Skip to main content

Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.

Gwybodaeth am gwcis

Rydym wedi arbed rhai ffeiliau o’r enw cwcis i’ch dyfais. Mae’r cwcis hyn:

  • yn hanfodol i waith y safle
  • yn helpu gwella’n gwefan trwy gasglu gwybodaeth ac adrodd am sut rydych chi’n ei defnyddio

Hefyd, hoffem arbed rhai cwcis i helpu:

  • gwella ein gwefan trwy fesur y defnydd o’n gwefan
  • cofio eich gosodiadau

Newid gosodiadau cwcis

Rydych chi wedi derbyn yr holl gwcis ar gyfer y wefan hon. Gallwch newid eich dewisiadau ar gyfer cwcis unrhyw bryd.

Welsh Government
  • EN
  • CY
Business Wales Home
  • Business Wales Hafan
  • Pencadlys Newyddion
  • Mwy
Business Wales - Accelerated Growth Programme
Toggle navigation
  • Cartref
  • Beth yw'r Rhaglen Cyflymu Twf?
  • A yw fy musnes yn gymwys?
  • Astudiaethau Achos a Newyddion
  • Proffiliau hyfforddwyr twf
  • Cysylltwch â ni
  1. Home
  2. Astudiaethau Achos a Newyddion
  3. Astudiaeth Achos

Astudiaeth Achos

Dr Golf Logo thumbnail 150x100
Astudiaeth Achos

Yr entrepreneur chwaraeon sy'n trawsnewid hyfforddiant golff i chwaraewyr ar bob lefel ledled y byd.

27 July 2021
|

“Alla i ddim argymell Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru yn ddigon cryf os ydych chi am dyfu eich busnes.”

Heb os golff yw un o'r chwaraeon mwyaf heriol yn y byd, gan estyn y gallu i ganolbwyntio a sgili i'r eithaf Mae'r awydd i lwyddo a gwella yn ysgogydd cyson i lawer o golffwyr, boed yn chwaraewyr proffesiynol ar binacl eu gêm neu amaturiaid yn eu clybiau lleol. Mae sylfaenydd Dr Golf, Zach Gould, wedi’i leoli ym Mhenarth, a chymaint roedd yn uniaethu ag awydd pobl i wella eu gêm ac i wella eu...
FSEW Logo thumbnail 150x100
Astudiaeth Achos

Freight Systems Express Wales (FSEW) yn gosod archeb gyntaf y DU ar gyfer unedau tractor trydan

12 July 2021
|

Mae’r cwmni yn tyfu’n gyflym ac yn gobeithio ehangu ymhellach wrth iddynt geisio torri allyriadau carbon 50% yn y naw mis nesaf, a datblygu’r ganolfan e-gludiant cyntaf yn Ewrop.

Mae’r blaenyrwyr llwythi o Gaerdydd, Freight Systems Express Wales (FSEW), wedi gosod archeb gyntaf y DU ar gyfer unedau tractor trydan trwm, fel rhan o ymrwymiad y cwmni i leihau ei allyriadau carbon 50% o fewn blwyddyn. Mae FSEW yn gwmni logisteg a blaenyrru llwythi rhyngwladol a leolir ar safle Freightliner yng Ngwynllŵg, Caerdydd. Ar hyn o bryd mae’r cwmni yn cyflogi tua 76 o bobl, ac yn darparu gwasanaethau cludo llwythi i gleientiaid yn...
TM thumbnail 150x100
Astudiaeth Achos

Sut mae un busnes teuluol yn anelu at ddod yn frand beicio modur eiconig yng Nghymru unwaith eto.

8 June 2021
|

"Gan ein bod yn fusnes newydd gydag uchelgeisiau twf mawr, mae cefnogaeth gan y Rhaglen Twf Cyflym wedi bod yn amhrisiadwy wrth ein helpu i gyflawni ein nodau."

Mae beic modur Wardill 4 wedi'i saernïo'n hyfryd gan beirianwyr medrus ac mae’n addo cynnig rhywbeth gwirioneddol wahanol – a Chymreig - i feicwyr modur brwd pan fydd yn mynd ar werth. Mae Wardill Motorcycles yn fusnes teuluol sydd wedi'i leoli ym Mhontypridd. Mae Mark Wardill, gor-ŵyr sylfaenydd y cwmni, Henry Wardill, yn brysur yn adfywio cwmni ag iddo hanes llwyddiannus. Ac mae ganddo ddigon o gynlluniau cyffrous ar gyfer y dyfodol. Mae Wardholl Motorcycles...
BB Logo thumbnail 150x100
Astudiaeth Achos

Cwmni atebion busnes am ehangu’n fyd-eang ar ôl sicrhau buddsoddiad.

