeithio ei ddatblygu wrth iddo arwain ymchwil i gynhyrchu ynni ar y môr a'r ffordd y gall ddiogelu planhigion ac anifeiliaid brodorol. Mae Jonathan Williams wedi bod yn gweithio gyda'r Rhaglen Cyflymu Twf Gwyrdd i archwilio ei syniadau. Cafodd...
Mae cael achrediad ISO yn allweddol i uchelgeisiau rhyngwladol cwmni meddalwedd.
O bryd i’w gilydd mae angen i’r cwmnïau mwyaf uchelgeisiol sy’n tyfu, hyd yn oed, wneud rhywbeth ychydig yn wahanol er mwyn sicrhau busnes mewn amgylchedd byd-eang cystadleuol. Mae Amplyfi, sydd â’i bencadlys yng Nghaerdydd, yn enghraifft wych o’r gwaith caled mae angen ei wneud yn aml er mwyn sicrhau bod cwmni’n meddu ar y fantais gystadleuol sydd ei hangen arno i lwyddo . Mae Amplyfi wedi cael cefnogaeth drwy Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru...
Sut mae un cwmni cyfreithiol o Gymru wedi rhoi iechyd meddwl a thosturi tuag at bobl wrth wraidd ei weithrediadau – gan roi hwb i gynhyrchiant a chadw staff.
Yn gynyddol, mae arweinwyr busnes yn deall bod iechyd meddwl gweithlu yn hanfodol i les busnes. I Ron Davison, rheolwr gyfarwyddwr Gamlins Law yn y gogledd, mae dealltwriaeth reddfol o'r ffaith honno, a welwyd o safbwynt personol iawn, wedi gweld y cwmni'n datblygu cefnogaeth ar gyfer iechyd meddwl i'w staff mewn swyddfeydd ar draws y gogledd, sy'n arwain y diwydiant. Cefnogwyd Gamlins Law drwy Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru (AGP). Mae'r AGP yn darparu cefnogaeth...
Mae Forever Mortal yn cynnig atebion arloesol ar gyfer diogelu gwaddolion ar-lein mewn ffyrdd na welwyd erioed o’r blaen.
Mae ein hôl troed yn codi cwestiwn difyr. Beth ydych chi’n ei wneud – neu’n bwysicach, beth mae eich teulu a’ch anwyliaid yn ei wneud – gyda’ch ôl troed digidol ar ôl ichi farw? Mae dyddiau’r albwm ffotograffau llychlyd ar ben; bydd y rhan fwyaf ohonom yn berchen ar ffôn symudol o’r chweched genhedlaeth erbyn hyn, gyda phob dyfais yn llawn atgofion, fideos a ffotograffau – degau o filoedd ohonynt o bosib. Beth wnewch chi...
Stori cwmni meddalwedd sydd wedi tyfu’n gyflym
Ers ei sefydlu, mae Codiance wedi tyfu i fod yn gwmni meddalwedd uchel ei barch. Mae’r busnes yn tyfu’n gyflym, gan thri aelod newydd wedi ymuno â’r tîm fis yma. Mae’r cwmni’n dechrau ar gyfnod newydd o dwf, diolch i Raglen Cyflymu Twf (AGP) Busnes Cymru. I Codiance, ei staff, ei sylfaenydd a’i gwsmeriaid, mae hynny’n golygu bod dyfodol cyffrous o’u blaenau. Mae’r AGP yn darparu cymorth i fusnesau uchelgeisiol ac yn cael cyfran o’i...
Partner blaenllaw ar gyfer datblygu meddyginiaethau’n tyfu’n gyflym, yn sgil arloesi a buddsoddi yn ei phobl
Wrth i dechnoleg feddygol ddatblygu, mae’r sector fferyllol yn allweddol i ddarparu swyddi o ansawdd uchel sy’n talu’n dda – gan gadw’r goreuon yn y wlad a denu talentau o wledydd eraill y DU a’r byd. Un busnes blaenllaw yn sector fferyllol Cymru yw CatSci, o Gaerdydd, a eginodd o gwmni sy’n ymgorfforiad bellach o bopeth mae meddygaeth fodern yn ei olygu, yn enwedig y frwydr yn erbyn Covid-19 – AstraZeneca. Mae CatSci wedi cael...
Cwmni gofal iechyd yn Wrecsam sy'n defnyddio dulliau darbodus i feithrin diwylliant o gydweithio ac arloesi.
Mae cwmni yn fwy na'r hyn y mae'n ei gynhyrchu neu'r gwasanaeth y mae'n ei ddarparu. Y staff sydd wrth wraidd pob busnes, ac mae’r diwylliant y mae pobl yn gweithio ynddo yn ysgogi ymddygiadau a chanlyniadau. Yn Healthcare Matters – sef cwmni yn Wrecsam sy'n darparu eitemau megis lifftiau grisiau, matresi arbenigol ac amrywiaeth o eitemau gofal iechyd pwrpasol – daeth hyn i'r amlwg yn ystod pandemig COVID-19. Gan arfer dull chwilfrydig ac agored...
Sut mae Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi helpu brand ffasiwn newydd cyffrous sy’n dathlu treftadaeth y sylfaenydd.
I Haitham Shamsan, mae ei fusnes yn cwmpasu popeth y mae'n teimlo’n angerddol amdano – dylunio, diwylliant a chyfrifoldeb. Dyna yw hanfod ei frand ffasiwn newydd, Double Crossed – cwmni o Gaerdydd sydd am fynd ymhell. Mae Double Crossed wedi cael cymorth drwy Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru. Mae'r Rhaglen yn darparu cymorth wedi'i dargedu ar gyfer cwmnïau uchelgeisiol sy’n awyddus i dyfu. Mae’r rhaglen yn cael ei hariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop...
Cwmni dillad chwaraeon cynaliadwy ar fin cymryd cam mawr ymlaen mewn sector cystadleuol.
Mae mwy a mwy o ddewisiadau eraill yn hytrach na ffasiwn cyflym prif ffrwd ar gyfer y rhai sy'n chwilio am wardrob sy'n seiliedig ar gynaliadwyedd. Ac eto, gall dod o hyd i offer hyfforddi ecogyfeillgar fod yn anoddach i'r rhai sy'n chwilio am ddillad athletaidd. Nawr, mae brand Cymreig wedi’i lansio i gyflenwi cit i redwyr sy'n edrych ac yn teimlo'n dda ac sy'n dda i'r blaned. Mae Dryad yn y Fenni wedi cael...