Mae llunio strwythur sefydliadol yn rhan allweddol o sefydlu busnes cymdeithasol.
Prif ddiben eich dogfen strwythur sefydliadol fyddai amlinellu sut mae’r cyfrifoldeb yn cael ei rannu rhwng gwahanol rolau a’i gynnal gan amryw reolau i sicrhau bod y busnes yn gweithio tuag at ei nodau.
Beth yw strwythur sefydliadol mewn busnes?
Mae rhai swyddogaethau’n hanfodol i bob busnes, fel llywodraethu a chynllunio strategol, rheoli ariannol, marchnata, rheoli adnoddau dynol a gweithrediadau. Mae angen i’r rhain gael eu cyflawni gan unigolion, timau neu adrannau.
Yn eich strwythur sefydliadol, disgrifiwch sut y bydd y rhain a swyddogaethau eraill sy’n benodol i’ch model busnes yn cael eu rheoli.
Cyn i chi ddechrau, bydd angen i chi ddeall y gwahaniaeth rhwng llywodraethu a rheoli. Mae rheoli’n ymwneud â sicrhau bod y busnes yn cael ei gynnal yn unol â pholisïau. Mae llywodraethu, ar y llaw arall, yn ymwneud â gosod polisïau a strategaethau. Bydd angen i chi gael strwythurau ar gyfer y ddau.
Templed hierarchaeth sefydliadol
Nid oes angen i chi gael siart sefydliadol fanwl ar gyfer eich busnes cymdeithasol ar y cam hwn, ond gallwch lunio un os ydych eisiau. Y brif flaenoriaeth yw gallu disgrifio’r berthynas rhwng y prif grwpiau sy’n ffurfio’r busnes. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Perchnogion
- Bwrdd cyfarwyddwyr neu ymddiriedolwyr
- Aelodau (lle mae perchnogaeth ar agor i unrhyw un sy’n bodloni’r meini prawf ar gyfer aelodaeth)
- Aelodau cyswllt (sydd â llai o hawliau a chyfrifoldebau nag aelodau llawn), aelodau prawf (sydd ar y ffordd i fod yn aelodau llawn) neu gategorïau eraill aelodaeth
- Rheolwyr
Strwythurau busnes partneriaeth
Gallech ystyried rhywbeth mwy cymhleth, fel consortiwm o aelod-sefydliadau neu system freinio. Neu gallech fwriadu i’ch sefydliad ffurfio partneriaethau neu berthnasoedd agos â sefydliadau eraill a chyrff statudol. Os yw hyn yn wir am eich busnes cymdeithasol chi, dylech nodi’r perthnasoedd hyn yn benodol.
Os ydych yn bwriadu i’r aelodau berchen ar y busnes a’i reoli’n ddemocrataidd, gallech ddymuno mabwysiadu strwythur cydweithredol. Mae nifer o wahanol fathau o gwmnïau cydweithredol, ond maen nhw i gyd yn cydymffurfio â set benodol o egwyddorion. Gallwch gael gwybod mwy am beth yw cwmni cydweithredol ar wefan Co-operatives UK.
Os ydych yn ystyried sefydlu cwmni cydweithredol, gwnewch yn siŵr eich bod yn nodi’n benodol pa fath o gwmni cydweithredol rydych chi’n ei ystyried a pha fanteision yr ydych yn disgwyl i’r ethos cydweithredol arwain atynt.
Gallech hefyd ddewis model sy’n cynnwys perchnogaeth gan weithwyr. Dysgwch fwy am hynny ar ein tudalen Perchnogaeth gan Weithwyr.
