Cyn symud ymlaen â’ch busnes cymdeithasol, ystyriwch eich ffactorau llwyddiant allweddol.
Pa bethau y mae’n rhaid iddyn nhw fod ar waith? Meddyliwch hefyd am risgiau posibl a sut y gallwch eu hatal rhag niweidio eich menter.
Ffactorau llwyddiant allweddol ar gyfer eich menter gymdeithasol
Mae ffactorau llwyddiant allweddol eich busnes cymdeithasol yn cynnwys amrywiaeth o ystyriaethau. Er enghraifft, a yw’r prosiect yn dibynnu ar gaffael safle? A oes rhaid i gontract penodol fod ar waith? Mae cyflawni’r nodau hyn yn flaenoriaeth, felly dylech lunio cynllun.
Os oes sawl ffactor llwyddiant allweddol, sut maen nhw’n gysylltiedig â’i gilydd? Beth yw eu trefn? Er enghraifft, gallech ddod ar draws sefyllfa fel cytundeb prydles sy’n gofyn am fusnes corfforedig, ond gallai corffori cyn i’r holl rannau fod yn eu lle fod yn gamgymeriad costus. Sut byddwch chi’n ymdrin â hynny?
Dadansoddi risgiau busnes cymdeithasol
Bydd pobl sy’n darllen eich astudiaeth ddichonoldeb yn chwilio am dystiolaeth eich bod wedi ystyried risgiau a chymryd camau i’w lliniaru. Gallech wneud hyn mewn sawl ffordd, ond mae’n debygol mai dadansoddiad SWOT fyddai’n fwyaf priodol ar y cam hwn. I wneud hyn, gofynnwch i’r grŵp llywio restru pob un o’r canlynol mewn perthynas â’r prosiect:
- Cryfderau
- Gwendidau
- Cyfleoedd
- Bygythiadau
Pan fyddwch yn fodlon bod y rhestrau wedi’u cwblhau, ystyriwch ffyrdd o ddileu, gostwng neu leihau’r gwendidau a’r bygythiadau.
Yn olaf, diffiniwch eich cynlluniau wrth gefn a’ch strategaethau ymadael.
Ar gyfer pob un o’r pethau a allai fynd o chwith, beth fyddech chi’n ei wneud pe byddai hynny’n digwydd? Sut gallech chi leihau graddfa eich busnes cymdeithasol neu ei gau heb beryglu’r hyn rydych chi a phobl eraill wedi’i fuddsoddi?