7 May 2021
|

"Byddwn i’n annog unrhyw entrepreneur sydd wedi cael syniad gwych i fanteisio ar gymorth, cefnogaeth ac arbenigedd gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru."

I entrepreneuriaid, gall manteisio ar arbenigedd busnes penodol fod yn amhrisiadwy pan fydd ganddyn nhw fusnes sy’n tyfu ac yn datblygu. Mae Business Butler yn blatfform ar gyfer talent ar alw yng Nghymru, ac maent yn helpu'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau busnes i wneud hynny drwy eu rhoi mewn cysylltiad â phanel o arbenigwyr busnes – sydd wedi cael eu fetio – drwy eu porth ar-lein. Mae'n wasanaeth hanfodol mewn byd lle mae rhwydweithio wyneb...
Thinqi Logo thumbnail 150x100
Astudiaeth Achos

Y cwmni technoleg addysgol sy'n arwain y sector – ac sy'n parhau i dyfu.

22 April 2021
|

"Mae wedi bod yn fuddiol iawn i ddefnyddio Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru. Mae wedi rhoi'r gefnogaeth a'r anogaeth i ni dyfu a chreu swyddi."

Mae'r ffordd y cyflwynir dysgu yn esblygu'n gyson. Mae'r esblygiad hwn wedi cyflymu yn y degawdau diwethaf ochr yn ochr â datblygiadau technolegol, sydd wedi arwain at bosibiliadau niferus o ran datblygu adnoddau addysgol. Mae'r cwmni technoleg addysgol CDSM Interactive Solutions o Abertawe wedi bod yn flaenllaw iawn o ran y newid hwnnw, gan gefnogi busnes a'r llywodraeth i ddarparu addysgu a dysgu digidol i ystod eang o ddefnyddwyr. Mae CDSM Interactive Solutions wedi cael...
AL Logo thumbnail
Astudiaeth Achos

Hanes cwmni cyfreithwyr sy’n dilyn model dyngarol unigryw

1 April 2021
|

“Gan i ni gael arweiniad a help Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru, cawsom ni lansio’n gynt ac yn gryfach.”

A oes modd i gwmni cyfreithwyr weithio fel busnes cwbl ddyngarol? Mae cwmni AltraLaw o Gaerffili yn brawf bod model chwyldroadol o’r fath yn bosib, ac y gall fod yn sbardun i dyfu. Mae cymwynasgarwch yn rhan cwbl annatod o’r cwmni cyfreithwyr hwn. Cafodd ei sefydlu gan Nathan Vidini ac mae’n wahanol iawn i gwmnïau traddodiadol. Ac mae stori Nathan yn profi mor llwyddiannus y gall cwmni cyfreithwyr di-elw fod. Cafodd AltraLaw o Gaerffili help...
tsg Logo thumbnail 150x100
Astudiaeth Achos

Sut mae un cwmni o Gymru yn helpu pobl i godi yn ôl ar eu traed ar ôl difrod i’w cartrefi

17 March 2021
|

“Mae’r arbenigedd sydd ar gael drwy Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi bod yn hwb gwirioneddol i ni.”

Mae’r gwaith adfer wedi’r difrod a achoswyd gan ddigwyddiadau fel llifogydd neu dân yn rhywbeth brawychus ac emosiynol i unrhyw berchennog tŷ. Mae un cwmni o Gymru, TSG, wedi cynnig atebion arloesol i’r sector yswiriant i gefnogi gwaith adfer a helpu deiliaid tai i adennill rhywfaint o normalrwydd tra bod eu cartrefi yn cael eu hatgyweirio a’u hadnewyddu. Dechreuodd y cwmni yn 2012 ac ers hynny mae ei drosiant wedi tyfu i £4m, gan gyflogi...
Pt
Astudiaeth Achos

Mae gan fferyllfa ar-lein sy’n helpu cleifion a chartrefi gofal i reoli eu presgripsiynau’n fwy effeithiol uchelgeisiau mawr ar gyfer tyfu

