Bydd busnesau teuluol yn parhau yn hollbwysig o fewn economi Cymru. Mae nifer ymhlith y cwmnïau mwyaf arloesol a blaengar o fewn eu sectorau. Mae Healthcare Matters yn un cwmni o’r fath. Mae’n cynnig cynnyrch a gwasanaethau o safon i’r GIG a’r sector gofal. Mae gan y cwmni llwyddiannus o Wrecsam, sydd wedi dod yn gyflogwr hollbwysig yn yr ardal, ethos deuluol yn y bôn. Yma, mae’r cyfarwyddwr gwerthiant, Adam Spiby yn rhannu hanes Healthcare...
Sut mae y brand moethus, y Goodwash Company yn gwneud gwahaniaeth
Mae brandiadu cynaliadwy yn trawsnewid y farchnad gofal i’r croen. Mae arloesedd a’r cynhwysion, heb sôn am eu heffaith amgylcheddol a moesegol, yn eu gwneud yn fwyfwy deniadol gan ddefnyddwyr. Rhai sy’n arwain y ffordd yw’r fenter gymdeithasol o’r Barri, y Goodwash Company. Mae’r cwmni hwn yn datgan fod eu cynnyrch yn edrych yn dda “yn yr ystafelloedd ymolchi gorau o Bort Talbot i Efrog Newydd” ac mae hefyd wedi ymrwymo i wella bywydau pobl...
Cwmni technoleg diogelwch arloesol yn cadw llygad ar dwf posibl mewn marchnadoedd newydd
Mae arloesi yn aml yn sbarduno twf. Mae Xwatch yn gwmni o Gymru sy’n ysgogi twf yn y sector adeiladu diolch i’w dechnoleg sy’n torri tir newydd. Mae’r cwmni o Gwmbrân yn defnyddio gwybodaeth ei sefydlwyr am y diwydiant i ddatblygu atebion newydd ar gyfer cwmnïau adeiladu. A chyda chymorth Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru, mae Xwatch yn creu llwybrau i farchnadoedd newydd ac yn mwynhau twf addawol. Yma, mae Daniel Leaney yn esbonio llwyddiant...
Datblygiadau arloesol gan gwmni o Gymru yn helpu i drawsnewid peirianneg ym maes olew, nwy ac ynni adnewyddadwy.
Bydd yn rhaid i’r economi fod yn fwy cynaliadwy yn y dyfodol, a bydd yn rhaid i ynni glân fod yn ganolog i bopeth a wnawn. Mae llawer o fusnesau Cymru yn rheng flaen y newid hwnnw, ac mae mentrau newydd wrthi’n dod o hyd i atebion deinamig i’r heriau sy’n ein hwynebu. Un enghraifft yw Nemein o Ben-y-bont ar Ogwr, cwmni sy’n arbenigo mewn dod o hyd i atebion peirianegol cynaliadwy ar gyfer y...
Gwefan sydd wedi ennill gwobrau am y cymorth mae’n ei gynnig yn ystod y menopos am adeiladau ar ei thwf cynnar.
Un o’r dwsinau o fusnesau sydd wedi derbyn cymorth i dyfu ac i ffynnu drwy Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru yw Health & Her. Mae Health & Her yn blatfform ar-lein sy’n grymuso menywod i drin a lliniaru symptomau’r menopos. Mae’r platfform, a sefydlwyd gan Kate Bache a Gervase Fay, yn gwerthu amrediad o gynhyrchion wedi eu dewis yn ofalus gan gynnwys atchwanegiadau, llyfrau, deunyddiau gofal croen, dyfeisiau ac offer ar gyfer y cartref. Yn...
Cwrdd â’r hyfforddwr: Howard Jones
Mae Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru yn darparu mynediad at rwydwaith o arbenigwyr mewn nifer o feysydd, sy’n gallu rhoi cyngor ichi a’ch helpu i ddatblygu eich busnes. Yma rydyn ni’n siarad â Howard Jones, un o hyfforddwyr Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru, sy’n defnyddio ei brofiad a’i frwdfrydedd dros helpu busnesau i dyfu i helpu entrepreneuriaid yng Nghymru sy’n sefydlu busnesau ar eu ffordd. Allwch chi roi hanes cryno o’ch gyrfa hyd yn hyn...
Gweledigaeth cwmni logisteg o Ogledd Cymru am ragor o dwf diolch i gymorth Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru
Pan benderfynodd dau gludwr ar feiciau modur ffurfio eu busnes eu hunain 20 mlynedd yn ôl, byddai wedi bod bron yn amhosibl iddynt ddychmygu cael dros 100 o gerbydau a dros 150 aelod staff rhyw ddydd. Ond dyna’n union beth sydd wedi digwydd i Delsol ers ei ffurfio yn 1999. Mae’r rheolwr gyfarwyddwr David Phillips wedi arolygu twf cadarn y cwmni. Yn y gyfres blog ddiweddaraf ar gwmnïau sy’n cael eu cefnogi gan Raglen Cyflymu...
Cymorth Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru yn rhoi platfform ar gyfer twf i gwmni pacio cynaliadwy
Gyda gwastraff plastig yn broblem gynyddol i’r blaned, mae un cwmni o Gymru sy’n datblygu’n gyflym yn cynnig atebion i helpu i fynd i’r afael â’r broblem. Y cwmni diweddaraf i’r blog ganolblwyntio arno yw Transcend Packaging sy’n datblygu’n gyflym. Wedi’i leoli yn Ystrad Mynach, mae Transcend Packaging yn gwmni sy’n canolbwyntio ar ddeunydd pacio papur cynaliadwy a phlastigau bioddiraddiadwy sydd â phroffil amgylcheddol gwell. Yma, mae Prif Swyddog Gweithredol Transcend Packaging, Lorenzo Angelucci, yn...
O wastraff plastig i gynnyrch anifeiliaid anwes – mae Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru yn helpu cwmnïau arloesol i ddod o hyd i ffyrdd newydd o ddatblygu.
Mae defnyddwyr yn dod yn fwyfwy ymwybodol o effaith amgylcheddol y pethau y maent yn eu prynu. Mae Project Blu yn cynnig cynlluniau arloesol, cynaliadwy ar gyfer cynnyrch anifeiliaid sy’n para am amser hir. Mae’r cwmni yn anelu at wneud plastig (a deunyddiau eraill sy’n llygru) mor werthfawr fel ei fod yn cael ei ailgylchu yn hytrach na’i daflu i ffwrdd. Yma mae Geryn Evans, sylfaenydd Project Blu yn dweud hanes y cwmni ac yn...
Targedau ehangu i gwmni ffeibr optig.
Dyma barhau â’n cyfres o flogiau sy'n canolbwyntio ar fusnesau sydd wedi elwa ar gymorth Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru, drwy edrych ar Leader Optec yn Llanelwy. Mae Leader Optec yn gwmni gweithgynhyrchu ceblau ffeibr optig sy'n darparu ceblau cysylltu cyflym ar gyfer y diwydiant canolfannau data, sef sector sydd wedi tyfu'n gyflym yn y blynyddoedd diweddar. Dyma Paul Desmond o Leader Optec yn esbonio hanes ei fusnes a sut mae Rhaglen Cyflymu Twf Busnes...