Mae cwmni cymorth TG Metalogic wedi bod yn darparu arbenigedd a chymorth i fusnesau bach ers 2003. Symudodd y busnes, a sefydlwyd ac a arweinir gan Mike Parfitt, i gyfnod lle y caniatawyd iddo ehangu wrth i'r wasgfa gredyd daro, pan wnaeth y cyfnod orfodi cwmnïau i archwilio sut y gallent wneud arbedion effeithlonrwydd. Ers hynny mae'r cwmni wedi mwynhau twf pellach, gan ehangu ei weithlu ac ennill cleientiaid newydd. Mae’r cwmni wedi cael cymorth...
Darparwr gofal yn ceisio darparu gwasanaeth o ansawdd uchel ar gyfer preswylwyr yn Wrecsam
Mae gofal o ansawdd uchel yn hwyrach mewn bywyd yn bwysig i bawb, ac i Orchard Care, sy’n berchen ar ddau gartref yn ardal Wrecsam, mae darparu gofal o ansawdd uchel ar gyfer eu preswylwyr yn ganolog i’w ethos. Pan ymunodd Dave a Gemma Atkins â’r sector yn 2009, gwelon nhw ar unwaith yr angen am ddarpariaeth gofal o ansawdd uchel yn Wrecsam, ac roedden nhw’n ceisio rhoi’r ansawdd bywyd gorau posibl i’r rheini a...
I QuoteOnSite, cwmni fintech o Abertawe, datrys problemau busnesau eraill yw hanfod eu cynnig.
Wedi’i sefydlu gan TJ Amas o Nigeria, mae QuoteOnSite yn darparu cyfres unigryw o feddalwedd rheoli dyfynbrisiau yn y cwmwl. Mae’n caniatáu i reolwyr-berchnogion busnesau ddatblygu a chynnig dyfynbrisiau proffesiynol er mwyn tyfu eu busnes. I fusnesau bach a chanolig, a busnesau mwy, mae’r feddalwedd yn ei gwneud hi’n bosib rheoli timau sy’n rhan o’r broses gosod pris. Er ei bod yn ddyddiau cynnar ar y busnes o hyd, mae wedi denu amrywiaeth o gleientiaid...
Trosiant o fwy na £3 miliwn gan gwmni diogelwch, a’i fryd ar ragor o dwf
Sicrhau bod busnesau eraill, a phobl, yn parhau'n ddiogel sydd wrth wraidd yr hyn y mae Parallel Security o Wrecsam yn ei wneud. Mae'r cwmni, a sefydlwyd gan y rheolwr gyfarwyddwr Francis Johnson yn 2014, wedi tyfu cryn dipyn ers iddo ddechau rhyw chwe blynedd yn ôl. Â’i gynllun uchelgeisiol i ehangu hyd yn oed yn fwy, mae'r busnes yn mwynhau cyfnod cyffrous. O ddarparu goruchwylwyr wrth y drws i waith diogelwch a glanhau masnachol...
Hanes cwmni dŵr mwynol o Gymru sydd bellach yn un o frandiau mwyaf poblogaidd y DU.
O ddechrau di-nod ar fferm deulu i fod yn un o frandiau dŵr mwynol mwyaf poblogaidd y DU – mae hanes Radnor Hills yn un cyffrous, a stori o lwyddiant i Gymru sy’n destun balchder. Mae’r busnes wedi sicrhau ei fod mewn sefyllfa i fanteisio ar y twf yn y sector diodydd ysgafn, ac wedi ennill llawer o gontractau uchel eu proffil ar y ffordd. Yma mae Penny Butler o Radnor Hills yn egluro sut...
Y partneriaid busnes – staff yn troi’n berchenogion ar ôl prynu’r cwmni
Mae entrepreneuriaeth yn fwy na jest dechrau busnes newydd. Weithiau, mae’n golygu cymryd awenau’r cwmni rydych eisoes yn gweithio ynddo a mynd ag e’ ar daith newydd. Un ffordd o ddefnyddio sgiliau ac arbenigeddau cwmni er mwyn gwireddu ei botensial yw trwy i’r gweithwyr eu hunain brynu’r cwmni. I Vikki Byrne a Lydia Owen, rheolwyr a brynodd OSP Healthcare, roedd hyn yn her a hanner. Dyma hanes OSP Healthcare gan y partneriaid busnes, gydag esboniad...
Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru yn hybu llwyddiant cwmni argraffu
Mae cynllunio twf ar gyfer busnes yn hollbwysig, ac mae cwmni argraffu o Gaerffili wedi cyflawni hyn drwy gaffael doeth. Gyda chymorth ac arbenigedd Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru, mae CPS wedi dod yn gwmni llwyddiannus sy’n datblygu. Dechreuodd hyn i gyd oherwydd bod angen i’r sylfaenydd Simon Green sicrhau cadwyni cyflenwi diogel ar gyfer ei gleientiaid. Yma, mae Laura James o CPS, yn dweud sut y bu i Simon Green feithrin ac ehangu ei...
Y busnesau yng Nghymru sydd ar flaen y gad yn y frwydr yn erbyn COVID-19
Mae llawer o bethau o fewn y gwasanaeth iechyd rydym yn eu cymryd yn ganiataol, heb feddwl fawr ddim am yr holl gyfarpar sy’n cael ei ddefnyddio at sawl diben gan y meddygon. Un o’r offerynnau pwysig yn yr ymdrech yn erbyn COVID-19 yw’r fisgomedr clinigol. Er efallai nad ydych wedi clywed amdano, mae fisgomedr clinigol yn mesur pa mor ludiog yw hylifau’r corff, a rhannau o’r gwaed yn benodol megis plasma, serwm a gwaed...
Y busnes sy’n paratoi cwmnïau ar gyfer y chwyldro deallusrwydd artiffisial
Mae awtomatiaeth yn rhywbeth sy’n fwyfwy amlwg yn yr economi fodern, a bydd hyd yn oed yn fwy pwysig dros y misoedd a’r blynyddoedd sydd i ddod. Bydd busnesau sydd ar flaen y gad ac ym merw’r chwyldro awtomeiddio yn hollbwysig i ffyniant Cymru yn y dyfodol. Mae Nightingale HQ yn un o’r cwmnïau hynny. Mae’r cwmni’n defnyddio’i arbenigedd i helpu eraill i addasu i fyd newydd cyffrous awtomeiddio, nad yw’n ddim i’w ofni, yn...
Cwmni gwasanaethau ariannol yn mwynhau twf cyflym gyda help Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.
Mae llif o gyllid yn hanfodol i sicrhau economi sy’n gweithio, lle y mae modd buddsoddi a dod i gytundebau. I fenthyg a benthyca, a chael mynediad i gronfeydd mae angen llawer iawn o wybodaeth a phrofiad. Sefydlwyd Pure Commercial Finance gan y bancer proffesiynol Ben Lloyd. Ei weledigaeth oedd sefydlu busnes a allai gael mynediad i gyllid a ganfyddir yn “rhy anodd” i fenthycwyr prif ffrwd. Mae eisoes wedi bod yn stori lwyddiant fawr...