11 March 2021
|

“Mae cymorth gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi bod yn amhrisiadwy wrth inni dyfu”

Mae awtomeiddio ym maes gofal iechyd yn helpu cleifion, fferyllfeydd a pherchnogion cartrefi gofal i reoli eu meddyginiaeth yn well. Mae’r fferyllfa ar-lein PillTime ar flaen y gad yn y maes hwn. Gan ddefnyddio roboteg a deallusrwydd artiffisial, mae'r cwmni wedi creu amlenni meddyginiaeth sy’n cael eu dosbarthu yn awtomatig, gan ei gwneud yn haws i bobl gymryd eu meddyginiaeth ar yr adeg gywir ac ar y diwrnod cywir. Mae PillTime wedi cael eu cefnogi...
A and R Logo thumbnail 150x100
Astudiaeth Achos

Entrepreneur yn rhannu sut mae wedi goresgyn rhwystrau personol i lywio cwmni glanhau sy’n tyfu’n gyflym i lwyddiant.

1 March 2021
|

“Mae cymorth Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi trawsnewid fy musnes.”

Mae goresgyn heriau yn brofiad cyffredin i’r rhan fwyaf o entrepreneuriaid. Fodd bynnag, mae rhai rhwystrau’n fwy nag eraill. Mae Rayner Davies yn entrepreneur sydd wedi troi ei busnes yn llwyddiant ysgubol diolch i’w dycnwch a’i natur benderfynol. Mae ei stori ysbrydoledig yn profi sut gall ysbryd entrepreneuraidd a meddylfryd o ddyfalbarhad, sbarduno twf personol a busnes. Mae ei chwmni, Gwasanaethau Glanhau A&R, wedi cael cymorth drwy Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru. Mae Rhaglen Cyflymu...
VT Logo thumbnail 150x100
Astudiaeth Achos

Mae gan gwmni technoleg newydd olwg 360 gradd wrth iddo edrych ymlaen at ddyfodol cyffrous.

18 February 2021
|

“Rydyn ni’n ddiolchgar iawn am y cymorth mae Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi’i roi inni.”

Mae'r defnydd o dechnoleg rithwir i gynorthwyo busnesau ar draws amrediad o sectorau’n tyfu. Gwelodd myfyrwyr Prifysgol Caerdydd George Bellwood a Robin David fwlch, a datblygu dechnoleg i lenwi’r bwlch hwnnw, gan ddefnyddio eu harbenigedd a'u sgiliau pan oedden nhw yn eu blynyddoedd olaf yn y brifysgol. Mae eu cwmni, Virtus Tech, yn gwmni realiti rhithwir a dealltwriaeth data sy'n darparu platfformau rhithwir i fusnesau. Mae eu DIGI Tour blaenllaw yn defnyddio delweddau 360 gradd...

Pagination

  • First page « First
  • Previous page <<
  • …
  • Tudalen 3
  • Tudalen 4
  • Tudalen 5
  • Tudalen 6
  • 7
  • Tudalen 8
  • Tudalen 9
  • Tudalen 10
  • Tudalen 11
  • …
  • Next page >>
  • Last page Last »

Categories

  • Astudiaeth Achos
  • Newyddion

Archive

  • September 2025 (2)
  • August 2025 (2)
  • July 2025 (2)
  • June 2025 (3)
  • May 2025 (2)
  • April 2025 (1)
  • March 2025 (4)
  • February 2025 (5)
  • January 2025 (1)
  • December 2024 (2)
  • March 2024 (2)
  • January 2024 (1)

Cysylltwch â ni

Facebook Icon LinkedIn Icon Twitter Icon Youtube Icon Instagram Icon

Tanysgrifio i ebost

Tanysgrifiwch i dderbyn e-gylchlythr

Tanysgrifio

I gael cymorth neu gyngor busnes ffoniwch

03000 6 03000

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg

  • Darganfyddwch fwy Amdanom ni
  • Hygyrchedd
  • Cysylltwch â ni
  • Cwcis
  • Hawlfraint
  • Preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Datganiad Iaith Gymraeg
Llywodraeth Cymru | Welsh Government

Mae'r holl gynnwys ar gael yn Open Government Licence, oni noder yn wahanol

Busnes Cymru. Llywodraeth Cymru © 2025