Nid yw unrhyw fusnes yn dwyn elw yn syth. Hyd nes y bydd eich busnes cymdeithasol yn dwyn elw, bydd angen buddsoddiad arno.
Yn yr adran hon, edrychwn yn fanylach ar amlinellu eich gofynion buddsoddi a’r camau sy’n gysylltiedig â sicrhau buddsoddwyr.
Ni fyddwch yn gallu lansio eich menter hyd nes y byddwch wedi denu buddsoddiad. Felly, mae dichonoldeb yn dibynnu ar sicrhau buddsoddiad. Fodd bynnag, bydd yn anodd codi arian cyn sefydlu dichonoldeb – sy’n broblem ddyrys.
Hyder yw’r ateb i ddatrys y sefyllfa hon. Ysbrydoli hyder darpar fuddsoddwyr yw un o’r rhesymau pam mae angen i chi gael astudiaeth ddichonoldeb dda.
Gofynion buddsoddi
Mae eich astudiaeth ddichonoldeb yn asesu ymarferoldeb eich cynnig ar gyfer busnes cymdeithasol. Ynddi, byddwch yn disgrifio ac yn meintioli’r buddsoddiad y bydd ei angen ar eich busnes cymdeithasol tan iddo gyrraedd y ‘pwynt adennill costau’, pan fydd yn dwyn elw ac yn hunangynhaliol.
Pan fyddwch yn amlinellu eich cyllideb, nodwch faint y bydd arnoch ei angen, am beth ac am ba mor hir, mor gywir ag y gallwch. Gellir rhannu hyn yn fuddsoddiad cyfalaf (arian i brynu pethau mawr) a chyfalaf gweithio – yr arian parod sy’n angenrheidiol i sicrhau y gellir talu’r holl filiau’n brydlon.
Cyllid buddsoddi
Pan fydd gennych syniad o’ch holl ofynion buddsoddi, ystyriwch ba ffynonellau cyfalaf sydd ar gael i chi. Os ydych wedi dechrau siarad â darpar fuddsoddwyr neu os yw unigolion wedi addo rhoi cymorth i chi, gan gynnwys aelodau eich grŵp llywio, dylech gynnwys hyn yn eich astudiaeth ddichonoldeb.
Mathau o fuddsoddwyr
Ceir sawl gwahanol fath o fuddsoddi. Nid yw’n gyfyngedig i grantiau a benthyciadau arian parod yn unig. ‘Ecwiti chwys’ yw’r enw ar yr amser a’r egni a gyfrennir gan bobl yn wirfoddol at gychwyn menter. Mae hyn yn cynnwys gwaith pobl fel chi eich hun a’r ewyllys da, y rhoddion, y cyfleoedd a’r arbenigedd a roddir gan eich cefnogwyr am ddim.
Amlinellwch eich gofynion buddsoddi a’ch darpar fuddsoddwyr gan ddefnyddio ein templed:
